Cyfyngiadau teithio i ddod i ben yng Nghymru ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i gael gwared ar y cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru wedi cael eu cadarnhau gan y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford bythefnos yn ôl y gallai'r gorchymyn i "aros yn lleol" gael ei ddiddymu ar 6 Gorffennaf pe bai coronafeirws yn parhau dan reolaeth yma.
Y canllaw ar hyn o bryd yw na ddylai pobl deithio dros bum milltir o'u cartref oni bai bod gwir angen.
Fe wnaeth Mr Drakeford gadarnhau'r penderfyniad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru am 12:30 dydd Gwener, ond ni fydd y rheol yn cael ei ddiddymu nes dydd Llun.
Rhagor o lacio ar y cyfyngiadau
Daw yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau y bydd hawl gan dafarndai a bwytai i ailagor tu allan o 13 Gorffennaf.
Daeth cadarnhad hefyd ddydd Iau bod modd i atyniadau twristiaid ailagor o 6 Gorffennaf, a bod disgwyl i lety gwyliau hunangynhwysol allu ailagor o 11 Gorffennaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eisoes y bydd dau gartref yng Nghymru yn cael ffurfio "un cartref estynedig" a chwrdd â'i gilydd yn eu cartrefi o ddydd Llun ymlaen.
Dywedodd Mr Drakeford yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener bod angen i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol a pharchu'r lleoedd a'r cymunedau y maen nhw'n ymweld â nhw.
Galwodd ar bobl i feddwl yn "ofalus am ble ry'n ni'n mynd a pham".
"Rydw i eisiau gweld mwy o economi Cymru yn adfer, ond bydd hynny'n dibynnu nid ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, ond ar weithredoedd pawb ohonom fel dinasyddion Cymru," meddai.
Ychwanegodd y bydd angen i bobl wneud yn siŵr eu bod yn chwilio am wybodaeth ymlaen llaw cyn ymweld ag ardal, mynd i rywle arall os yw'n brysur yno, sicrhau nad ydynt yn gadael sbwriel a dangos parch at drigolion lleol.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi pwysleisio bod defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol yn unig, lle nad oes dewisiadau teithio eraill ar gael.
Cadw pellter yn parhau'n 2m
Dywedodd Mr Drakeford y bydd y rheol ar gadw pellter cymdeithasol yn aros yn ddau fetr am y tro, ond awgrymodd y gallai hynny newid yn yr wythnosau nesaf.
"Dau fetr yw'r cyngor gorau - rydych chi'n fwy diogel dau fetr i ffwrdd nag ydych chi un metr i ffwrdd," meddai.
"Ond dan rai amgylchiadau fe allai fod yn bwysig i leihau'r pellter, ac os ydyn ni'n gwneud hynny byddwn yn disgwyl gweld mwy o fesurau diogelwch mewn lle.
"Dyna'r broses ry'n ni'n gweithio arni yma yng Nghymru a bydd mwy i'w ddweud ar hynny dros yr wythnos nesaf."
Yn yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn "ystyried amryw o opsiynau penodol ar gyfer agor y sector lletygarwch (tafarndai a bwytai) yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf, llety gwyliau hunangynhwysol o 11 Gorffennaf a gwasanaethau trin gwallt drwy apwyntiad".
Yr ymateb gwleidyddol
Fe wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Covid-19, Darren Millar groesawu'r newyddion, ond dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi diddymu'r rheol pum milltir yn syth fel na fyddai pobl yn "colli penwythnos arall".
Croesawodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y datblygiad hefyd, ond dywedodd bod angen mwy o eglurder ar wisgo mygydau ble nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.
Mae Mel a Lis Williams o Lanuwchllyn - sydd â phlant a'u teuluoedd yn byw yng Nghaernarfon a Chaerdydd - ymysg y teuluoedd sydd heb weld ei gilydd wyneb yn wyneb ers misoedd
''Efo'r plant mae un teulu yng Nghaernarfon (eu mab Deian) sydd â merch fach newydd ei geni pedwar mis yn ôl," meddai Mel.
"Roedden ni'n lwcus - fe gafon ni ei gweld hi cyn cychwyn y cload 'ma - ond ers hynny wrth gwrs de' ni m'ond yn gweld hi mewn ffilmiau a fideos.
"Mae hynny'n dda ofnadwy ond fedrwn ni ddim symud i Gaernarfon i'w gweld nhw oherwydd gawn nhw ddim derbyn ni na ni fynd o fan hyn, a dyna ydy'r peth gwaetha'."
'Sylweddoli faint wyt ti 'di golli'
Mae dau o'u plant - Gwion a Derith - yn byw yng Nghaerdydd.
"Fel arfer bydden ni wedi mynd lawr un neu ddau o weithiau i'r de ac aros am 'chydig ddyddiau, ond fedrwn ni ddim rŵan wrth gwrs - 'da ni wedi cael ein cloi yma."
Ond mae Mel a Lis yn edrych 'mlaen yn arw at allu gweld eu meibion a'u teuluoedd unwaith eto unwaith y bydd y rheolau ar deithio yn cael eu llacio ddydd Llun.
"Ti'n sylweddoli faint wyt ti 'di golli wrth gael dy gau mewn," meddai Mel.
"Ond fyddwn ni ddim yn poeni na'n meddwl am hynny pan ddoith o [llacio'r rheolau].
"Wrth gwrs bydd o'n hynod o gyffrous."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020