Coronafeirws: Diwedd y daith i weithio mewn swyddfa?
- Cyhoeddwyd
I lawer iawn o bobl, ein llofftydd a'n ceginau yw'r gweithle yn ystod y cyfnod clo, wrthi i swyddfeydd y wlad aros ar gau am y tro.
Ac mae'r syniad o ddychwelyd i weithio mewn swyddfa yn rhyfedd i rai, ond yn un i'w groesawu gan eraill.
Mae llawer o gyflogwyr wedi derbyn fod sefyllfa gwaith eu staff wedi newid yn sylweddol, ac mae rhai wedi gweld y manteision sydd wedi codi o'r sefyllfa newydd.
"Mae'r pandemig wedi gorfodi busnesau i wneud pethau'n wahanol - fydd pethau ddim yn dychwelyd yn union i'r hyn yr oedden nhw cynt," meddai Alan Jones o gwmni Hugh James.
Pa ddyfodol i Gymru'r gweithle?
Mae bron i hanner yr holl oedolion sydd mewn gwaith yn y DU (49%) yn gweithio adref o achos coronafeirws, yn ôl y ffigyrau diweddaraf. Cyn y pandemig, dim ond 5% o bobl oedd yn gwneud hyn.
Os bydd gweithwyr yn dychwelyd i swyddfa ganolog, bydd busnesau yn gorfod addasu er mwyn cydymffurfio gyda chanllawiau pellhau cymdeithasol.
Ymysg y camau newydd sydd yn cael eu gweithredu mewn swyddfeydd fydd yn ailagor fydd amrywio patrymau shifftiau gweithwyr, aildrefnu gofod y gweithle, oriau hyblyg, glanhau ychwanegol, trefn unffordd a mesur tymheredd gweithwyr.
Ond fe fydd rhai gweithwyr yn annhebygol o ddychwelyd i'r swyddfa o gwbl.
"Mae'n wir fod rhai cwmnïau wedi dweud y gallai rhai o'u gweithlu weithio o adref am byth," meddai Aude Bicquelet-Lock, dirprwy bennaeth polisi ag ymchwil yn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.
"Dywedodd prif weithredwr Barclays y gallai rhoi 7,000 o bobl mewn swyddfa yn rhywbeth sydd yn perthyn i'r gorffennol.
"Nid yw'r profiad o fynd i'r swyddfa yn Aberystwyth yr un peth â mynd i'r swyddfa yn Llundain. Mae'r gostyngiad mewn gofod swyddfa yn mynd i effeithio ar ddinasoedd bychan, canolig a mawr mewn ffyrdd gwahanol."
'Lleihau newid hinsawdd'
I weithwyr, fe allai peidio gorfod treulio oriau'n teithio i'r gwaith bob dydd gael manteision amlwg i'w lles, cydbwysedd bywyd a gwaith, waledau a'r amgylchedd.
Dywedodd Cymdeithas Adeiladu'r Principality y byddai'n "amser hir" cyn y byddai ei bencadlys yng Nghaerdydd fyth yn llawn eto, ac mae wedi annog ei 800 o staff i weithio o adref tan fis Medi, ac efallai tu hwnt i hynny.
Dywedodd prif weithredwr y Principality, Julie-Ann Haines, fod y cwmni wedi gweld budd mewn weithio o gartref. "Rydyn ni wedi profi y gall pobl fod yr un mor effeithiol, os nad yn fwy felly, o weithio gartref," meddai.
"Mae'r buddion yn gynnwys newid amser teithio bob dydd am fwy o amser gartref, ar gyfer ymarfer corff neu ar gyfer datblygiad personol, yn helpu cydweithwyr i deimlo'n fwy bodlon, gan ymgysylltu mwy a bod yn fwy cynhyrchiol.
"Bydd mwy o weithio o bell hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar sicrhau bod llai o draffig ar y ffyrdd, gan gefnogi'r gwelliannau y mae'r byd yn eu gweld o ran llai o ddefnydd o garbon."
