'Os chi’n clywed drwy’r amser bod eich iaith yn marw pam fydde chi’n ei dysgu?'
- Cyhoeddwyd
Fe all cymunedau Gaeleg yn yr Alban ddiflannu o fewn 10 mlynedd yn ôl adroddiad newydd - ond mae'n bwysig peidio anobeithio meddai dau siaradwr Gaeleg a Chymraeg wrth Cymru Fyw.
Darlun du iawn sy'n dod i'r amlwg o'r astudiaeth ddiweddaraf ac mae teitl y llyfr yn gosod y cywair: The Gaelic Crisis in the Vernacular Community: A comprehensive sociolinguistic survey of Scottish Gaelic.
Prifysgol yr Ucheldir a'r Ynysoedd sydd tu ôl i'r ymchwil, ar ôl astudio defnydd o'r iaith yn ynysoedd y gorllewin, Tiriodh (Tiree) a'r Ynys Hir (Skye).
Yn ôl yr academyddion mae defnydd o'r Aeleg yn rhy isel ac mae rhybydd na fydd posib ei chynnal fel iaith gymuned yn y dyfodol. Mae galw am bolisïau newydd i'w hachub, gyda'r pwyslais ar y gymuned yn hytrach na'r system addysg.
Yn ôl awdur yr adroddiad, yr Athro Conchúr Ó Giollagáin, mae'r dirywiad yn amlwg o wybod cyn lleied mae'r Aeleg yn cael ei defnyddio fel iaith teulu ac ymysg pobl ifanc yn eu harddegau.
Ond yn ôl Mary Scammell mae'n rhaid cofio un peth pwysig:
"Maen nhw'n sôn am blant a teenagers ddim yn siarad yr iaith, ond y peth am teenagers ydi, maen nhw'n tyfu i fyny - fel arfer. Mae pobl yn newid."
Ac mae hi'n siarad o brofiad personol.
Fe wnaeth Mary, sy'n dod o America yn wreiddiol, symud o Gaeredin i Inverness yn 1985 er mwyn i'w merch gael addysg Gaeleg yn yr ysgol gynradd, rhywbeth prin iawn bryd hynny.
Mae ei merch Eilidh bellach yn byw ar yr Ynys Hir a'i gwaith ydi ceisio gwarchod enwau Gaeleg ar lefydd yn yr Alban.
Mae hi wedi bod yn treulio'r cyfnod clo ar fferm ei chariad yn Galloway, yn ne'r wlad, ac er nad ydi'n ardal Gaeleg mae diddordeb yno.
"Tydi nhw ddim yn siarad Gaeleg erbyn hyn yno, ond mae'r enwau Gaeleg ar lefydd ar y ffermydd ac mae diddordeb yn yr iaith," meddai Mary.
Agweddau yn gallu newid
Dywed bod cariad ei merch wedi dechrau dysgu'r iaith yn ddiweddar a phan mae o wedi bod yn siarad gyda Mary dros Zoom yn ystod y cyfnod clo maen nhw'n cyfarch ei gilydd mewn Gaeleg.
"Os fyddai nhw byth yn priodi a chael plant fyddai'r plant yn cael eu codi yn y Gaeleg, dyna fyddai fy merch eisiau - ond pan oedd hi yn teenager fydden ni heb ddisgwyl hynny o gwbl."
Mae Siarl Wilson hefyd yn meddwl bod angen bod yn bositif.
O Abertawe yn wreiddiol, mae'n byw yng Nghaeredin erbyn hyn ac yn gwneud doethuriaeth i dafodiaith Gaeleg gan dreulio cyfnodau hir ar yr ynysoedd fel rhan o'i waith.
Meddai: "Os chi'n clywed drwy'r amser bod eich iaith yn marw pam fydda chi'n ei dysgu? Tydi adroddiadau fel hyn ddim yn helpu.
"Ni ffili anwybyddu'r ymchwil ond ni'n gallu bod yn fwy cadarnhaol."
Y ffordd i roi hwb i'r iaith, meddai Siarl, ydi canolbwyntio ar gael cymuned gynaliadwy.
Meddai: "Mae sefyllfa'r iaith yn gysylltiedig gyda'r economi, a dim ond twristiaeth sydd ganddyn nhw ar yr ynysoedd. Mae angen economi cryf i wneud yn siŵr nad ydi'r gymuned yn marw a'r iaith yn mynd gydag ef.
"Dwi'n siarad gyda'r hen siaradwyr Gaeleg brodorol yn aml ac maen nhw wastad yn dweud wrtha i fod cymaint o dai gwag yn y pentrefi, felly pan 'da ni yn siarad am iaith mae'n bwysig i siarad am y diwylliant a'r economi a'r gymuned hefyd, a dyna sydd ar goll yn y drafodaeth."
Yn ôl yr adroddiad, mae tua 11,000 o siaradwyr Gaeleg - y rhan fwyaf ohonyn nhw dros eu hanner cant.
Mae angen gwrando ar y bobl brodorol hynny ynglŷn â'r dyfodol, meddai Siarl, gan fod peryg i lais siaradwyr ail-iaith gael eu clywed yn fwy aml - pobl fel fo'i hun a'r athro sydd wedi sgwennu'r adroddiad diweddaraf.
"Mae angen bod yn ofalus o agwedd colonaidd," meddai.
Sefyllfa gwahanol iawn i'r Gymraeg
Dywed Siarl bod angen newid agweddau yng ngweddill y wlad tuag at yr iaith.
"Tydi pobl yng ngweddill yr Alban ddim yn gweld Gaeleg fel rhan o'u hunaniaeth.
"Mae'r sefyllfa'n wahanol i Gymru lle mae pobl uniaith Saesneg, rwy'n gwybod bod rhai yn gallu bod yn gas am yr iaith, ond mae nifer fawr ohonyn nhw yn gweld y Gymraeg fel rhan o'u hunaniaeth a'u hanes.
"Ro'n i wedi dychryn efo'r agwedd yma tro cyntaf."
Yr un yw'r gri gan Mary Scammell - bod angen newidiadau ehangach.
Meddai: "Mae angen mwy o gerddoriaeth Gaeleg, fel y grŵp Runrig, a byddai grŵp fel Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn beth da yma.
"Un o'r problemau ydi tai haf a hen bobol yn symud i'r ardal a 'meddwl bod yr Aeleg yn is ac yn bla - mae'n broblem.
"Ond cofiwch fod adroddiadau wedi bod, bod y Gernyweg wedi marw - ond mae wedi adfywio. Mae mwy yn siarad Gaeleg, felly mae gobaith."
Hefyd o ddiddordeb: