Benthyciad ariannol i 'achub' swyddi cwmni dur

  • Cyhoeddwyd
Dur

Mae llywodraeth y DU wedi rhoi benthyciad ariannol i gwmni dur, fydd yn helpu i achub cannoedd o swyddi yn ne Cymru.

Mae cwmni dur Celsa yn cyflenwi'r diwydiant adeiladu a bydd y benthyciad yn diogelu 1,000 o swyddi, gan cynnwys 800 ym mhrif safleoedd y cwmni yn ne Cymru.

Nid yw'r swm wedi cael ei ddatgelu, ond credir ei fod yn ddegau o filiynau o bunnoedd ac fel rhan o amodau'r benthyciad mae disgwyl i Celsa dalu'r ddyled yn ôl yn llawn.

Mae'r cytundeb yn cynnwys amodau eraill i geisio gwneud yn siwr y bydd y benthyciad o fudd i'r gweithlu, y busnes a'r gymuned yn gyffredinol.

Bydd hyn yn sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gefnogi polisiau ehangach megis:

  • Ymrwymiad i ddiogelu swyddi;

  • Targedau carbon-zero a newid hinsawdd;

  • Cyfyngu ar gyflogau a thaliadau bonws rheolwyr y cwmni.

Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys ymrwymiadau ariannol gan gyfranddalwyr y cwmni, a benthycwyr eraill.

"Mae'r llywodraeth wedi dod a rheolwyr, cyfranddalwyr a benthycwyr eraill at ei gilydd i greu pecyn cryf o gefnogaeth i'r cwmni, y gweithwyr ac economi'r DU," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Mae hon yn ddêl dda i bawb."

Hanes 'hir a balch'

Ym mis Mawrth cyflwynodd y Llywodraeth nifer o fesurau i gefnogi busnesau a diogelu swyddi yn ystod y pandemig coronafeirws.

Pwysleisiodd y llefarydd mai dim ond pan oedd pob opsiwn arall wedi methu y byddai'n ystyried benthyciad brys.

Ychwanegodd y dylai cwmni allu dangos fod ganddynt ddyfodol tymor-hir, ac y byddai'n cael effaith andwyol ar yr economi pe bai'n mynd i'r wal.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n agos gyda Celsa â phartneriaid eraill i sicrhau bargen a fydd yn diogelu swyddi tra chrefftus yn ne Cymru ac yn cryfhau dyfodol economaidd yr ardal.

"Mae gennym ni hanes hir a balch o gynhyrchu dur yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r tîm yn Celsa i helpu sicrhau llwyddiant y cwmni."