Fel y Principality, nid yw Banc Hodge ar "unrhyw frys" i ddychwelyd i'w bencadlys yn y brifddinas.
Mae'r gweithwyr wedi gweithio o adref yn ystod y cyfnod clo, ac mewn arolwg diweddar, y farn gyffredin oedd y byddai'n well gan lawer weithio o adref yn y tymor hir.
'Lles staff'
"Rydym wedi defnyddio'r amser yma i herio'n hunain fel busnes a gofyn - sut ydym am weithio yn y dyfodol?" meddai David Landen, y prif weithredwr dros dro.
"Nawr rydym wedi buddsoddi mewn technoleg sydd yn galluogi ein staff i weithio o adref, fe fyddwn yn parhau i gefnogi cydweithwyr i wneud y dewisiadau sydd yn addas i'w bywydau.
"I rai, bod yn y swyddfa fydd yr ateb cywir, tra i eraill bydd osgoi teithio i'r gwaith a gweithio o amgylch gofynion teuluol yn gweithio'n well."
Wrth fuddsoddi mewn technoleg i alluogi staff i weithio o adref, mae llawer o gwmnïau wedi dweud fod modd iddynt gynnig mwy o hyblygrwydd o hyn allan.
Mae cwmni cyfreithwyr Hugh James wedi mabwysiadu agwedd "bwyllog" i ailagor ei swyddfeydd gyda sawl mesur i leihau nifer y staff yn y gweithle am y tro.
"Rydym wedi cofleidio technoleg newydd yn fwy nag erioed yn y cyfnod hwn. Bydd hyn yn parhau, hyd yn oed pan fydd y swyddfa'n gweithio'n arferol unwaith eto," meddai Mr Jones.
"Bydd cyfarfodydd o bell yma i aros. Dyma sut mae'r byd yn cynnal busnes bellach."
Pwy sydd angen swyddfa bellach?
Er fod gweithio o adref yn cynnig cyfleoedd, mae hefyd yn gosod sialensau, gyda rhai'n colli'r ochr gymdeithasol i fyd y swyddfa.
Yng Nghaerdydd mae bron i filiwn troedfedd sgwâr ar gael.
Mae disgwyl y bydd y Swyddfa Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn symud 3,600 o staff i ganolfan dreth ranbarthol newydd yn y brifddinas yn fuan.
Dywedodd llefarydd fod y Swyddfa Gyllid wedi ei "ymrwymo" i symud i'r adeilad £100m yn Chwefror 2021, ac roedd yn "datblygu cynlluniau tymor canolig a hir" am sut y byddai staff yn darparu'r gwasanaeth.
Dyma'r cam diweddaraf yn natblygiad Sgwâr Canolog dan ofal Rightacres.
"Bydd lleoliadau canol y ddinas yn parhau i fod yn ddeniadol i gyflogwyr oherwydd bod angen i bobl gydweithredu bob amser, ac i ddysgu, i greu, i arloesi," meddai'r prif weithredwr Paul McCarthy.
"Sut mae cwmnïau mawr yn creu diwylliant neu'n hyfforddi aelodau staff newydd os nad ydyn nhw'n dod at ei gilydd?
"Rwy'n credu bod pobl yn hoffi bod mewn swyddfeydd achos eu bod yn mwynhau bod yn rhan o dîm yn ogystal â'r rhyngweithio cymdeithasol sydd yn bodoli.
"Roedd na ymgyrch i annog pobl i weithio mewn llefydd llai. Mae cyfrifiaduron yn llai felly mae'r gofod desg sydd ei angen yn llai, a dwysedd y bobl yn cynyddu. Mae hynny'n debygol o newid a gallem ddechrau cael rhywfaint o le yn ôl.
"Felly fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae gwahanol fusnesau yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol ar sut maen nhw'n defnyddio'r gofod hwnnw yn y blynyddoedd i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020