Dim ond un o ysbytai maes Cymru sydd wedi trin cleifion

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty maes Parc y Scarlets Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob un o'r ysbytai maes, heblaw un, eto i drin yr un claf

O'r 17 ysbyty maes a gafodd eu sefydlu yng Nghymru mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws, dim ond un sydd wedi trin cleifion hyd yma.

Mae Ysbyty Calon y Ddraig, sydd â thros 1,500 o welyau, wedi trin 46 o gleifion ers agor ar 20 Ebrill yn Stadiwm Principality Caerdydd.

Mae bellach yn wag a staff wedi'u symud i safleoedd eraill nes bydd angen i ddefnyddio'r safle eto.

Yn ogystal â'r ysbytai maes, mae yna hefyd ddwy ganolfan hefyd wedi eu sefydlu, er mwyn trin cleifion sydd wedi dioddef o'r haint.

Fe gostiodd £166m i sefydlu'r ysbytai a darparu 6,000 o welyau yng nghyfnod brig y pandemig, gan ddyblu'r capasiti yng Nghymru.

Amddiffyn y gwariant

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi amddiffyn y gwariant a'r gwaith o greu 6,000 o welyau ysbyty ychwanegol, gyda'r rhelyw heb eu defnyddio.

"Petawn i'n gallu darogan y dyfodol yn berffaith fe fyddwn wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar y pryd," meddai.

"Petai ni fod wedi bod angen capasiti ychwanegol, mewn niferoedd llawer mwy, a petawn i heb ymateb fel y gwnes i, rwy'n credu y byddai'r cyhoedd wedi dweud yn gywir, 'Pam ar wyneb daear na wnaeth y dyn sy'n rheoli pethau ddim byd am y peth?"

Adolygiad

Dywedodd fod y llywodraeth wedi sefydlu 17 o ysbytai maes ar ôl gweld sut oedd rhannau o'r gwasanaeth iechyd yn yr Eidal wedi methu ymdopi.

Bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn er mwyn penderfynu sawl ysbyty maes fydd yn cael eu cadw neu eu hail-ddefnyddio.

"Mae'n bosib y bydd angen llai o ysbytai maes," meddai Mr Gething. "Mae hefyd yn bosib y bydd modd i ni wneud mwy o ddefnydd o'r capasiti presennol sydd gennym wrth i ni ail-agor gweithgaredd mwy normal y GIG."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Roy Thomas, perchennog Stiwdio'r Bae, Abertawe, y bydd angen cymorth ariannol gan fod hi'n amhosib ailddechrau cynyrchiadau tra bo ysbyty ar y safle

Dywed cwmnïau a chyrff sydd wedi benthyg adeiladau i'r GIG eu bod yn aros i glywed am ba hyd fydd angen y safleoedd, gyda'r disgwyl y bydd modd codi'r cyfyngiadau ar fusnesau a masnachu yn raddol.

Er mwyn cefnogi'n ymdrechion i drechu'r feirws, cytunodd perchennog Stiwdio'r Bae, Abertawe, Roy Thomas i brydles yn caniatáu i'r GIG ddefnyddio adeilad mwyaf y safle'n ddi-dâl am flwyddyn.

Ond mae'n dweud fod y cwmni angen cefnogaeth ariannol i oroesi, gan fod cynnal cynyrchiadau ffilm a theledu yno'n amhosib tra bo ysbyty ar y safle.

Dywedodd: "Rwy'n gweld fy hun yn y 12 mis nesaf yn gwasanaethu dau feistr. Un yw'r awdurdod iechyd, i gynnal pa bynnag angen fydd am y 12 mis i'r dyfodol, a'r llall yw helpu i geisio cynnal y diwydiant ffilm yn Nedd Port Talbot, Abertawe a gorllewin Cymru."

Dywed Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Chris White, fod hi'n ffodus na fu'n rhaid defnyddio'r ddau ysbyty maes lleol.

Gyda'r feirws yn dal ar led, ychwanegodd fod "cael ysbytai maes yn barod rhag ofn yn bwysig iawn".

Adnoddau prin

Ond dywedodd yr economegydd iechyd, yr Athro Ceri Phillips o Brifysgol Abertawe nad oedd gwario'r fath arian ar ysbytai maes yn "ddefnydd da o adnoddau".

"Cafodd llawdriniaethau eu canslo, cafodd lefel y galw ei ostwng, cafodd gwasanaethau cleifion allanol eu haildrefnu felly nid oedd pobl yn dod i'r ysbytai," meddai.

"Byddai modd defnyddio safleoedd eraill fel safleoedd bychan yn y gymuned er mwyn sicrhau, os bydd ail don gyda ffliw'r gaeaf, fe fydde modd i chi gael un yn y gogledd, un yn y gorllewin ac un ar goridor yr M4, ac fe fyddai modd eu defnyddio i ateb unrhyw gynnydd mewn cleifion.

"Pan gafodd [yr ysbytai maes] eu cynllunio a'u sefydlu roedden nhw wedi'u creu i ddelio gyda chleifion oedd yn dioddef o symptomau Covid-19 difrifol.

"Doedden nhw ddim wedi cael eu creu fel rhyw fath o ganolfannau arbenigol...yn yr un ffordd mae canolfannau gofal milwrol yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd o ryfela ar gyfer cleifion sydd angen triniaethau anafiadau a thrawma, ac fe fyddai'r cyfleusterau hynny'n adlewyrchu'r amgylchedd a sefyllfa benodol yna."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Ysbyty Calon y Ddraig, yn Stadiwm Principality, sydd wedi trin cleifion hyd yn hyn

Cysylltodd Newyddion BBC Cymru â'r holl fusnesau ac awdurdodau lleol sydd wedi benthyg adeiladau ar gyfer ysbytai maes.

