Cyhoeddi enwau dwy fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau dwy fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd ddydd Mercher.
Roedd Nancy Roberts, 84 oed, ac Anwen Mitchelmore, 59 oed, yn fam a merch. Roedd y ddwy yn byw yn ardal Porthmadog.
Ychydig wedi 15:30 cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau fod car Volkswagen Polo coch wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda lori felen rhwng Garndolbenmaen a Phenmorfa ar ffordd yr A487.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Nia Jeffreys fod y digwyddiad yn "sioc mawr i'r gymuned" a'i bod hi'n "anodd iawn dychmygu colli dwy genhedlaeth o'r teulu'r un pryd."
"Dynes teulu oedd Anwen uwchben pob peth arall," meddai. "Roedd hi'n meddwl y byd o'i phlant i gyd ac eu plant bach hwythau hefyd, ag oedd teulu yn ofnadwy o bwysig iddi.
"Roedd hi'n berson ofnadwy o annwyl - gwên barod bob tro roeddat ti'n gweld hi'n stryd.
"Bydd hi'n golled fawr wrth gwrs i'r teulu a 'dan ni gyd yn cydymdeimlo ag yn meddwl amdanyn nhw, ond colled i ni fel cymuned Port.
"Mae'n anodd meddwl bod ni ddim yn mynd i weld ei gwên hi eto ond byddan ni gyd yn dod at ein gilydd rŵan a rhoi pob cefnogaeth i'r teulu i gyd."
Apêl yn parhau
Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn dal i apelio am dystion i'r digwyddiad.
Ychwanegodd: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd y ddwy a gafodd eu lladd. Maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
"Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cysylltu gyda ni hyd yma gyda lluniau 'dash cam', ond rwy'n apelio eto ar unrhyw oedd yn teithio yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad ond sydd heb gysylltu eto i wneud hynny cyn gynted â phosib.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau a byddwn yn gofyn i bobl gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirno Y100773."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020