101 o achosion ymysg gweithlu ffatri ym Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Kepak
Disgrifiad o’r llun,

Mae 130 o weithwyr ffatri Kepak wedi cael prawf positif am Covid-19 ers mis Ebrill

Mae pobl sy'n rhannu cartrefi gyda gweithwyr ffatri Kepak ym Merthyr Tudful sy'n wedi cael prawf positif am Covid-19 wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu wrth i nifer yr achosion gynyddu yno.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai unrhyw weithred bellach yn cael ei gymryd, fel cau ysgolion.

Cafodd 810 o weithwyr eu profi ddydd Sadwrn, gyda 101 o'r rheiny yn brofion positif.

Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 130 o weithwyr y ffatri wedi cael prawf positif ers mis Ebrill.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru cafodd 116 o achosion positif newydd o Covid-19 eu cadarnhau ledled Cymru yn y 24 awr ddiwethaf, gyda 97 o'r rhain yn ardal Merthyr Tudful.

Kepak â 'mesurau rhesymol' mewn grym

Dywedodd Heather Lewis o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod clystyrau o achosion i'w disgwyl mewn rhai mannau wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

"Mae unrhyw berson sydd wedi bod mewn cyswllt â pherson sydd wedi cael prawf positif wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu er mwyn atal y feirws rhag gwasgaru i'r gymuned ehangach," meddai.

Ychwanegodd bod yr Arolygiaeth Iechyd a Gofal wedi mynychu'r safle a phenderfynu bod Kepak yn "gweithredu mesurau rhesymol" i atal y lledaeniad o fewn y gweithlu.

Mae tîm aml-asiantaeth yn ymchwilio i'r clwstwr yn y ffatri, sy'n cynnwys Cyngor Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yr Arolygiaeth Iechyd a Gofal, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Llywodraeth Cymru.