Galw am ryddhau adroddiad ar Uned Hergest

  • Cyhoeddwyd
Uned Hergest

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael gorchymyn gan y Comisiynydd Gwybodaeth i ryddhau adroddiad chwech mlwydd oed ar "safonau gofal pryderus" mewn uned iechyd meddwl.

Rhybuddiodd Adroddiad Holden nôl yn 2013 fod Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor "yn wynebu trafferthion difrifol".

Rhyddhawyd copi wedi'i olygu o grynodeb o'r adroddiad yn 2015, dolen allanol.

Ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod datgelu'r adroddiad llawn yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth 14 mis yn ôl.

Cafodd adolygiad ar uned seiciatryddol Hergest ei gomisiynu ar ôl cwynion gan staff.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adolygiad ar uned seiciatryddol Hergest ei gomisiynu ar ôl cwynion gan staff.

Dywedodd awdur yr adroddiad Robin Holden fod y berthynas rhwng y staff wedi'i "chwalu i'r fath raddau fel bod cyfaddawdu yn digwydd wrth ofalu am gleifion".

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod camau wedi eu cymryd i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys ailstrwythuro rheolaeth y bwrdd ar wasanaethau iechyd meddwl.

Ar 8 Mai 2019, roedd yna gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am "gopi o adroddiad llawn Robin Holden, wedi'i olygu i'r graddau sydd eu hangen yn unig i amddiffyn cyfrinachedd cleifion a hunaniaeth y chwythwyr chwiban".

Gwrthodwyd y cais ac fe arweiniodd hynny y Comisiynydd Gwybodaeth i adolygu'r penderfyniad.

Mewn rhybudd a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2020, fe dderbyniodd Catherine Dickenson o swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y gŵyn, a galwodd ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dolen allanol i "ddatgelu copi llawn o'r adroddiad gyda dim ond enwau unigolion sy'n destun yr achwyniadau wedi'u golygu".

'Mae gan y cyhoedd hawl i wybod'

Dywedodd Darren Millar, Aelod o Senedd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin Clwyd: "Mae'n drueni mawr bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dewis peidio cyhoeddi'r adroddiad hwn.

"Mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod a oedd yna arwyddion cynharach o broblemau wrth reoli ac arwain gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru ac a ellid fod wedi osgoi sgandalau fel Tawel Fan.

"Efallai y bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn helpu i daflu goleuni ar y materion hyn," ychwanegodd.

Yn 2015 Mae cyfarfod cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol am ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru Plaid Cymru: "Rydw i'n croesawu penderfyniad y Comisynydd. Mae'n canolbwyntio ar gyfnod digon tywyll yn nhriniaeth cleifion â phroblemau iechyd meddwl yn y Gogledd.

"Roedd cyfle i ddysgu o'r adroddiad yma saith mlynedd yn ôl ond ni ddigwyddodd hynny, yn anffodus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi wedi bod yn frwydr anodd ac emosiynol, medd Llyr Gruffydd, AS Gogledd Cymru

"Mae fy swyddfa i wedi gweithio dros gyfnod hir gyda teulu un claf oedd yn Hergest ar y pryd ac rydw i'n falch iawn eu bod nhw wedi cael at y gwir o'r diwedd.

"Mae hi wedi bod yn frwydr anodd ac emosiynol, gyda'r bwrdd iechyd yn ceisio atal cyhoeddi'r adroddiad ar bob cam.

"Mae'n holl bwysig fod yr adroddiad llawn nawr yn cael ei gyhoeddi a bod y bwrdd iechyd yn caniatáu i hynny ddigwydd drwy beidio apelio," meddai.

Ymateb mewn pryd

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Betsi Cadwaladr: "Rydym yn ystyried penderfyniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a byddwn yn ymateb o fewn yr amserlen ofynnol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd Gwybodaeth fod gan y bwrdd iechyd "30 diwrnod o'r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad i apelio."