'Cynlluniau ailagor salonau yn creu dryswch'
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau sy'n caniatáu i gwmnïau trin gwallt ailagor, ond lle nad oes sôn am salonau harddwch wedi cael eu disgrifio fel rhai "annheg" a "chwerthinllyd" gan rai cwmnïau yn y sector.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw caniatáu i weithwyr yn y sector trin gwallt ailddechrau "gwasanaethau cyfyngedig" o 13 Gorffennaf - cyn belled â bod arolwg yn y cyfamser yn cytuno â hynny.
Ond nid oes unrhyw ddyddiad eto wedi ei roi ar gyfer ailagor busnesau eraill fel bariau trin ewinedd neu salonau harddwch.
Dywed rhai yn y sector harddwch fod hyn wedi arwain at "sefyllfa ddryslyd" gan fod nifer o'r busnesau hyn yn gweithio gyda'i gilydd, ac mai bach iawn yw'r gwahaniaethau rhwng y triniaethau.
"Mae'n mynd i fod yn ddarlun cymysglyd iawn i gymaint o bobl," meddai Sarah Bruton, perchennog siop Captiva Spa yng Nghaerffili.
"Mae 50% o'n busnes ni yn ymwneud â thrin gwallt a'r 50% arall yn y salŵn harddwch.
"Nawr ni mewn sefyllfa lle mae hanner y staff yn dod 'nôl, a byddwn yn dweud ei bod yn saff iddyn nhw ddod 'nôl, a bydd yr hanner arall sydd â chymwysterau o'r un radd ac yr un mor brofiadol, bydd yn rhaid dweud nad ydy'n saff iddyn nhw weithio.
"Mae hynny'n ymddangos yn annheg iawn i mi."
Fe ddywedodd ei bod hi dal yn aneglur a fydd barbwr yn gallu cynnig gwasanaethau fel siapio aeliau neu dorri mwstas ac eillio. Ychwanegodd y byddai'n sefyllfa 'hurt' os na fydd modd i arbenigwr harddwch gynnig siapio aeliau neu waredu blew uwchben gwefusau.
Dywedodd y Ffederasiwn Gwallt a Harddwch fod y sector harddwch yn gweld trosiant o £275m bob blwyddyn.
Ond dywed Ms Bruton ei bod yn poeni fod y cynlluniau - sy'n golygu gwahanol ddyddiadau ar gyfer ailagor - yn mynd i gael effaith annheg ar y sector.
"Fel diwydiant mae yna 15,000 yn ymwneud â'r sector yng Nghymru, ac mae'r oedi yn golygu risg i'r swyddi yma.
"Rydym yn hyfforddi prentisiaid... bydd yna ddim unlle iddyn nhw fynd ar ôl hyn," meddai.
"O'r tu allan mae'n ymddangos fod busnesau sy'n ffafrio pethau gwrywaidd fel tafarndai, pêl-droed a barbwr yn cael dychwelyd, ond dyw profiadau yn ymwneud â menywod ddim yn cael yr un flaenoriaeth ac mae hynny'n hynod o annheg."
Mae'r Ffederasiwn Gwallt a Harddwch wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddyn nhw "ail ystyried oedi dyddiadau ailagor busnesau harddwch".
Dywedodd eu bod am gael gwybod i sicrwydd y bydd cwmnïau trin gwallt symudol hefyd yn cael ailddechrau'r wythnos nesa.
Mae BBC Cymru wedi canfod dwsinau o salonau harddwch sy'n cynnig apwyntiadau o 13 Gorffennaf, gan iddyn nhw gredu cyn hyn y byddan nhw'n cael ailagor yr un pryd â llefydd trin gwallt.
Dywedodd Lyn Hancock, perchennog siop Lynz Nails and Beauty yn Nhorfaen ei bod yn ei dagrau pan ddaeth i ddeall nad dyma oedd i ddigwydd.
"Ni ddim o fwy o risg i iechyd pobl na gweithwyr trin gwallt," meddai.
"Mae'r offer PPE yma i gyd ar gyfer ailagor - mygydau, fisor, menig, ffedog, offer glanhau, offer fydd ond yn cael eu defnyddio unwaith, bopeth.
"Dwi eisoes wedi gweld busnesau yn cau o fewn y diwydiant oherwydd Covid-19. Dwi ddim am fod yn ystadegyn arall.
"Mae fy salon yn lle diogel, ac roeddwn yn edrych ymlaen at ailagor."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cyhoeddi rhagor o ganllawiau i'r diwydiant yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Dywedodd llefarydd: "Ar ôl asesiad o'r sefyllfa diweddaraf yng Nghymru ar 9 Gorffennaf fe fydd cwmnïau trin gwallt a barbwyr yn gallu ailagor ar 13 Gorffennaf.
"Bydd hyn drwy apwyntiad yn unig, ac ar gyfer nifer cyfyngedig o wasanaethau.
"Yr ailagor fydd y cam cyntaf o lacio'r cyfnod clo mewn Gwasanaethau Cysylltiad Agos yng Nghymru, gyda golwg ar ailagor gwasanaethau tebyg yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020