Parc Cenedlaethol Eryri yn ailagor ddydd Llun, 6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd

Rhybudd i ymwelwyr yn Eryri fod y Parc ar gau yn ystod y cyfnod clo
Fe fydd pob rhan o Barc Cenedlaethol Eryri yn ailagor o ddydd Llun, meddai'r corff sydd yn gyfrifol am parc.
O ddechrau'r wythnos fe fydd modd i gerddwyr ymweld â rhai o fannau mwyaf poblogaidd Eryri, gan gynnwys Yr Wyddfa, Cader Idris a Chwm Idwal.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Yn unol â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru prynhawn yma rydym wrthi'n paratoi i ailagor ar y 6ed o Orffennaf.
"Dros y dyddiau nesaf byddwn hefyd yn ymgyrchu ynghylch pwysigrwydd bod yn gyfrifol pan yn ymweld ag Eryri er mwyn parhau i warchod ac amddiffyn ein cymunedau wrth i ni gymryd y cam cyntaf tuag at y 'normal newydd'.
"Bydd y ffaith bod y cyfyngiad pum milltir yn parhau i fod yn weithredol dros y penwythnos yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer yr ailagor ddydd Llun."

Maes parcio Pen-y-Pass ar ddiwedd mis Mawrth, cyn y cyfnod clo
Roedd cannoedd o bobl wedi heidio i'r parc ychydig cyn i gyfyngiadau teithio'r cyfnod clo ddod i rym - gyda lleoliadau fel Pen-y-Pass yn gweld y nifer uchaf o ymwelwyr ers amser maith.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'r rheol aros yn lleol yn dod i ben ar ôl y penwythnos.
Fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford gadarnhau'r penderfyniad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru am 12:30 ddydd Gwener, ond ni fydd y rheol yn cael ei diddymu nes dydd Llun.
Mae disgwyl datganiad am ailagor gweddill y parciau cenedlaethol yng Nghymru yn fuan.

LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf heddiw
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd

Wrth siarad gyda BBC Cymru ddydd Gwener, dywedodd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei fod yn dawel hyderus am groesawu ymwelwyr unwaith eto - ond fe allai'r profiad fod ychydig yn wahanol i'r un arferol.
Dywedodd: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid am nifer o wythnosau i baratoi am yr amser yma...rydym yn edrych ymlaen yn ofalus i groesawu pobl eto dros yr wythnosau nesaf.
"Mae'r diwydiant twristiaeth a'r economi yn hynod o bwysig yn ein hardal ni - felly rydym yn gefnogol iawn o fusnesau sydd angen ailagor. Ar y llaw arall mae rhai pobl mewn cymunedau lleol sydd yn hynod o bryderus ein bod yn mynd i gael mewnlifiad o ymwelwyr a'r posibilrwydd bod y feirws yn dod hefyd."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r neges yw gofyn i bobl ymddwyn yn gyfrifol, mae'n bwysig fod pobl yn deall y bydd y profiad yn un ychydig yn wahanol.
"Mae'r pellhau cymdeithasol yr un mor berthnasol i ardaloedd cefn gwlad, parciau cenedlaethol ag y maen mewn ardaloedd trefol."
Ychwanegodd y byddai toiledau ar agor yn ardal y parc pan fyddai'r cyfyngiadau'n cael eu codi yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020