Coronafeirws yn ergyd i'r Gwartheg Duon Cymreig
- Cyhoeddwyd
Fel arfer, byddai'r penwythnos hwn yn un prysur tu hwnt i berchnogion gwartheg sydd yn arddangos yn y Sioe Frenhinol.
Mae yna ergyd wedi bod hefyd i weithgareddau Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig, oedd i fod i lwyfannu Cynhadledd Gwartheg Duon y Byd yng Nghymru ym mis Awst a mis Medi.
Mae'r gynhadledd honno - fel y Sioe Fawr - wedi gorfod cael ei chanslo oherwydd argyfwng Covid-19.
Roedd ymwelwyr i fod i ddod i Gymru o'r Almaen, Seland Newydd ac o bedwar ban byd ar gyfer y gynhadledd.
Gwartheg Duon Cymreig yw'r brîd cynhenid Cymreig, a'r gred yw eu bod nhw wedi bod yng Nghymru ers miloedd o flynyddoedd, cyn cyfnod y Rhufeiniaid.
Mae Eirian Lewis o fuches Eirianfa yn Llangybi yn un o'r rhai sydd yn gweld colli'r cystadlu.
"Ni'n gutted i ddweud y gwir achos ni wedi paratoi ers y Nadolig, a nawr mae hyn wedi dod ac mae'n drueni. Dyma'r unig beth sydd gyda ni bob blwyddyn yw'r gwyliau yn y Sioe," meddai.
Roedd Eirian, sydd wedi ennill tlws y Prif Bencampwr yn y gorffennol, wedi gobeithio arddangos Eirianfa Ebrill, ond fyddan nhw ddim yn teithio i Lanelwedd fel teulu am y tro cyntaf ers i glwy'r traed a'r genau darfu ar y Sioe Frenhinol yn 2001.
Yn ôl Eirian, mae colli'r Sioe Frenhinol yn golygu colli ffenest siop bosib i brynwyr a gwerthwyr.
"Fe werthais i darw yn y Sioe am arian da unwaith, ac mae e yn golled ond dyw e?"
'Incwm hollbwysig wedi diflannu'
Mae coronafeirws wedi amharu hefyd ar waith Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig.
Mae dau aelod o staff y mudiad wedi bod ar y cynllun seibiant swyddi, ond bellach wedi dychwelyd i'w gwaith yn rhan amser.
Dywedodd Marian Phillips o fuches Dancoed, Cwm Gwaun, is-gadeirydd y gymdeithas: Mae yn golled ariannol achos ein hincwm ni yw'r cofrestriadau ac aelodaeth a hefyd canran o'r gwasanaeth arlwyo sydd yn y Sioe.
"Ni wedi colli'r Sioe Wanwyn, ni wedi colli'r Sioe Fawr a 'da ni ddim yn gwybod am y Ffair Aeaf. Mae'r incwm hwnnw, sydd yn hollbwysig, wedi diflannu."
Yn ôl Ms Phillips, mae'r incwm hwnnw yn cyfateb i "rai miloedd o bunnau".
Er y pryderon am effeithiau'r argyfwng, mae'r gymdeithas wedi arloesi trwy gynnal yr arwerthiant cyntaf o'i fath o Wartheg Duon Cymreig ar y we nôl ym mis Mai.
Fe drefnwyd yr arwerthiant hwnnw gan Farmers Marts yn Nolgellau.
"Fel arfer mae sêl yn y gwanwyn ond doedd dim gobaith eleni, ond mae'n dyled ni yn fawr i Farmers Marts," meddai.
"Fe drefnwyd arwerthiant ar-lein ac roedd yn llwyddiannus iawn. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i addasu, a sut y gallwn ni lwyddo."
Fe werthodd y tarw Hafodesgob Cawr am £4,800 yn yr arwerthiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020