Dynes yn cael ei chrogi gan denynnau dau gi

  • Cyhoeddwyd
Southleigh Drive, WrexhamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Deborah Roberts ei chanfod â'i phen i lawr ar borfa y tu ôl i stryd

Clywodd cwest bod dynes o Wrecsam wedi marw ar ôl iddi gael ei chrogi gan denynnau dau gi.

Cafwyd hyd i gorff Deborah Roberts yn ardal Rhos-ddu ar 8 Gorffennaf.

Clywodd gwrandawiad byr yn Rhuthun bod dau weithiwr wedi dod o hyd i Ms Roberts wedi i ferch ifanc ofyn iddyn nhw helpu ei ffrind oedd yn tagu.

Cafwyd hyd i'r ferch y tu ôl i Southleigh Drive - roedd hi'n gorwedd gyda'i thalcen ar y glaswellt ac roedd dau dennyn o amgylch ei gwddf wedi iddi gael ei thynnu gan ddau gi.

Mae'r achos wedi'i ohirio ac fe orchmynnodd y crwner John Gittins fod cwest llawn yn cael ei gynnal.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Ms Roberts, oedd yn gweithio mewn warws yn ardal Rhos-ddu, yn syth.

Cofnododd yr archwiliad post mortem ei bod wedi marw o ganlyniad i grogi.

Dyw dyddiad y gwrandawiad llawn ddim eto wedi ei bennu.