Ailgylchu sgriptiau Pobol y Cwm yn waith celf
- Cyhoeddwyd
"Go brin y byddai Anita yn lico'r steil 'ma er bod hi'n credu bod tipyn o dast 'da hi," meddai Nia Caron sydd wedi troi ei llaw yn ddiweddar at gynhyrchu lampau a phowlenni o bapur.
Nia sy'n actio'r cymeriad Anita yn Pobol y Cwm a bellach mae hen sgriptiau'r opera sebon, ynghyd â phapurau newydd sydd o gwmpas y tŷ, yn cael eu hailgylchu i gynhyrchu gwaith celf.
"Rwy' wastad wedi bod â diddordeb yn y math yma o beth," meddai Nia. "Fe wnes i astudio celf yn yr ysgol gyda Dad ac ar y cyd â drama, roedd e'n un o'm mhynciau yn y brifysgol."
Ei thad oedd y diweddar artist Ogwyn Davies ac ef hefyd oedd athro celf Ysgol Uwchradd Tregaron.
"Mae e wedi bod yn ddylanwad enfawr ar fy ngwaith i," ychwanegodd Nia.
"Ro'n i wrth fy modd yn gwneud pethau o glai yn fy ieuenctid ond ddim wedi 'neud dim ers blynyddoedd a rhyw dair blynedd yn ôl fe roddodd fy chwaer-yng-nghyfraith lyfr i fi ar paper pulp."
Sgriptiau yn troi'n leilac
"Wedi arbrofi 'nes i syrthio mewn cariad gyda'r holl beth. Yr hyn sydd angen ei wneud yw malu papur lan yn fân a'i fwydo dros nos mewn dŵr ac wedi'i gymysgu bydd e'n dod yn glai.
"Yna mae'r broses o sychu yn digwydd - bydd lamp neu fowlen yn sychu o amgylch balŵn neu bêl.
"Weithiau mae pobl wedi comisiynu rhywbeth arbennig ond os na, fe fydda i'n penderfynu wrth ei roi i sychu be' all e fod - weithiau yn lamp fawr a thro arall yn un llai, weithiau gyda thyllau, weithiau'n llyfn, bryd arall yn arw - mae'r pulp yn fy arwain i ac yna mae'r paentio yn digwydd.
"Mae'n broses hyfryd wrth i'r papur fynd yn ôl i'w ffurf wreiddiol ac mae'n ffantastig ei ailgylchu fel hyn.
"Mae papur gwahanol yn creu effaith wahanol - mae sgriptiau Pobol y Cwm, er enghraifft, yn sychu'n lliw leilac - lliw difyr iawn."
Hiraeth
"Dwi'n trio cael y cynnyrch i efelychu byd natur - ac yn hyn o beth mae Dad wedi dylanwadu'n fawr arna i," meddai Nia.
"Roedd lliwiau byd natur yn rhan allweddol o'i waith e - ac fe fydda i yn trio cael y lampau 'ma i edrych fel rhywbeth mas o fyd natur - er enghraifft, llechen neu garreg.
"Arwynebedd oedd popeth i Dad - fe fyddai'n sylwi o hyd ar liwiau byd natur o'i amgylch ac yn defnyddio'r lliwiau 'na i roi egni i enaid ei luniau.
"Dwi'n colli'r wlad o gwmpas Tregaron yn ofnadwy ac yn hiraethu'n fawr am fynd am dro yn yr ardal. Does dim lot o gysylltiad 'da fi â'r ardal bellach gan bod Dad a Mam wedi'n gadael.
"Yn anffodus 'na'th Dad ddim gweld y cynnyrch yma ond rwy'n credu y byddai wedi bod yn eitha balch."
Mae Nia wedi bod wrthi yn creu ei chynnyrch celfyddydol ers rhyw ddwy flynedd ond yn ystod cyfyngiadau'r clo mae hi wedi cael mwy o amser i fynd ati.
"Gyda Pobol y Cwm ar stop, mae wedi bod yn ddiddordeb gwych i'w gael. Dwi'm yn lico eistedd lawr a 'neud dim byd felly dwi wedi bod yn paentio rhywfaint o amgylch y tŷ ond pulpo papur gan fwyaf!
"Digwydd bod mae'n gynnyrch sydd wedi dod yn eitha ffasiynol yn ddiweddar.
"Gan fod y merched bellach wedi gadael cartref, dwi wedi llwyddo i gael stiwdio yn y tŷ i 'neud y gwaith - felly does dim rhaid clirio bob tro, ac os yw'r tywydd yn caniatáu dwi'n gallu gweithio yn yr ardd.
"Mae'n bwysig cael 'stafell lle chi'n gallu gadael popeth - 'stafell lle chi'n gallu bod yn flêr. Pan o'dd y plant yn fach, weithiau bydden ni'n gadael nhw yn y gegin am ddiwrnod i greu a fydden ni'n bwyta'n rhywle arall - mae clirio lan o hyd yn lladd y creadigrwydd.
"Ac fe wnaeth y merched roi ail wynt i fi hefyd. Roedd wastad cwpwrdd 'da fi yn llawn sequins, paent a glud!"
'Gwahanol i Anita!'
O bosib bydd yna lai o amser i greu o hyn ymlaen, wrth i Pobol y Cwm ailddechrau ffilmio yn sgil llacio cyfyngiadau Covid-19.
"Dwi'n edrych ymlaen i fynd yn ôl er bydd hi'n gyfnod go wahanol wrth i ni orfod ymbellhau'n gymdeithasol," meddai Nia.
A beth am chwaeth Anita?
"Yn wahanol i un fi gobeithio! Coginio mae Anita yn hoffi 'neud fwyaf ond mae'n lico meddwl bod bach o dast 'da hi yn enwedig wedi i Kath ofyn am ei help hi rai blynyddoedd yn ôl.
"Ond fi'n credu mai ei geiriau hi fyddai 'Cliriwch y mes 'na nawr!' - ydi mae hi bach yn wahanol i fi!"
Hefyd o ddiddordeb: