Aberystwyth: Arestio pump ar ôl 'ffrwgwd â chyllyll'

  • Cyhoeddwyd
Rhodfa'r GogleddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Rodfa'r Gogledd am 18:40 nos Wener

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad yn Aberystwyth nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Rodfa'r Gogledd yn y dref am 18:40, yn dilyn adroddiadau bod dau berson â chyllyll.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi arestio dau ddyn - 19 a 23 oed - ar amheuaeth o achosi ffrwgwd, a'u bod yn parhau yn y ddalfa.

Yn ôl y llu cafodd tri pherson arall - dau ddyn a dynes - eu harestio yn ardal Cross Hands, Sir Gâr yn ddiweddarach mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Christina Fraser bod y llu "wedi derbyn nifer fawr o alwadau gan bobl oedd yn bryderus am y digwyddiad" nos Wener.

Ychwanegodd nad yw'r llu yn chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.