Hoff lyfrau y cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi troi at ddarllen yn ystod y clo mawr. Mae Cymru Fyw wedi holi awduron pa lyfrau maen nhw wedi troi atyn nhw dros y misoedd dwethaf.
Llwyd Owen
Er fy mod fwyaf adnabyddus fel awdur, y gwir yw fy mod yn ddarllenwr yn gyntaf, ac yn awdur yn ail.
Darllenais On Writing gan Stephen King flynyddoedd maith yn ôl, ac mae'r cyngor yma wedi aros gyda fi hyd heddiw: "If you want to be a writer, you must do two things above all others: read a lot and write a lot."
Dw i 'di darllen nifer fawr o lyfrau yn ystod y cyfnod o dan glo, ond dyma'r cyfrolau sydd wedi aros yn y cof:
Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds
Nofel am golled, galar a hiraeth, sy'n llwyddo, trwy rhyw ryfedd wyrth, i osgoi bod yn hollol depressing! Camp yr awdur yw britho'r cyfan gyda hiwmor cynnil a chraff. Fel rhywun sydd wedi'i colli ei fam i ganser, roeddwn yn gallu uniaethu â rhannau helaeth o'r llyfr. Mae Elinor wedi bod yn weithgar yn y diwydiant cyhoeddi ers blynyddoedd, ac rwy'n edrych mlaen yn fawr i weld beth fydd hi'n ei gyhoeddi nesaf.
'Yr Adduned' gan Friedrich Durrenmatt (cyfieithiad Robat G Powell)
Des i o hyd i'r llyfr astrus hwn ar silff lyfrau yn Nhŷ Newydd [y ganolfan ysgrifennu] wythnos cyn cychwyn y cyfnod o dan glo, ac mae'n cynrychioli'r bunt orau i fi wario eleni! Cafodd y nofel ei chyhoeddi yn wreiddiol ym 1958, gyda'r addasiad Cymraeg hwn yn ymddangos ym 1976. Dyma gyfrol ddwys sy'n dychanu'r nofel dditectif gonfensiynol. Torrwyd fy nghalon cyn diwedd y stori. Ardderchog!
Bethan Gwanas
I blant, mi wnes i wir fwynhau Sw Sara Mai gan Casia Wiliam, y llyfr perffaith i rywun 7-11 oed sy'n caru anifeiliaid, a Heb Law Mam gan Heiddwen Tomos i'r arddegau cynnar. Dwy awdures ddawnus sy'n bendant yn deall plant.
Ar gyfer oedolion, mae cyfres Stori Sydyn yn wych os dach chi awydd llyfr byr (am bunt!) am ba bynnag reswm, ac mi wnes i ddotio at Herio i'r Eithaf gan Huw Jack Brassington. Tonic o lyfr wnaeth i mi chwerthin yn uchel a fy ysbrydoli i bedlo'n llawer pellach nag arfer ar fy meic. Llyfr 'codi calon' go iawn.
Yn yr un gyfres, mae Pobl Fel Ni gan Cynan Llwyd yn codi ymwybyddiaeth o faterion gododd yn ystod y cyfnod cloi, sef hiliaeth, rhagfarn a chasineb, ac am yr un rheswm, mi ges fy nghyffwrdd i'r byw hefyd gan Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo a Becoming, hunangofiant Michelle Obama. Mae Sw Sara Mai yn cyffwrdd â hiliaeth hefyd.
Ond maen nhw i gyd yn gwneud llawer mwy na 'chodi ymwybyddiaeth' - maen nhw'n straeon da sydd wedi eu sgwennu'n dda, ac mi fyddan nhw'n aros efo fi am hir iawn.
Elinor Wyn Reynolds
Pan oedd bywyd yn mynd ar ras, doeddwn i ddim yn cael gymaint â hynny o amser i ddarllen, wastad yn teimlo 'mod i'n dala 'nghwt a jyst yn falch i weld 'y ngwely bob nos, ond mae'r cyfnod clo hwn wedi rhoi mwy o amser i fi ddarllen; pocedi bychan o amser yn fy niwrnod, rhwng gwaith ac ysgol, ble gallaf gydio mewn cyfrol a darllen am ychydig.
Ar gychwyn yr amser hwn, fe wnes fwynhau darllen The Dark Circle gan Linda Grant, sy'n nofel wedi'i gosod ym mlynyddoedd cynnar yr 1950au, ar gychwyn yr NHS, mae am griw amrywiol o bobl sy'n cael mynd i sanatorium am eu bod yn dioddef o Tuberculosis, jyst wrth iddyn nhw ddarganfod moddion i'w wella - mae'n nofel sy'n llawn naws y cyfnod ac yn cyfleu cyfnod clo o fath gwahanol. Amserol iawn. Mae'n ardderchog.
