Dryswch ar ôl derbyn dau lythyr gwahanol am hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Teulu Fare o Gonwy

Mae teulu sydd wedi bod yn hunan-ynysu ers mis Mawrth oherwydd cyflwr iechyd wedi dweud eu bod wedi derbyn llythyron gan Lywodraeth Cymru a'r DU yn rhoi dyddiadau gwahanol ynglŷn â phryd y gallen nhw roi'r gorau i hunan-ynysu.

Mae Imogen, 8, ac Annabelle, 4, yn byw gyda chyflwr ffeibrosis systig, ac mae'r ddwy ferch a'u rhieni, David ac Alison, wedi bod yn hunan-ynysu ers dechrau'r cyfnod clo.

Ond mae'r teulu, sydd o ardal Conwy, wedi derbyn llythyr gan Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock yn dweud y gallen nhw stopio hunan-ynysu ar 1 Awst.

Mae'r llythyr gan Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething yn dweud y bydd angen iddyn nhw barhau i wneud hynny tan 16 Awst.

'Gwrando ar yr un Cymreig'

"Mae pethau'n drysu dyn," meddai David Fare wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Mae'n anodd i bobl ddeall pam bod y feirws 'ma'n stopio pan mae'n cyrraedd Caer. Mae'n drysu pobl sydd ddim 100% beth i 'neud gyda'i hunain.

"Dwi'n mynd i wrando ar yr un Cymreig, yr un sy'n mynd i gadw ni'n saff am y cyfnod hiraf dwi'n meddwl. Y peth yw does neb yn gw'bod 100% beth 'neith ddigwydd."

Dyw Mr Fare ddim yn gw'bod pam ei fod wedi derbyn llythyr o Loegr.

"Dim syniad o gwbl. Dwi wedi bod yn gofyn i'r Gymdeithas Ffeibrosis Systig. Ma' Alison wedi bod yn siarad gyda pobl, a does neb yn gw'bod pam."

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y gallai cleifion o Gymru sy'n cael triniaeth dros y ffin dderbyn llythyrau gan GIG Lloegr.

Ond os ydyn nhw wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, yna fe ddylen nhw ddilyn y cyngor hwnnw.

Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud os oes gan gleifion unrhyw amheuon ynglŷn a gwarchod a chysgodi, yna fe ddylen nhw gysylltu â'u meddyg teulu.

Mae David yn dweud bod hunan-ynysu yn dechrau mynd yn anodd i'w ferched wrth i'w ffrindiau ddychwelyd i'r ysgol.

"Ma' nhw'n iawn. Mae Annabelle yn edrych 'mlaen i'w phen-blwydd mewn llai na phythefnos.

"Mae'i ffrindiau wedi mynd nôl i'r ysgol a ma' hynny'n dechrau effeithio ar Imogen dipyn, y ffaith bod nhw'n cael mynd nôl i'r ysgol a bod nhw'n aros adre.

"Pan oedd pawb adre roedd hi lot haws egluro, 'Does neb yn mynd i'r ysgol', a rŵan mae ei ffrindiau hi'n dychwelyd i fywyd normal."