Uned gofal dwys yn 'agos iawn i'r dibyn ar un adeg'
- Cyhoeddwyd
Dr David Hepburn oedd un o'r gweithwyr iechyd cyntaf yng Nghymru i gael ei daro'n wael gyda Covid-19.
Yn yr wythnosau yn dilyn ym mis Mawrth, fe welodd yr uned gofal dwys yr oedd e'n gyfrifol amdani don o gleifion yn ddifrifol wael, wrth i'r coronafeirws daro de-ddwyrain Cymru yn gynnar ac yn galed.
Yn ystod y penllanw roedd uned gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn gofalu am 49 o gleifion - capasiti arferol yr uned yw 14 o welyau.
Ond ddoe doedd dim un claf gyda Covid ar ôl yn unedau gofal dwys y ddau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Felly dyma holi Dr Hepburn am ei brofiadau yn ystod cyfnod y coronafeirws...
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod cynnar hwnnw - pa atgofion?
Wrth edrych nôl ma' popeth yn niwlog braidd. O gael y feirws roeddwn i'n rhwystredig mwy nag unrhyw beth - oherwydd roeddwn i'n gwybod fod yr uned gofal dwys dan bwysau aruthrol.
 chymaint o staff yn absennol dim ond dau feddyg oedd yn rhedeg yr uned mewn gwirionedd dros gyfnod o bythefnos neu tair wythnos.
Ac roedd hynny'n rhwystredig i ni oedd adre - o fod yn methu bod yno i helpu.
Ond pan aethoch chi nôl i'r gwaith roedd yr achosion yn llifo i mewn.
Fel arfer yn yr uned ry'n ni'n gallu rhoi cyfanswm o 14 o bobl ar beiriant anadlu.
Ond yn ystod y penllanw roedd bron 50 ar y peiriannau, mwy na teirgwaith y capasiti arferol.
Ac roedd y sefyllfa yn anoddach fyth oherwydd roedd yn rhaid i bawb wisgo'r lefel uchaf o wisgoedd a chyfarpar PPE.
Doedd teuluoedd ddim yn cael ymweld ac roedd yn rhaid i ni siarad â nhw dros y ffôn yn hytrach na wyneb yn wyneb. Ac ma' hynny'n anodd tu hwnt wrth ddelio â theuluoedd nad ydych chi wedi eu cwrdd â nhw o'r blaen.
Oedd 'na adeg lle roeddech chi'n amau a allech chi ymdopi?
Roedden ni'n agos iawn i'r dibyn ar un adeg. Mi wnaethom ni chwilio drwy'r ysbyty cyfan am beiriannau anadlu.
Wedyn roedd 'na brinder difrifol o hylif ar gyfer y peiriannau arennau.
Doedd dim digon o'r peiriannau hynny felly roedd yn rhai ei defnyddio nhw ar un claf am gyfnod, ac wedyn ar glaf arall am gyfnod.
Diolch i'r drefn chafodd neb niwed o ganlyniad i hynny... ond roedd pethau'n dynn iawn.
Bythefnos cyn y pandemig roedden ni'n clywed adroddiadau o China a'r Eidal... un o'r pethau fuodd yn rhaid i feddygon wneud yn yr Eidal oedd dogni gwlâu gofal dwys. Dewis pwy ddylai gael y gofal.
Rwy'n falch iawn na wnaethon ni gyrraedd y pwynt hwnnw. Fe gafodd pawb allai fod wedi elwa o ofal dwys y cyfle i gael y gofal hwnnw.
Ond oedd pryder fod 'na risg o gyrraedd y pwynt hwnnw?
Oeddwn. Ond roedd hynny y tu hwnt i'n amgyffred ni i gyd.
Sut ma' penderfynu bod bywyd un person yn werth mwy na bywyd rhywun arall?
Fe fyddai hynny wedi bod yn benderfyniad amhosib.
Fydd y profiadau yma yn effeithio arnoch chi dros y tymor hir?
Yn emosiynol, mae'n amhosib dweud ar hyn o bryd.
