Llion Williams: Mae'n iawn i beidio teimlo'n iawn
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Llion Williams wedi byw gyda'r cyflwr OCD ers ei arddegau. Nawr mae'n rhannu ei brofiad i helpu pobl ifanc i drafod iechyd meddwl yn ystod cyfnod pryderus Covid-19.
Yma mae'n sôn sut datblygodd ei OCD a sut mae agwedd y byd addysg heddiw cymaint iachach na'i ddyddiau ysgol o.
I'r rhai hynny ohonom sy'n araf aeddfedu fel gwin da, 'roedd haf 1976 yn haf i'w gofio. Ie, haf, hirfelyn tesog.
Yn laslanc 15 oed, 'roedd pryderon 'lefel O' ymhell dros y gorwel. 'Doedd dim amdani 'mond gorweddian ar fy lilo ar draeth Benllech, bob yn eil ddydd. ('Doedd gen i ddim pwll nofio preifat i arnofio arno, fel Dustin Hoffman yn The Graduate; na Mrs Robinson i'm cofleidio'n dyner y tu ôl i'r cwt ice-cream ysywaeth!).
Dal bys i Benllech oedd hyd a lled egsotic ac erotig hogia Bangor yn y dyddie hynny!
Petawn i'n cael cyfle i brofi ychydig o regression therapy; yna 'dwi'n amau dim mai dyna oddeutu'r adeg y dechreuais ambell i arfer go od yng ngolwg llawer. Er enghraifft, gorfodi fy hun i ddarllen pob ibid neu footnote ar waelod tudalen llyfr; neu osgoi'r craciau ar balmentydd crimp swbwrbia Bangor '76!
Yr olaf o'r ddau arfer yn gyffredin iawn ymysg yr arddegau mae'n debyg; ond tra bod y rhan fwyaf o ddynol ryw yn tynnu yn glir o'r fath ffwlbri wrth aeddfedu, mi lynodd yr arferion fel gelan ynof i, a chasglu toman o arferion eraill bizarre ar y daith i'w cadw'n gwmni!
Deiagnosis OCD
Fe gymerodd flynyddoedd lawer; a ma'n debyg fy mod tua'r deugain oed, pan gefais ddiagnosis braidd yn annelwig, fy mod yn byw gyda chyflwr OCD (Obsessive Compulsive Disorder).
Mae yna derm Cymraeg, mae'n debyg, ond gan ei fod mor anodd ei gofio â phennod o Eseciel (Beibl William Morgan - y fersiwn wreiddiol!), mi lynai at OCD am y tro!
Erbyn y deugain, 'roedd y cyflwr wedi datblygu canghennau o arferion fel ysgrifennu rhestrau o gannoedd o eitemau, agor a chau ffenestri yn dragywydd a chyfri ceir ar y lôn. (Ymysg cant a mil o arferion pur ddibwrpas eraill na wnaf eu rhestru, rhag ofn i'r cyfryw restr uchod ddyblu a threblu a chreu mwy byth o boen meddwl i mi!)
Os planwyd hedyn y cyflwr hwn yn fy arddegau, (fel canlyniad i drawma na af i fanylu amdano fan hyn), go brin fod cyfle wedi codi yn yr ysgol i'w daclo a'i reslo i ebargofiant.
Hoffwn feddwl fod addysg ein hysgolion heddiw yn fwy goleuedig nag oedd yn saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Dyma'r dyddiau wedi'r cwbl yr anogwyd Form 4 i fynd am dro bach i lannau'r Fenai - "and if you see something alive children... we shall take it back to school and dissect it!"
'Dwi'n amau dim nad peth anarferol fyddai i athro daclo anhwylder o'r fath oedd gen i, gydag ebychiad fel, "You're mental you are!", neu hyd yn oed debycach: "You're Denbigh!" (Cyfeiriad, wrth gwrs, at sefydliad yn y dre honno bryd hynny, y tywyswyd ambell un iddo mewn cotiau gwynion os oedd bywyd yn drech na hwy.)
Fast forward felly, i'r hen gasét yna o'r saithdegau a dyma lanio yn dwt yn haf 2020... a dyma haf arall i'w gofio! Annus Horriblis alwodd brenhines Lloegr y flwyddyn y llosgwyd trysorau castell Windsor yn ulw, a diau y bydd llawer un yn edrych ar flwyddyn Covid 2020 yn yr un modd a gyda digon o reswm i wneud hynny hefyd.