Mae saith o'r safleoedd yn y gogledd a'r gorllewin dan berchnogaeth awdurdodau lleol ac yn cynnwys un ysgol a phum canolfan hamdden.

Cytunodd Prifysgol Bangor ar brydles o leiaf dri mis o hyd gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio Canolfan Brailsford, gyda'r nod o adolygu'r trefniant yn fisol wedi hynny.

Mae Cyngor Tref Llanelli wedi gosod Canolfan Fowlio Selwyn Samuel ar brydles i Fwrdd Iechyd Hywel Dda tan fis Medi.

Ffynhonnell y llun, Conwy council
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Enfys, Venue Cymru, wedi'i oleuo er diolch i weithwyr hanfodol yn ystod y pandemig

Mae theatr a chanolfan gynadledda Venue Cymru, Llandudno hefyd yn wynebu heriau ariannol ar ôl ildio'r adeilad i ddarparu 350 o welyau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd cytundeb am dri mis, tan 6 Gorffennaf, i'w ddefnyddio fel ysbyty maes - cytundeb sy'n cael ei estyn wedi hynny o fis i fis, ar y sail nad oes anfantais ariannol i'r perchennog, Cyngor Conwy.

Yn ôl rheolwyr, bydd angen cefnogaeth i fynd yn ôl i'r drefn arferol, oherwydd effaith y cyfyngiadau ar y sector celfyddydol.

Diolchgar

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mark Wilkinson, eu bod yn ddiolchgar am gefnogaeth eu holl bartneriaid.

Y flaenoriaeth nawr, meddai, yw sut mae "ailddechrau gwasanaethau y bu'n rhaid eu hatal i reoli'r don gyntaf o gleifion Covid-19".

Bydd adolygiad ysbytai maes Llywodraeth Cymru'n ystyried faint o welyau fydd y GIG angen petai arwyddion fod ail frig o achosion coronafeirws ar y gorwel

Bydd hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio'r ysbytai maes ar gyfer gwasanaethau meddygol y bu'n rhaid eu hatal dros dro tra bo'r GIG yn canolbwyntio ar achosion Covid-19.

Beth yw'r sefyllfa yn fy ardal i - a'r cynlluniau at y dyfodol?

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Mae Stadiwm Principality, Caerdydd, sydd â lle ar gyfer dros 1,500 o gleifion, wedi trin 46 o gleifion oedd yn gwella o coronafeirws.

Dywed y bwrdd y bydd Ysbyty Calon y Ddraig "yn parhau tan yr hydref ac ar gael i dderbyn cleifion coronafeirws pe tasai cynyddu capasiti'n angenrheidiol".

Mae perchennog y stadiwm, Undeb Rygbi Cymru mewn trafodaeth gyda'r bwrdd "i ymestyn y cytundeb heibio'r dyddiad olaf presennol ddiwedd Gorffennaf, ond does dim dyddiad terfyn gosod".

Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty maes Parc y Scarlets, Llanelli

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Mae yna dri Ysbyty Enfys yn y gogledd ar dri safle - yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fferi Isaf (Queensferry); Venue Cymru, Llandudno; a Chanolfan Brailsford ym Mangor.

Mae'r tri safle "ar gael ac yn barod" i dderbyn cleifion, wrth i'r bwrdd ystyried sut i "ailddechrau gwasanaethau y bu'n rhaid eu hatal dros dro i reoli'r don gyntaf o gleifion Covid-19".

Bwrdd Iechyd Hywel Dda: Mae naw safle - ym Mharc Gwyliau Bluestone, Sir Benfro; canolfannau hamdden Aberteifi, Caerfyrddin, Llanelli a Phlas Crug, Aberystwyth; dau ar dir Stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli; Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli; ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth.

Mae'r bwrdd yn "edrych i lawer o opsiynau gwahanol" am y 12 mis nesaf, gan gynnwys "ffyrdd gwahanol o ddefnyddio ein hadnoddau" fel rhan o drafodaethau cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Swansea Bay UHB
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith trawsnewid canolfan hyfforddi'r Gweilch, yn Llandarcy, yn ysbyty maes gyda 340 o welyau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Un yn unig erbyn hyn, ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi penderfyniad i ddigomisiynu safle â 290 o welyau ym mhencadlys hyfforddi Undeb Rygbi Cymru yn Hensol.

Mae'r bwrdd yn hefyd ag unedau cymunedol ar safle hen gartref gofal Abergarw Manor, ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Marsh House ym Merthyr Tudful, sy'n golygu fod modd symud cleifion â chyflyrau heb law am Covid-19 o'r ysbytai.

Dywed y bwrdd fod yr ysbytai maes yn "hanfodol o ran cynllunio" capasiti ychwanegol "pe tasai'n angenrheidiol i ymateb i her Covid-19".

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: Un yn safle hyfforddi'r Gweilch, sef Academi Chwaraeon, Llandarcy ac un yn Stiwdio'r Bae, Abertawe â 1,000 o welyau.

Dywedodd y bwrdd fod "hyblygrwydd yn ffactor pwysig o ran rheoli'r sefyllfa wrth symud i'r camau nesaf".

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: Does dim ysbyty maes, ond mae Ysbyty Athrofaol newydd y Grange yng Nghwmbrân "yn barod pe bae angen ei defnyddio".