Diwedd ymchwiliad yr heddlu i Neil McEvoy
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyhuddiad yn erbyn Mr McEvoy wedi ei dynu'n ôl
Mae ymchwiliad yr heddlu i'r gwleidydd Neil McEvoy wedi ei ddirwyn i ben ar ôl i Senedd Cymru benderfynu peidio â bwrw 'mlaen gyda chŵyn yn ei erbyn.
Y llynedd, fe wnaeth Mr McEvoy ddatgelu ei fod wedi recordio'r cyn-gomisiynydd safonau, Syr Roderick Evans, yn y dirgel.
Yn ôl Mr McEvoy roedd y recordiadau yn datgelu rhagfarn gan gynnwys rhagfarn yn erbyn menywod.
Fe wnaeth Syr Roderick ymddiswyddo, ond mynnodd fod y wybodaeth gafodd ei rannu yn gamarweiniol ac wedi ei gymryd allan o'i gyd-destun.
Gwrthododd y Senedd wneud unrhyw sylw pam eu bod wedi penderfynu peidio bwrw mlaen gyda'u cwyn yn erbyn Mr McEvoy.
Yn wreiddiol, cafodd y mater ei gyfeirio at Heddlu'r De fis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd y llywydd Elin Jones ar y pryd fod y recordiadau yn "dor-ymddiriedaeth difrifol".
Roedd Syr Roderick wedi bod yn ymchwilio i gŵynion ynglŷn â Mr McEvoy.
Cafodd Neil McEvoy ei ethol fel cynrychiolydd Plaid Cymru dros ranbarth Canol De Cymru, cyn iddo gael ei ddiarddel o'r blaid.

Cafodd y mater o recordio dirgel ei gyfeirio at yr heddlu fis Tachwedd y llynedd
Mae o'n mynnu ei fod wedi gweithredu o fewn y gyfraith.
Mae o nawr wedi sefydlu ei blaid ei hun gan ei alw'n Blaid Genedlaethol - ond mae'r comisiwn etholiadol yn ailystyried a ddylai gael yr hawl i ddefnyddio'r enw hwn ar ôl cwyn gan Blaid Cymru.
Mewn e-bost at Mr McEvoy, dywed Heddlu'r De eu bod wedi cael gwybod gan Senedd Cymru nad oeddynt am barhau â'u cwyn o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
"O ganlyniad bydd yr ymchwiliad yn dod i ben ac ni fydd yr heddlu yn cymryd camau pellach," meddai'r e-bost.

Roedd Syr Roderick Evans wedi bod yn ymchwilio i gwynion ynglŷn â Mr McEvoy
Mae Heddlu'r De wedi dweud wrth Mr McEvoy y byddant yn sicrhau "ymchwiliad trylwyr" i honiadau a wnaeth o yn erbyn Syr Roderick a dau aelod staff o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Dywedodd llefarydd: "Mae ymholiadau yn parhau i rai o'r materion a byddai'n amhriodol i wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Sir Roderick am ymateb.
Dywedodd Mr McEvoy: "Fe gefais fy ethol ar addewid o fyrstio'r swigen yn y Bae, a glanhau gwleidyddiaeth Bae Caerdydd. A dyna beth yn union rwy'n parhau i'w wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018