Sut brofiad oedd anfon y plant i'r ysgol am y tro cyntaf ers 105 diwrnod?
- Cyhoeddwyd

Cyffro, nerfusrwydd a llond trol o gwestiynau pwysig fel 'beth fydd yn y bocs bwyd?' - dyna brofiad Angharad Prys, o Gaernarfon, wrth i'w phlant fynd yn ôl i'r ysgol am y tro cyntaf yr wythnos yma wedi'r cyfnod clo.

Y noson gynt
Fory, am y tro cyntaf ers 105 diwrnod, mi fydd Nel (10 oed) a Gweneira (6 oed) yn cael mynd nôl i'r ysgol am ddiwrnod.
Mae'n rhyfeddol sut mae'r ddwy wedi setlo i'n hysgol fach ni adref ac er eu bod yn cwyno'n o arw ar y dechrau am golli ysgol a ffrindiau, maen nhw bellach i weld ddigon hapus.
Mae'n rhaid dweud na wnaethom ni feddwl dwywaith cyn penderfynu y byddem yn hoffi i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol cyn yr haf.
Trwy'r argyfwng, mae'r ffigurau wedi bod yn gymharol isel yma ac mae gen i ffydd yn Llywodraeth Cymru. Maen nhw i weld yn gall iawn yn dilyn arweiniad arbenigwyr meddygol, a debyg ma' nhw sy'n gwybod ora'.
Dyma ymateb Nel a Gweneira i ddychwelyd i'r ysgol wedi misoedd adref
Ella mai'r peth oeddem ni yn poeni amdano fwy na dim, yn hytrach na dal y firws, oedd sut brofiad fyddai mynd nôl i'r ysgol i'r ddwy. Siŵr ein bod ni gyd wedi gweld y llun echrydus o blant bach yn Ffrainc ar yr iard amser chwarae gyda chylch o'u hamgylch.
Y cwestiynau oedd yn mynd trwy fy mhen i oedd pethau fel - fyddan nhw yn cael chwarae gyda'u ffrindiau amser chwarae? Fydd yr athrawon i gyd mewn offer PPE brawychus? Fyddan nhw yn cael mynd allan i'r awyr agored i ddysgu?
Ond cwestiynau go wahanol oedd yn mynd trwy ben y merched. I Nel yn arbennig, y cwestiwn pwysica' oedd, fydda i efo fy ffrindiau? Pan ddaeth y cadarnhad bod y ddwy efo'i ffrindiau, mi oedd 'na hen edrych 'mlaen.
Ac erbyn heno, pethau lawer mwy ymarferol oedd yn eu poeni - be' fyddai'r drefn efo'r toiled? Fydd yr athrawon yn gwisgo masg? Sut fydd y peiriant cymryd tymheredd yn gweithio ac a fyddan nhw yn cael eu hanfon adref os yn cerdded bach yn gyflym i'r ysgol ac wedi chwysu... a'r peth mawr - be' sydd yn y tŷ i'w roi yn y bocs bwyd?


Y diwrnod mawr
Erbyn i mi ddod lawr grisiau bore ma, mi oedd y ddwy wedi newid, cymryd eu tymheredd o leia' dwywaith, wedi gwneud eu bocsys bwyd a Gweneira gyda'i sgidiau mlaen a bag ar ei chefn...a dim ond 8:10am oedd hi.
Ar ôl perswadio ac egluro bod ni ddim cweit yn barod i gychwyn gan mai erbyn 9:15am oedd hi fod i gyrraedd, mi dynnodd ei sgidia a bag i ffwrdd a chytuno i gael brecwast.

Mae'r bocs bwyd yn bwysig... Nel yn paratoi ei brechdanau cyn mynd i'r ysgol
Teimlad ddigon od oedd cerdded a nhw i'r ysgol, a'r tair ohonom efo pili palas bach yn y bol. Mi gymharodd Nel y profiad i gychwyn yr ysgol uwchradd, gan nad oedd gan yr un ohonom syniad be' i ddisgwyl.
Ond cyrraedd yr ysgol, a chael ffasiwn groeso gan yr athrawon wnaeth wneud i bawb ymlacio yn syth. Mi oedden nhw yn amlwg yn falch o weld y plant a dim masg, visor na gwisg PPE yn agos i'r lle. Oedd, mi oedd marciau ciwio ar y llawr, a theimlad ychydig fel disgwyl i fynd trwy passport control yn y maes awyr, ond rhaid dweud mod i yn falch iawn o agwedd di-lol yr ysgol a'r croeso gafodd y ddwy.

Sut aeth yr ysgol?
Ac ymhen dim o amser, mi oedd yn amser nol y ddwy ac mi oedda nhw wedi cael diwrnod wrth ei boddau. Mi oedd Gweneira wedi gweld y rheol dwy fedr yn dipyn o broblem amser chwarae wrth drio chwarae 'mam a dad' efo'i ffrindiau, a'r ddwy heb fentro mynd i'r toiled trwy'r dydd ond yn sicr mi oedden nhw wedi mwynhau gweld rhai o'u ffrindiau a'r athrawon.
Dwi'n sicr ein bod ni wedi gwneud y dewis iawn yn gadael iddyn nhw fynd yn ôl, ac os bydd y sefyllfa'r un peth ym mis Medi, o leia' mi fyddan nhw wedi cael blas o'r normal newydd.
Hefyd o ddiddordeb: