Entrepreneuriaid ifanc y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Tesni CalennigFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Tesni Calennig yn ei gweithdy newydd

Gydag arholiadau, gwaith a chymdeithasu ar stop oherwydd y pandemig, mae rhai pobl ifanc wedi defnyddio'r amser rhydd i ddechrau busnesau i greu nwyddau a'u gwerthu dros y we.

line

Mae'r cyfnod clo wedi agor drysau i bobl fel Tesni Calennig.

Chwe mis yn ôl roedd y myfyriwr celf wedi disgyn mewn cariad efo gemwaith. Roedd wedi cael gwersi, prynu'r deunydd crai a throi sied ei thad yn weithdy.

Yr un peth oedd ar goll oedd amser. Roedd hi'n gweithio mewn siop ac yn astudio yng Ngholeg Menai, Bangor - taith dwyawr yno ac yn ôl o'i chartref.

Er bod y cyfnod cloi wedi cael effaith mawr ar ei bywyd a'i chynlluniau i fynd i'r brifysgol, mae rhywbeth positif wedi dod o'r cyfan hefyd.

"Gan 'mod i'n gweithio gymaint ac yn y coleg, yr unig amser oedd gen i i wneud gwaith metel oedd gyda'r nos," meddai'r myfyriwr 18 oed o Garndolbenmaen, ger Porthmadog.

"Felly ar ôl fy ngwers gynta' ro'n i fyny tan chwech y bore yn gwneud y gwaith. Doedd gen i ddim amser o gwbl - tan y lockdown. Hefyd ges i ychydig o bres furlough o'r gwaith, felly aeth y pres yna i dalu am fwy o fetelau a cherrig i wneud y gemwaith."

Tesni CalennigFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tesni Calennig wedi bwriadu mynd i brifysgol ar ôl yr haf, ond mae'n ansicr beth fydd yn digwydd oherwydd y pandemig

Gyda mwy o amser ar ei dwylo fe gydweithiodd gyda Casi Wyn i wneud Modrwyau Gobaith. Roedd y dyluniad wedi ei ysbrydoli gan gerdd oedd y gantores wedi sgwennu ac mae rhan o'r elw yn cael ei roi i elusen iechyd Awyr Las.

"Wnaeth y 10 modrwy cynta' werthu mewn dwy awr, roedd o'n crazy," meddai Tesni. "Dwi mond wedi dechrau gweithio efo metel ers mis Rhagfyr felly ro'n i wedi gwirioni.

"Dwi'n meddwl bod lot mwy o bobl wedi darganfod fy ngwaith i achos mae pobl ar eu ffôns yn ystod y cyfnod yma ac mae lot o retail therapy yn digwydd."

Ychwanegodd bod sawl un o'i chyfoedion wedi sefydlu busnesau bach tebyg, yn cynnwys ei chyd-fyfyriwr Mari Evans, o'r Felinheli.

Roedd hithau hefyd wedi bod yn creu ychydig cyn y cyfnod clo ac mae wedi bachu ar y cyfle i ddatblygu'r busnes.

Mari EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mari Evans gyda detholiad o'i gwaith

"Dwi mond wedi bod yn gwneud hyn ers ychydig wythnosau a dwi reit stressed," meddai Mari, sy'n gwerthu printiau. "Dwi'n meddwl oherwydd y lockdown mae pobl wedi mynd mor greadigol.

"Do'n i'm yn gwybod dim am fusnes tan rŵan felly mae o wedi bod yn learning curve mawr. Dwi'n sicr wedi dysgu bod yn patient yn disgwyl am ordors ar ôl i rywun gysylltu yn holi am brint."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Ond nid myfyrwyr celf yn unig sydd wedi bod yn creu.

Astudio Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mangor mae Ella Owen. Roedd wedi gwneud scrunchies gwallt i aelodau o'i theulu cyn dechrau eu gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Nesh i fynd trwy wardrob a ffeindio lot o hen ddillad a meddwl fasa'n bechod taflu nhw allan, felly dechrau gwneud y scrunchies," meddai.

Ella OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ella Owen

"Dwi'n siŵr yn yr wythnos gynta' nesh i wneud 100 ohonyn nhw. Roedd rhaid i fi stopio cymryd ordors."

Mae hi'n dweud ei bod hi'n elwa yn greadigol, yn ariannol ac yn dysgu am feysydd newydd:

"Nesh i gŵglo lot i wybod be' i wneud. Dwi wedi dysgu pethau fel sut i farchnata, be' ydi'r ffordd gorau i gael llun sy'n dal llygaid rhywun - efo cefndir syml, a sut i sgwennu rhywbeth sy'n short and snappy."

Yn ôl Martha Owen, myfyrwraig blwyddyn gyntaf seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae pobl yn ystod y cyfnod yma yn cael pleser o brynu a gwerthu anrhegion bychan.

Roedd hithau hefyd wedi gwneud ambell i lun digidol i deulu cyn eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol a cheisio creu busnes.

Martha OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Martha Owen

"Do'n i ddim yn disgwyl gwneud gymaint, ro'n i jest eisiau rhywbeth i'w wneud," meddai. "Mae o'n gwneud profit bach a dwi'n safio amser yn mynd allan yn ystod y lockdown hefyd.

"Yn ystod y lockdown mae pobl wedi bod yn dechrau gyrru pethau yn y post i ffrindiau a theulu. Mae bob dim ar y we ac yn ddigidol dyddiau yma felly mae'n neis i gael rhywbeth 'go iawn'."

Hefyd o ddiddordeb: