Ffatri fatris i greu miloedd o swyddi yn Sain Tathan

  • Cyhoeddwyd
logo'r cwmniFfynhonnell y llun, Britishvolt

Mae cwmni newydd wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu ffatri cynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan a chanolfan ynni solar yn ne Cymru, gan greu hyd at 3,500 o swyddi.

Mae Britishvolt yn dweud bod safle yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, sy'n berchen i'r llywodraeth, wedi ei ddewis.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "memorandwm" - cytundeb cychwynnol - wedi ei arwyddo gyda'r cwmni.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod mewn "trafodaethau cynnar" gyda Britishvolt am ei gynlluniau.

Bydd y ffatri - y mae disgwyl iddi fod dros 1km o hyd a 500m o led - yn denu £1.2bn o fuddsoddiad, meddai'r cwmni.

Mae'n cael ei weld fel cyhoeddiad calonogol i Gymru, gan ddod i'r brig o dros 40 o leoliadau dros y DU.

Dywedodd prif weithredwr Britishvolt, Orral Nadjari, fuodd yn byw yng Nghaerdydd pan yn fyfyriwr, ei fod yn "garreg filltir gyffrous".

"Mae'r cytundeb gyda Llywodraeth Cymru yn un i adeiladu ein batris ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Disgwylir mai Parc Busnes Bro Tathan fydd lleoliad y ffatri

Dywedodd Mr Nadjari bod y cwmni'n gobeithio dechrau adeiladu'r ffatri yng ngwanwyn 2021, gyda'r nod o fod yn weithredol erbyn 2023.

Ychwanegodd nad yw'r cwmni wedi derbyn unrhyw anogaeth ariannol gan y llywodraeth hyd yma.

"Ar hyn o bryd, yr hyn sydd angen i ni wneud, ar ôl dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru, ydy canolbwyntio ar yr elfen gynllunio," meddai.

Dywedodd y gallai hynny "gymryd o leiaf chwe, saith neu wyth mis".

Mae safle Bro Tathan, sy'n gyn-safle i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, hefyd yn gartref i gwmni ceir Aston Martin.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth cwmni Ineos ddweud ei fod yn oedi cynlluniau i greu ffatri newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fyddai wedi creu 500 o swyddi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymdrech ac arian "sylweddol" wedi eu buddsoddi yng nghynllun Ineos, ac y byddai'n ceisio adennill costau pe na bai'r ffatri yn cael ei adeiladu.

Byddai ffatri o'r fath yn rhoi mwy na swyddi yn unig, yn ôl Dr Jean Paul Skeete o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Dywedodd y byddai sgil-effeithiau "fel ehangu'r diwydiant ailgylchu batris... ac o bosib denu gwneuthurwyr ceir i'r ardal".

Ychwanegodd ei fod yn gyfle "unigryw" yn y DU, ac y byddai'n "arwydd yng Nghymru bod y wlad yn edrych ymlaen ac yn barod i fasnachu, fydd yn allweddol mewn economi ôl-Brexit ac ôl-bandemig".

'Neges bwysig i'r diwydiant'

Mae'r cyhoeddiad yn un i'w groesawu ar lefel leol a chenedlaethol, yn ôl y gohebydd moduro, Mark James - yn enwedig wedi penderfyniad cwmni Ford i gau ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chyhoeddiad diweddar cwmni Ineos nad ydyn nhw am godi ffatri yno wedi'r cyfan.

"Mae rhywun yn meddwl am yr holl droeon yn y gorffennol ble roedd yna groeso am fod cwmni'n dod i Gymru, a swyddi'n cael eu creu, yna colli cytundeb, colli swyddi a ffatri'n cau. Mae hyn felly yn newyddion gwych i'r ardal - wythnos wedi cyhoeddiad Ineos, bod yna swyddi o bosib yn mynd i ddod jest i lawr yr heol.

"Os ddaw'r swyddi hyn, ffantastig. Ond mae'n danfon neges bwysig i'r diwydiant yn ehangach fod Cymru'n le lle mae cwmnïau eisiau dod ac yn fodlon buddsoddi yno - a falle bydd cwmnïau eraill yn edrych ar hynny ac yn fodlon ystyried symud yma."