Dim treth ar brynu tai hyd at £250,000 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei newid yng Nghymru, gan olygu na fydd yn rhaid talu treth ar tua 80% o'r tai sy'n cael eu gwerthu yma.
Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans gyhoeddi'r "gwyliau" ar y dreth yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru brynhawn Mawrth.
Bydd y newid yn golygu na fydd yn rhaid i unrhyw gartref gwerth llai na £250,000 dalu treth.
Dywedodd y gweinidog y byddai'r newid yn dod i rym ar 27 Gorffennaf er mwyn cyd-fynd ag ailagor y farchnad dai yn llawn yng Nghymru.
Yn ôl Ms Evans bydd y "gwyliau treth" mewn grym nes 31 Mawrth 2021.
Ail gartrefi ddim yn gymwys
Ond dywedodd "yn wahanol i Loegr, ni fydd y trothwy newydd yn weithredol ar gyfer prynu rhagor o gartrefi, fel tai gwyliau neu ail gartrefi".
"Bydd yn cefnogi pobl sy'n gobeithio prynu eu cartref cyntaf neu rheiny sy'n gobeithio symud tŷ," meddai.
"Bydd yn cynnig cymorth i'r rheiny allai fod wedi cael eu heffeithio gan heriau economaidd y pandemig."
Ar hyn o bryd, mae tai sy'n cael eu gwerthu am rhwng £180,000 a £250,000 yn talu 3.5% o werth y tŷ mewn treth.
Er enghraifft, pris tŷ yng Nghaerdydd ar gyfartaledd ydy £212,063, a pe byddech chi'n prynu tŷ am y pris hwnnw fe fyddech chi'n talu £1,262.21 mewn treth.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid bod y trothwy newydd yn golygu na fyddai'n rhaid talu treth ar tua 80% o'r gwerthiannau tai yng Nghymru.
Trothwy o £500,000 dros y ffin
Treth stamp yw'r enw ar gyfer y dreth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond mae'n cael ei alw'n Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru am ei fod wedi'i ddatganoli.
Cafodd y system newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017, a daeth i rym yn Ebrill 2018.
Mae Canghellor y DU, Rishi Sunak, eisoes wedi cyhoeddi gwyliau ar dalu trethi ar brynu tai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond yno does dim rhaid talu unrhyw dreth ar dai hyd at £500,000.
Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cyhoeddi y bydd cynllun tebyg i'r un yng Nghymru yn dod i rym yr wythnos nesaf, gyda'r trothwy wedi'i osod ar £250,000 yno hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020