'Dychryn' o weld ymddygiad rhai ar yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Caffi HalfwayFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alwena Jones ffilmio dyn yn defnyddio drws ei chaffi fel toiled

Wrth i fynydd ucha' Cymru ailagor i dwristiaid, mae ffrae yn codi am ymddygiad rhai ymwelwyr ar y mynydd o safbwynt glendid.

Ar hyn o bryd mae Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa a'r caffi sydd hanner ffordd i fyny llwybr Llanberis ynghau.

O ganlyniad does dim toiled ar agor ar wahân i'r toiledau yn Llanberis.

Y penwythnos diwethaf aeth Alwena Jones am dro i fwrw golwg dros y caffi hanner ffordd. Pan gyrhaeddodd yno roedd yna ymwelydd yn defnyddio drws y caffi fel toiled.

Disgrifiad,

Dyn yn defnyddio drws y caffi fel toiled

Dywedodd: "Mi ofynnais i iddo fo pam bod rhaid iddo gael wal pan y gallai o fod wedi mynd yn uwch neu'n is yn y cae. Roedd ganddo tua 1,200 o aceri i ddewis, ond roedd rhaid iddo fo gael defnyddio'r drws.

"[Roedd] hyn yn fy nychryn braidd, wrth bod y feirws o gwmpas, roedd rhaid i mi fynd yna i agor y shutters, roeddwn yn ei weld yn fudreddi ofnadwy, a dim parch ganddyn nhw."

Dywed ei bod yn aml yn dod ar draws carthion dynol wrth fynd i agor y caffi yn y bore. "Mae'n broblem," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alwena Jones ei bod yn aml yn dod ar draws carthion dynol wrth fynd i agor y caffi yn y bore

Mae yna hanner miliwn o bobol yn cerdded i fyny'r Wyddfa bob blwyddyn, sy'n golygu mai dyma'r mynydd mwya prysur yn y DU.

Toiledau cyhoeddus?

O ganlyniad mae rhai yn dadlau y dylid cael toiledau cyhoeddus ar y llethrau ond mae eraill, dringwyr profiadol yn eu plith, yn dweud mai'r hyn sydd angen ei wneud ydi addysgu pobol a'u cael i ddefnyddio synnwyr cyffredin.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae disgwyl cael cyfleusterau ar fynydd gwyllt, agored, yn hollol afresymol,' medd Elfyn Jones

Dywedodd Swyddog Mynediad a Chadwraeth y Cyngor Mynydda Prydeinig, Elfyn Jones. "Mae'r Wyddfa yn un o'r mynyddoedd mwya poblogaidd ym Mhrydain os nad yn y byd, a chan fod cynifer o bobol yn mynd i fyny, mae yna broblemau yn mynd i fod, bod pobol isho mynd i'r toiled ac yn y blaen.

"Ond ar ddiwedd y dydd mynydd ydio a dwi'n bersonol ddim yn meddwl bod o'n addas i bobol ddisgwyl cael cyfleusterau ar fynydd. Mae disgwyl cael cyfleusterau ar fynydd gwyllt, agored, yn hollol afresymol i fod yn onest."

Ymateb y Parc

Dywedodd llefarydd ar ran Parc Cenedlaethol Eryri eu bod wedi gweithio'n ddiflino i wneud paratoadau ar gyfer ailagor y Parc i'r cyhoedd. Ond, meddai'r llefarydd, mae lleiafrif bach yn anwybyddu'r canllawiau, ac yn gadael sbwriel a gwastraff dynol ar rai o'n safleoedd mwyaf poblogaidd. Mae'r dueddiad led-led Cymru a Lloegr.

"Mae swyddogion y Parc yn gweithio'n agos hefo cyrff eraill i ddatblygu negeseuon penodol i ymwelwyr er mwyn gwarchod ein cymunedau ac amddiffyn ein tirweddau," meddai'r llefarydd.