Ond unwaith - a chan obeithio - bydd yr anfadwch yma wedi cilio o'n tir; ai dyma'r modd y bydd y rhan helaetha ohonom yn edrych yn ôl ar 2020?
Ydw i'n iawn i dybio y bydd nifer ohonom, er ein gwaetha, yn hel atgofion am y cyfnod diweddar, fel rhyw fath o Nirvana na ddaw byth yn ôl? Misoedd o deyrnasiad yr adar bendigedig a'u canu boreol a nosweithiol yn tra arglwyddiaethu dros wenyn petrol gormesol a chyson y lon fawr.
Gwanwyn gyda'r cynhesa' ers cyn co' a gorweddian ar fainc yr ardd drwy'r dydd yn dderbyniol, hyd yn oed yn llygaid y Llywodraeth!
Ond gydag amser fe lethwyd y teimlad braf yna gan gydwybod euog, wrth i ni gael ein hannog un ac oll i ddychwelyd ar yr olwyn gyfalafol yna cyn gynted ag y bo modd - a gwae ni gael ein gadael ar fainc 'fohemaidd' yn 'bolaheulo'!
A beth am y plantos, sy' ers misoedd bellach wedi bod yn esblygu i mewn i greaduriaid gwyllt di-addysg ar grwydr yn ein bröydd? Sut maen nhw'n teimlo bellach? Oes rhywun wedi trafferthu gofyn?
Drama i drafod iechyd meddwl
Cwestiynau fel hyn aeth a mi, gyda gwahoddiad, i ysgol flaengar Dyffryn Nantlle. Yno, mae'r addysg feddyliol a gynigir i'r plant wedi datblygu dipyn o ddyddiau'r saithdegau gynt.
Nid peth hawdd, fodd bynnag, yw cynnal gweithdai drama therapiwtig a chadw dwy fedr o bellter rhwng pawb ond dyna'r gofyniad ac mi geisiais ei gyflawni gora y medrwn!
Drwy ymgolli mewn gemau drama, 'roedd cyfle i'r disgyblion gael trafod yn agored eu teimladau a'u pryderon am un o'r cyfnodau mwyaf heriol welodd ein pobl ifanc ers cenedlaethau.
Cyfle iddynt drafod, ymysg pethau eraill, a fu'r we fyd eang yn fendith neu'n fwrn ar gyfnod mor dyngedfennol yn eu datblygiad? Ai ar emojis yn unig y bydd fyw dyn?! Neu oes angen geirfa ehangach, yn ogystal, ar bob un ohonom os am fwrw ein bol gyda chyfaill, athro, rhiant neu warchodwr, pan fo cwestiynau dyrys bywyd yn ein llethu weithia?
Cyfle i ddod i ddeall bod hi'n iawn fod chi ddim yn teimlo'n iawn, o dro i dro, ac nad mynd i'ch cragen a hunan-ynysu neu feudwyo yw'r unig opsiwn pan mae bywyd yn eich herio. Ac, yn fwy na dim, cyfle i chwerthin gyda ffrindiau eto, ar ôl taith unig ar chwyrligwgan y misoedd diwethaf.
Cario ymlaen
Teimlad pennaeth yr ysgol oedd y gallwn rannu fy mhrofiad o fyw gydag OCD gyda'r disgyblion, gan ddangos bod gyrfa hir o dros 30 mlynedd yn y theatr yn dal yn bosib, er gwaetha unrhyw heriau.
Pwysig, hefyd, oedd ceisio dangos, mewn cyfnod fel hyn, sydd wedi taflu meddyliau'r gorau ohonom bendramwnwgl, fod dulliau a chanllawiau ar gael i daclo gor-bryder ac unrhyw anhwylder arall a chario ymlaen ar siwrne bywyd yn llwyddiannus, ond yn bwysicach - yn ddedwydd.
Ac fel yn achos Dustin Hoffman ar ei lilo 'stalwm; gobeithio'n wir fod ambell gyfle i gymeryd hoe o'r cwbwl, gan gynnwys yr addysgu, wedi bod yn fuddiol i arddegau heddiw hefyd.
Dyma gyfnod wnaeth fy argyhoeddi bod gwerth troi yn aml at gerdd y crwydryn o Gymro, W.H. Davies a'i eiriau doeth llawn gwirioneddau... ia...
A poorlife this,if full of care,
We have no time to stand and stare!
Hefyd o ddiddordeb: