Y diwydiant trin gwallt yn ailddechrau eto

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae barbwyr a siopa trin gwallt wedi bod yn paratoi i ailagor heddiw.

Mae siopau trin gwallt a barbwyr yn ailagor o ddydd Llun ymlaen ar ôl bod ar gau am fisoedd yn sgil y pandemig coronafeirws.

Ond rhaid i'r cwsmeriaid wneud apwyntiad cyn dod i gael eu gwallt wedi torri ac fe fydd mesurau glendid a diogelwch yn eu lle.

Yn ogystal mae trinwyr gwallt symudol hefyd yn gallu dechrau gweithio o hyn ymlaen.

Ddydd Gwener daeth cadarnhad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai busnesau harddwch eraill, gan gynnwys salonau trin ewinedd a pharlyrau harddu, yn gallu agor eu drysau o 27 Gorffennaf ymlaen.

Mae'r sector wedi cwyno am nad yw'r holl wasanaethau yn cael ailagor yr un pryd, gyda rhai yn dweud bod hyn wedi creu "sefyllfa ddryslyd".

Mae nifer o ohebwyr ymhlith y bobl sydd wedi bod yn edrych ymlaen i gael eu gwallt wedi torri, yn cynnwys Tomos Morgan o dîm newyddion rhwydwaith BBC Cymru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Radio 5 Live

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Radio 5 Live

Un sydd yn edrych ymlaen i sortio gwalltiau gwyllt yng Nghaernarfon yw Jason Parry, perchennog siop Y Salon.

Mae wedi bod yn farbwr yn y dref ers dros 20 mlynedd, ac mae'n dweud ei fod wedi cyflwyno newidiadau i ddiogelu ei gleientiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i gwsmeriaid wneud apwyntiad o flaen llaw cyn dod i Y Salon, medd Jason Parry

"Mi fydda ni fel staff yn gwisgo masgiau a vizers, ac yn cymryd tymheredd y cwsmeriaid pan fydda nhw'n dod mewn i'r siop," meddai.

Dywedodd bod nifer o fusnesau wedi dioddef yn y misoedd diwethaf a llawer llai o fwrlwm yn y dref.

"Mae pethau yn dechrau troi'r gornel rŵan, a'r gobaith ydi y daw pobl yn ôl allan. Dim ond iddyn nhw gadw at y social distancing gobeithio bydd bob dim yn iawn."

Trefniadau newydd

Ni fydd modd cynnig yr un triniaethau mewn siopau trin gwallt pan fydd y drysau'n ailagor. Un rheol newydd yw'r ffordd y mae'n rhaid torri gwallt a chadw pellter o wyneb y cwsmer yr un pryd.

Mae Wendie Williams yn berchen ar fusnes Gwallt Wendigedig yng Nghaerfyrddin. Dywedodd fod angen cymryd gofal wrth dorri blaen gwallt cwsmeriaid o hyn allan: "Un peth na fyddwn ni'n gallu gwneud oherwydd y rheole yw torri ffrinj o'r blaen, gan y bydden ni'n rhy agos i'r wyneb.

"Felly bydd angen gwneud hynny o'r cefn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Wendie Williams yn paratoi i ailgydio yn ei gwaith

Gweithio yn siop trin gwallt Cwtch yn Eglwys Newydd, Caerdydd y mae Lee Hoddinott.

Mae'r siop wedi penderfynu yn ddiweddar i fod yn un sydd ddim yn defnyddio plastig.

"Mae James y rheolwr yma wedi gwneud popeth ei hun, gyda'r pren a'r gwydr a'r nail gun.

"Mae popeth yn recycled ac upcycled, jest defnyddio materials naturiol. Dach chi yn gallu defnyddio popeth eto ac eto ac eto."

Gwellt wedi ei wasgu yw'r plastig mewn gwirionedd a dyma sydd wedi ei ddefnyddio i wneud y clogynnau hefyd a bambŵ yw'r tywelion.

Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw bod y cwsmeriaid yn cael amser i "ymlacio" yn y siop trin gwallt wedi'r cyfnod clo meddai Lee Hoddinott

Mae o hefyd yn dweud bod llawer o elfennau newydd yn y siop i gadw'r cwsmeriaid yn saff fel "airpurifier a'r sgrins."

Ei obaith yw y bydd y cwsmeriaid yn gallu ymlacio wrth ddod yn ôl.

"Maen nhw yn gallu disgwyl tipyn o amser i ymlacio, jest i gael gwallt newydd...jest teimlo yn well mewn ffordd saff, cael tipyn bach o me time... a gadael gyda gwallt anhygoel," meddai.

Dydd Llun yn ogystal mae tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn medru gweini i gwsmeriaid unwaith eto, os ydynt yn gwneud hyn tu allan yn yr awyr agored.

Hefyd mae atyniadau twristaidd dan do yn cael agor eto.

Mae addoldai hefyd yn cael dechrau cynnig gwasanaethau yn raddol ac mae chwaraeon awyr agored, yn cynnwys hyd at 30 o bobl, yn cael ail gychwyn.