Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad dyn arall yn Aberaman

  • Cyhoeddwyd
Luke WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Luke Williams eu bod wedi eu "llorio" gan ei farwolaeth

Mae dyn wedi pledio'n euog i ddynladdiad dyn arall yn Rhondda Cynon Taf y llynedd.

Roedd Andrew John Davies, 52, wedi gwadu llofruddio Luke Williams, 26, yn Aberaman ym mis Rhagfyr 2019.

Ond fe dderbyniodd yr erlyniad yn Llys y Goron Merthyr Tudful ble llai difrifol o ddynladdiad yn ei erbyn ddydd Llun.

Cafodd Davies, o Aberaman, ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu'r mis nesaf.

Bu farw Luke Williams o'i anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr dridiau wedi'r ymosodiad ar 16 Rhagfyr.

Luke Williams yn wynebu dedfryd

Daeth hi i'r amlwg fod Mr Williams ei hun i fod i ymddangos yn Llys y Goron Merthyr ar 20 Rhagfyr - y diwrnod ar ôl iddo farw.

Roedd disgwyl iddo gael ei ddedfrydu am achosi niwed corfforol yn dilyn digwyddiad ym mis Hydref 2018.

Honnir i Mr Williams fod yn rhan o griw oedd wedi herwgipio dyn, ei guro a thaflu cannydd (bleach) drosto mewn bath.

Cafodd dau o'i gyd-ddiffynyddion eu carcharu am eu rhan yn y digwyddiad.