Cleifion Covid-19: Dod at ei gilydd i wella o'r feirws

  • Cyhoeddwyd
Campfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gampfa yma'n un ychydig yn wahanol i'r arfer, gyda nyrsys yno i asesu a rhoi cymorth i bob claf

Ar yr wyneb - mae'n edrych fel unrhyw ddosbarth ymarfer corff arall.

Mae rhai pobl yn rhedeg ar felinau traed, mae eraill yn chwysu ar feiciau ymarfer corff.

Yn y gornel mae dyn ifanc yn cicio bag dyrnu gyda grym trawiadol.

Drws nesaf mae pethau yn llai egnïol - mae sesiwn Pilates yn cael ei chynnal, ac mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn ymestyn yn araf i gyfeiliant cerddoriaeth dawel.

Un peth sy'n uno pawb. Mae pob un wedi bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19, a bu bron i rai farw.

Nawr maen nhw'n ceisio ailadeiladu eu bywydau.

Taith hir yn ôl i normalrwydd

Bob wythnos yn ystod sesiwn 90 munud gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, maen nhw yn cael cyfarwyddyd, help a chyngor gan arbenigwyr mewn meddygaeth anadlol, ymarfer corff a ffisiotherapi.

Dyma'r rhaglen gyntaf o'i math yng Nghymru i gynnig yr holl gefnogaeth o dan yr un to i gleifion oedd ar un adeg ar beiriant anadlu mewn unedau gofal dwys neu ddibyniaeth uchel.

Pilates
Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb sy'n rhan o'r cynllun wedi bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19, a bu bron i rai farw

Mae rhai yn wynebu taith hir nôl i normalrwydd. Gall cyfnodau hir yn yr ysbyty gael effaith ddifrifol nid yn unig ar gorff cleifion ond hefyd ar eu hiechyd meddwl ac ansawdd bywyd.

Mae gan bob unigolyn gynllun adfer wedi'i ddylunio'n arbennig ar eu cyfer.

Maen nhw hefyd yn elwa o ddod at ei gilydd a rhannu profiadau ag eraill sydd wedi bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

I rai, y nod fydd gallu cerdded i'r siopau eto, i eraill mynd yn ôl i'r gwaith yw'r gobaith.

I un person yma, y nod yw dod yn bencampwr byd.

Dyma ychydig o'u straeon.

Grey line
Lewis Barton
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Lewis Barton ddim yn sylweddoli pa mor agos y daeth at farw cyn i nyrs egluro iddo

Lewis Barton - Pencampwr Taekwondo

"Dywedodd fy ffrind fy mod i wedi dod mor agos at farw.

"Siaradais â nyrs ro'n i'n ei nabod pan o'n i ar y ward olaf ac fe ddywedais i 'Rwy wedi diflasu a wir eisiau mynd adref'.

"Yn amlwg do'n i ddim yn hollol barod o hyd, ond yn fy mhen ro'n i'n meddwl 'mod i eisiau mynd o'r ysbyty.

"Dywedodd y nyrs 'Lewis, dwi ddim yn credu dy fod ti yn sylweddoli pa mor wael oeddet ti. Oni bai am dy ffitrwydd byddet ti ddim wedi goroesi'.

"Gobeithio bod gan bawb sydd wedi bod ar ward Covid rywbeth fel hyn.

"A chymryd bod popeth yn mynd nôl i normal - dwi ddim yn siŵr a fydd e byth yn mynd yn ôl i hollol normal - pencampwriaethau'r byd taekwondo, gobeithio, croesi bysedd."

Grey line
Justin Watson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd teulu Justin Watson alwad ffôn yn eu rhybuddio i baratoi ar gyfer y gwaethaf

Justin Watson - Gweithiwr Dur

"Does gen i ddim atgofion o gwbl, dim ond yr wyth diwrnod diwethaf rwy'n cofio, pan o'n i ar y ward olaf, yn paratoi i ddod adref.