Ond yn sicr yn ystod y pandemig roedd 'na ddiwrnodau lle doeddwn i ddim am fynd i gwaith o gwbl - er yn amlwg mi es i.
Dydw i ddim wedi teimlo fel hynny erioed o'r blaen yn fy ngyrfa.
Ond roedd y cyfnod yn dangos fod y gwasanaeth iechyd yn gallu cyflawni gwyrthiau.
Heb os nac oni bai. A'r peth mwyaf cadarnhaol oedd gweld timau o bob math ac o wahanol feysydd yn dod ynghyd. Er enghraifft gweithwyr yr ystâd.
Roedd angen gwahanu dwy ardal mewn un ward - ac fe adeiladon nhw ddrysau newydd i'r cilfachau a sinciau newydd yn yr ardaloedd PPE mewn penwythnos.
Fe weithiodd pawb yn hynod o galed, y glanhawyr, pobl y storfeydd, nyrsys yr uned gofal dwys... pawb.
Ydych chi'n ystyried bod chi a'ch cydweithwyr yn arwyr?
Dyma'r swydd i mi ddewis ei wneud. Dydw i ddim yn ystyried mod i yn gwneud unrhyw beth arwrol.
Fe wnaethom ni'n gwaith yn dda.
Cofiwch fod gyda ni yn yr uned gofal ddwys swyddi sefydlog, hyd yn oed mewn amgylchiadau caled - rydyn ni'n derbyn ein cyflog misol.
Dyw hynny ddim yn wir am nifer yn ystod y pandemig o ystyried faint sy' wedi colli eu swyddi.
A rhoi bwyd ar y bwrdd ar gyfer eich teulu yn y fath sefyllfa - dyna i fi beth sy'n arwrol.
Ydych chi'n disgwyl ton arall o Covid-19 yn ystod y gaeaf efallai?
Dydyn ni ddim yn gwybod eto.
Ond fe fydden ni'n ffodus tu hwnt pe na bai un - gyda cyn lleied yn y boblogaeth wedi cael Covid hyd yn hyn a heb frechlyn effeithiol.
Fe fydd 'na glystyrau o bryd i'w gilydd a dyna pam ei bod hi'n allweddol cael system profi, olrhain a diogelu effeithiol.
Mae'r cyfyngiadau yn cael eu llacio ar gyfraddau gwahanol ar draws Prydain - beth yw'ch barn chi am hynny?
Wy'n credu fod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwaith da iawn o ran yr ymateb iechyd cyhoeddus.
R'y ni wedi dilyn ein cwrs ein hunan ac mae bod yn wyliadwrus ac ychydig yn fwy ceidwadol wedi'n helwa ni.
Neithiwr doedd dim un achos o Covid yn yr unedau gofal dwys yn fy mwrdd iechyd i. Ac ry'n ni wedi cael cyfres o ddyddiau yr wythnos hon lle na chafodd unrhyw farwolaethau eu cofnodi.
Ydych chi wedi cwrdd â rhai o'r cleifion fuoch chi'n gofalu amdanyn nhw?
Do - r'yn ni'n cadw mewn cysylltiad â nhw - mae'n anodd adnabod rhai oherwydd eu bod nhw'n edrych mor dda erbyn hyn.
Ond yn feddyliol fe fydd rhai yn cymryd peth amser i wella, gyda nifer yn dioddef o post traumatic stress oherwydd y deliriwm gafon nhw tra yn yr uned gofal dwys.
Beth fydd y prif atgof?
Cerdded i mewn i'r uned am y tro cyntaf ar ôl bod yn sâl, uned sydd fel arfer â 12 o welyau a gweld 26 o gleifion ar beiriannau anadlu a phawb yn gwisgo PPE.
Roedd hi fel golygfa o ffilm ffug-wyddonol.
A meddwl wedyn pa mor fawr oedd yr her oedd yn ein hwynebu ni a bod yn bryderus ynglŷn â hynny.
Do mi ddaethon ni drwyddi... ond dydw i ddim am ailadrodd y profiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020