450 o staff gwesty'r Celtic Manor i golli eu gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol 450 o swyddi mewn gwesty adnabyddus ar gyrion Casnewydd dan fygythiad, wrth i effaith pandemig y coronafeirws effeithio ar y diwydiant lletygarwch.
Clywodd gweithwyr yng ngwesty'r Celtic Manor y newyddion fod bron i hanner holl swyddi'r gweithlu o 995 dan fygythiad mewn cyfarfod ddydd Iau.
Biliwnydd cyntaf Cymru, Syr Terry Matthews sydd yn berchen ar y safle, oedd yn leoliad i bencampwriaeth golff y Ryder Cup yn 2010 a chynhadledd NATO yn 2014.
Y feirws yn 'cael effaith gatastroffig'
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd cwmni The Celtic Collection, sydd yn berchen ar westy'r Celtic Manor a chanolfan gynadledda gyfagos, fod y pandemig "yn parhau i gael effaith gatastroffig ar yr economi fyd-eang, ein cenedl a'r diwydiannau teithio, twristiaeth a lletygarwch am fisoedd lawer i ddod."
O achos hyn roedd yn rhaid i'r cwmni newid ei ffurf a'i faint ac nid oedd y "model ariannol presennol yn gynaliadwy gyda gostyngiad sylweddol mewn archebion a refeniw."
Dywedodd The Celtic Collection ei fod yn "difaru gorfod cymryd cam fel hyn mewn ymateb i effaith difrifol economaidd pandemig Covid-19" ac roedd y cwmni "yn deall yr effaith sylweddol y byddai hyn yn ei gael ar fywoliaeth aelodau'r tîm sydd wedi eu heffeithio a'u teuluoedd."
Mae safle 2000 acer y Celtic Manor yn cynnwys y gwesty ei hun sydd gyda 400 o ystafelloedd, ac mae gwesty arall 154 ystafell wrthi yn cael ei adeiladu gerllaw wrth gyffordd Coldra o'r M4 hefyd.
Fe agorodd canolfan gynadledda ryngwladol £83m ar y safle y llynedd, oedd yn fenter ar y cyd rhwng y perchnogion a Llywodraeth Cymru.
Gyda lle i 5,000 o gynadleddwyr, fe gafodd y fenter £22.5m o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac fe ddaeth enwogion yn cynnwys Arnold Schwarzenegger i'r agoriad swyddogol ym mis Medi 2019.
Mae portffolio'r Celtic Manor yn cynnwys tri cwrs golff, nifer o fwytai, dau sba, tafarn a meithrinfa.
Fe brynodd Mr Matthews y safle yn 1980.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020