"Ond wrth ddarllen y dyddiaduron a baratôdd fy nheulu yn ystod yr amser hwnnw, sylweddolais i pa mor ddrwg oedd pethau.

"Cawson nhw alwad ffôn ar y penwythnos cyntaf ynglŷn â pharatoi eu hunain ar gyfer y gwaethaf.

"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn ac yn falch iawn bod staff Ysbyty Brenhinol Gwent wedi gweithio mor galed.

"Yn realistig, rwy'n gwybod y bydd yn cymryd misoedd a misoedd, os nad blynyddoedd, i gyrraedd yn ôl i ble ro'n i o'r blaen.

"Ond, gyda chymorth y bobl hyn a'r cynlluniau hyn, bydd pethau yn haws."

Grey line
William Powell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd William Powell yn Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016

William Powell - Cyn-Aelod Cynulliad

"Roedd fy lefelau dirlawnder ocsigen yn 77 - ac rydw i yn deall nawr nad yw'n lle da iawn i fod.

"Fe wnaeth fy ngwefusau ddechrau troi'n las, ac fe wnes i gyrraedd yr ysbyty mewn amser da a dwi'n ddiolchgar iawn i'm meddyg, ac i'r teulu am fynnu fy mod wedi ceisio am help pan wnes i.

"Rwy'n 70-80% yno. Mae'n fwy o broses na digwyddiad ac mae'n rhaid i chi ddal ati. Yn achlysurol gall fod yn eithaf anodd.

"Mae'r help a'r gefnogaeth rydw i wedi'i dderbyn, ac rydw i'n ei dderbyn, heb ei ail.

"Mae llawer o dystiolaeth mai dim ond tua 50% o gleifion ICU wnaeth adael yr ysbyty mewn un darn.

"Mae'n niweidio eich musculature. Mae'n rhaid i chi adeiladu i fyny o'r camau cyntaf hynny, ac yna symud i ffon gerdded, ac yna symud i gerdded yn annibynnol ac yna adeiladu'r cryfder hwnnw.

"Mae hynny'n rhywbeth y mae'n ei gymryd - rhywfaint o ymroddiad.

"Ond mae cefnogaeth broffesiynol, yr holl dimau hynny'n dod at ei gilydd, yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi."

Grey line
Dr Sara Fairbairn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Sara Fairbairn bod adferiad seicolegol yr un mor bwysig ag adferiad corfforol

Dywedodd Dr Sara Fairbairn, ymgynghorydd anadlol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, bod y cynllun sydd ganddyn nhw yno yn un pwysig.

"Mae hwn yn ddull cydweithredol iawn ac mae gan bob claf raglen unigol o ran cyflawni'r hyn sydd ei angen arnynt yn llwyr," meddai.

"Efallai y bydd angen mwy o fewnbwn corfforol ar rai cleifion o ran adnewyddu eu cyhyrau a'u dysgu sut maen nhw'n gweithio.

"Roedd yn rhaid i rai o'r cleifion yma ddechrau dysgu cerdded, dyna pa mor sâl oedden nhw.

"Ac fel bod adferiad swyddogaethol yn bwysig iawn, ond hefyd yr adferiad o ran eu hanghenion seicolegol a'u hanghenion maethol, a'r gefnogaeth barhaus y bydd ei hangen arnynt am gyfnod sylweddol o amser."

Lewis Barton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis yn gobeithio gallu mynd 'nôl i gystadlu ar lefel uchel ym myd taekwondo

Ond dywedodd ei bod yn "gweld cynnydd anhygoel" yn y cleifion sy'n derbyn cefnogaeth yno.

"Roeddwn i yno pan roedd rhai bron â marw, neu roedd yn rhaid i ni eu hanfon i'r uned gofal dwys a siarad â pherthnasau ar y ffôn, gan dorri newyddion drwg iawn iddyn nhw.

"Wedyn symud ymlaen i'r sefyllfa ni ynddo nawr - mae'n anhygoel mewn gwirionedd.

"Mae hyn yn dangos holl waith caled y staff sydd yn gweithio yma."