Adeiladu tai cyngor am y tro cyntaf mewn degawdau

  • Cyhoeddwyd
Tai cyngor Llaneirwg

Mae tai cyngor yn cael eu hadeiladu mewn rhannau o Gymru am y tro cyntaf mewn degawdau.

Daw'r genhedlaeth newydd o gartrefi mewn ymateb i brinder tai fforddiadwy.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i gynghorau fanteisio ar reolau newydd sy'n eu galluogi i fenthyca mwy o arian.

Ond mae cyngor mwyaf Cymru, Cyngor Caerdydd, yn dweud y gallai godi mwy o arian pe bai Llywodraeth Cymru yn gadael iddyn nhw godi rhenti.

Adeiladu 'ar gyflymder a graddfa'

Mae gan o leiaf 10 cyngor gynlluniau i adeiladu cartrefi newydd: Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg.

Hyd yn oed gyda channoedd o gartrefi yn cael eu hadeiladu neu eu prynu mewn rhai siroedd, mae'r niferoedd yn is na rhaglenni adeiladu tai cyngor enfawr y 1970au.

Cafodd dros 8,000 o gartrefi cyngor eu codi yng Nghymru yn 1976.

Ond bu dirywiad sylweddol yn yr 80au a'r 90au, a rhwng 2000 a 2018, dim ond 15 y flwyddyn gafodd eu hadeiladu ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lynda Thorne y byddai gosod rhenti uwch yn creu mwy o incwm i adeiladu cartrefi

Mae cynghorau wedi gallu benthyca mwy i adeiladu cartrefi ers mis Ebrill, pan wnaeth Llywodraeth y DU gael gwared ar y cap ar fenthyca.

Ond mae cap arall gan Lywodraeth Cymru, yn eu hatal rhag codi rhenti yn gynt na chwyddiant.

Dywedodd Pennaeth Tai Cyngor Caerdydd, Lynda Thorne, y byddai rhenti uwch yn creu arian i adeiladu mwy o gartrefi.

Dywedodd: "Yn amlwg, mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu cartrefi fforddiadwy.

"Does dim pwynt adeiladu cartrefi cyngor os yw'r rhent yn rhy uchel ac ni all pobl eu fforddio."

Dywedodd Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Julie James, y byddai adolygiad, a fydd yn adrodd yn yr haf, yn edrych ar renti.

"Mae'n gydbwysedd gofalus," meddai.

"Rydym eisiau rhenti sy'n fforddiadwy i bobl. Nid ydym am wthio pobl i dlodi tai."

Galwodd ar gynghorau i adeiladu "ar gyflymder a graddfa", gan fod y cap benthyca wedi ei ddileu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd eisiau adeiladu 2,000 o gartrefi

Amddiffynnodd hefyd benderfyniad i ddileu'r hawl i brynu, a gyflwynwyd yn y 1980au o dan Margaret Thatcher.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod caniatáu i denantiaid brynu eu cartrefi wedi trawsnewid bywydau miloedd o deuluoedd.

Ond dywedodd Ms Jones: "Gallaf ddangos llawer o leoedd i chi yng Nghymru lle mae tai a arferai fod yn dai cymdeithasol - wedi'u cynnal a'u datblygu'n dda - bellach yn dai rhent preifat, wedi'u cynnal a'u cadw'n wael iawn a gyda rhenti uwch nag yn y sector cymdeithasol."

'Nid yw'n ddigon'

Mae Llywodraeth Cymru am i gwmnïau preifat, cynghorau a chymdeithasau tai adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.

"Nid yw'n ddigon," meddai Leanne Wood, llefarydd Plaid Cymru ar dai.

Mae ei phlaid yn dweud y dylai cynghorau a chymdeithasau tai adeiladu'r un nifer o gartrefi, a thalu amdanyn nhw gydag arian sydd wedi ei fenthyca.

"Mae angen iddyn nhw godi'r targedau, ac adeiladu llawer yn fwy o dai cyngor," meddai Ms Wood.