'Angen gwella amrywiaeth' yn y sector ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i wella amrywiaeth yn y gwasanaethau ariannol, medd pennaeth newydd cymdeithas adeiladu mwyaf Cymru.
Julie-Ann Haines yw'r prif weithredwr benywaidd cyntaf ar y Principality ers i'r cwmni gael ei sefydlu 160 mlynedd yn ôl.
Mae'r cwmni erbyn hyn wedi cyflwyno proses o greu rhestrau byr yn 'ddall' ar gyfer penodiadau, a sicrhau bod geirio hysbysebion swyddi yn gynhwysol.
Dywedodd Ms Haines: "Byddwn yn dweud bod gan wasanaethau ariannol ffordd bell i fynd eto.
"Rwy'n cydnabod bod gen i blatfform fel prif weithredwr benywaidd cyntaf i wneud rhai newidiadau, nid dim ond yn fy sefydliad fy hun, ond i osod y tôn i eraill.
"Rwy'n credu bod mwy gan y Principality i wneud, a'r amgylchedd ehangach yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn cynrychioli pobl yn ddigonol, nid dim ond o safbwynt rhyw ond hefyd y boblogaeth amrywiol."
Ychwanegodd bod newidiadau yn y gymdeithas adeiladu wedi arwain at fwy o fenywod mewn swyddi uwch, gan gynnwys y bwrdd rheoli.
Dangosodd adroddiad diweddar gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol mai 17% o'r swyddi uchaf yn y sector yn y DU oedd yn fenywod.
Ond dangosodd hefyd mai ychydig iawn o welliant sydd wedi bod yn y 15 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Ms Haines bod newidiadau ymarferol y gall y diwydiant eu gwneud.
"Mae bod y prif weithredwr benywaidd cyntaf yn rhoi rhwydd hynt i mi herio a gofyn cwestiynau... i edrych y tu hwnt i'r sgiliau oedd yn cael ei trysori yn y gorffennol.
"Boed yn fater o recriwtio, chwilio am brentisiaethau sicrhau ein bod yn chwilio yn eang iawn.
"Er enghraifft mae gennym gynllun i raddedigion yn y gwasanaethau ariannol lle'r ydym yn partneru gyda sefydliadau ariannol eraill yng Nghymru. Pam na fyddem am edrych ar gynlluniau penodol i leiafrifoedd ethnig neu fenywod yn hytrach na graddedigion o unrhyw gefndir neu brofiad?"
Cwmni yswiriant
Mae cwmni yswiriant Admiral hefyd wedi penodi prif weithredwr benywaidd am y tro cyntaf, Milena Mondini de Focatiis, a fydd yn dechrau yn y swydd y flwyddyn nesaf, ac mae rhai yn gweld hyn fel arwydd o newid yn y sector ariannol.
Dywedodd Cerys Furlong, prif weithredwr yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg: "Mae gweld tan-gynrychiolaeth o fenywod mewn uchel swyddi yn y sector gwasanaethau ariannol yn cael ei gydnabod, a bod newidiadau'n digwydd i daclo'r broblem, i'w groesawu.
"Mae ein hymchwil ein hunain wedi dangos bod diffyg menywod mewn swyddi uchel yn cael effaith go iawn ar ddyheadau merched ifanc hefyd, felly mae'r ymrwymiad yma gan Principality yn newyddion calonogol i genedlaethau'r dyfodol, y sector a'r economi yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020