Rhai o uchafbwyntiau fy narllen dros yr amser yw cyfrolau fel Lolly Willowes gan Sylvia Townsend Warner, sydd am fenyw gwahanol i'r arferol sy'n penderfynu dod yn wrach, mae wedi'i gosod yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd; Our Spoons Came from Woolworths gan Barbara Comyns, nofel gomig am ferch eitha diniwed ar gychwyn ei phriodas drychinebus yn ystod y 1930au yn Llundain; a chyfrol o gerddi Elin ap Hywel, Dal i Fod, dyma gyfrol hynod o gerddi prydferth sy'n canu i'r entrychion. Mi fydda i'n troi at hon eto ac eto, wy'n meddwl.
Wy ar ganol darllen The Magic Toyshop gan Angela Carter, sy'n hollol anhygoel, mae'n llawn teimladau a phrofiadau real sy'n cymysgu â ffantasi abswrd, fedra i ddim credu 'mod i'n cael profi'r fath boncyrsusrwydd swreal.
Nesa ar fy rhestr ddarllen mae Girl, Woman, Other gan Bernadine Evaristo. Nuff sed fanna, wy'n meddwl ...
Aneirin Karadog
Fe'm trawyd ni'n go sydyn ac annisgwyl gyda'r syniad ein bod ni'n mynd i fod yn byw a bod yn y tŷ, yn rhieni prysur a phlant bywiog! Ry'n ni'n ffodus iawn fod gyda ni ardd a bwriad i dyfu llysiau ta beth, cyn i'r Meudwyo Mawr ein cloi mewn.
Ar y cychwyn, roedd ceisio cyrraedd dedleins gwaith ac addysgu'r plant yn mynd â'n holl amser ac egni. Ond yn raddol, ac yn enwedig erbyn diwrnod fy mhen-blwydd ganol Mai roedd modd gwneud amser i'r pleser o ddarllen unwaith eto. Mae gen i restr hir o nofelau Cymraeg sy'n aros i gael eu darllen, ac felly, ar fy mhen-blwydd, darllenais Y Bwrdd gan Iwan Rhys, am y rheswm syml taw dyna'r nofel fwyaf imi ei phrynu'n fwyaf diweddar. Mwynheais y defnydd o Gwm Gwendraeth fel gwrthbwynt i osodiad dinesig y nofel a hefyd yr elfen amryliw aml-ddiwylliannol sy'n perthyn iddi.
Fel arall rwyf wedi troi nôl i ddarllen cyfrolau barddoniaeth sy'n britho fy silffoedd llyfrau, o waith Myrddin ap Dafydd ac Eurig Salisbury, i awdlau a phryddestau yn ymestyn nôl dros ganrif.
Rwyf hefyd, diolch i Dafydd Timothy a'i storws o berlau llenyddol (Siop y Morfa, gynt) wedi cael copïau o weithiau Iolo Goch, Dafydd ap Gwilym am ei gyfoeswyr a Tudur Aled gan allu mynd i lenwi bylchau yn fy adnabyddiaeth o weithiau rhai o feirdd mwya'r traddodiad barddol Cymraeg. Ond mae cymaint mwy i'w ddarganfod, wastad!
Marlyn Samuel
Dwi newydd orffen nofel ddiweddaraf Mared Lewis Gemau. Nofel fer ydi hi ond nofel bwysig sy'n trafod dementia. Pwnc sy'n agos at galon yr awdur a llawer iawn ohonom ni. Rydym ni'n gallu cydymdeimlo'n llwyr efo'r cymeriadau sef Rose, Cleif ei gŵr a Nina eu merch. Mae hi'n nofel deimladwy a sensitif iawn.
Y nofel nesaf y byddaf yn troi ati ac yn edrych ymlaen yn fawr ydi nofel newydd Bethan Gwnanas, Merch y Gwyllt, sef dilyniant hir ddisgwyliedig i'w nofel Gwrach y Gwyllt. Os y bydd hi hanner mor wych â'r gyfrol honno 'dwi'n mynd i gael trît!
Rhys Mwyn
Bu Rhys Mwyn yn trafod llyfrau y cyfnod clo ar ei raglen ar Radio Cymru nos Lun, Gorffennaf 6.
Meddai ei fod wedi mwynhau llyfr Ar Daith gan Dafydd Roberts o'r band Ar Log, llyfr Diawl Bach Lwcus gan Geraint Davies o'r band Hergest a Wal gan Mari Emlyn yn ddiweddar.
Hefyd yn sgwrsio roedd Mari Emlyn, Manon Steffan Ros, Dyfed Edwards, Alun Davies a Beth Celyn, yn sôn am rai o'r llyfrau maen nhw wedi bod yn eu darllen yn ystod y cyfnod clo, a pherchnogion siopau llyfrau Cwpwrdd Cornel, Siop Cwlwm, Siop y Pethe a Palas Print.
Hefyd o ddiddordeb: