Mari Emlyn: Y menopos a fi
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdures Mari Emlyn ar fin cyhoeddi nofel newydd, Mefus yn y Glaw, lle mae Lili'r prif gymeriad yn mynd drwy'r menopos.
Yma, mae Mari'n sgrifennu am ei phrofiad personol hi o'r hyn mae'r geiriadur yn ei alw yn 'darfyddiad'... ond dydy hi ddim wedi 'darfod' eto, meddai!
Cefais gais gan Cymru Fyw i sgwennu pwt 'hwyliog' ar y menopos! Oedden nhw'n cymryd y meical? Beth yn enw popeth sy'n 'hwyliog' am uffern y blincin menopos? A dyna un o'r myrdd symptomau felltith yn codi ei ben yn syth. Dim ffilter.
Nid dim ond oestrogen sydd wedi diflannu o'r corff ond tact hefyd. Felly dim ffilter. Dim tact. Gorymateb. Oes rhywun arall menoposaidd wedi troi'n anghenfil dros nos, 'ta ydw i jest yn hen ast flin? Peidiwch ateb.
Fiw i chi nghroesi i am sbel. Wel, yn ôl yr hyn a ddywed rhai deallusion, ddim o bosib am y pum mlynedd nesaf! PUM MLYNEDD?! RILI?!
'Ceisio cadw urddas'
Bu'n rhaid i mi bwyllo a meddwl yn hir a ddylwn i ymateb i'r cais hwn. Pwy mewn gwirionedd sydd isio darllen am y chwysu a'r rhegi; y gor-boethi a'r insomnia; y blew yn tyfu yn y mannau rhyfeddaf; y magu bloneg a'r niwl ymenyddol heb sôn am ambell symptom arall na feiddiaf ei rannu efo chi. Rhaid ceisio cadw rhyw fath o urddas drwy hyn i gyd.
Un o fanteision y cyfnod clo ydi nad oes neb y tu allan i'r tŷ wedi gorfod fy nioddef i. Diolchwch. Mae aelodau anffodus y teulu sy'n byw acw wedi dysgu bellach i beidio cwyno os ydi holl ffenestri'r tŷ ar agor ac i redeg i chwilio am fy nheclyn newydd pan ddaw un o'r tonnau poeth afiach i fy llethu.
Maen nhw wedi hen arfer fy nghlywed i'n gweiddi, "Ble mae fy ffan i? Ble mae fy ffan i?"
Os ydach chi'n ddyn â'ch partner yn mynd drwy'r menopos - anghofiwch am brynu siocled iddi hi achos mae hi mewn peryg o droi'n das wair o dew. Ewch allan i brynu ffan. A phrynwch un sbâr rhag ofn i'r cyntaf fynd ar goll neu mi fydd 'na ddagrau neu'n waeth fyth, fwrdwr.
'Dynes ddesbret'
Dilema llawer ohonon ni sy'n mynd drwy'r menopos ydi cymryd HRT [Hormone Replacement Therapy] ai peidio? Y broblem efo HRT ydi bod y byd meddygol yn dweud ei fod o'n helpu yn erbyn osteoporosis a thrawiad ar y galon, ond yn cynyddu risg strôc a thrombosis. Hmm. Beth ddylai dynes ddesbret ei wneud? Dydi o fawr o ddewis: osgoi trawiad ar y galon ond cynyddu'r posibilrwydd o gael clot angheuol.
Mae yna gymaint o amryfusedd ynglŷn â thriniaethau ar gyfer y menopos a'r un ohonyn nhw heb ei pheryglon. Petai dynion yn dioddef ohono byddai yna driniaethau rif y gwlith wedi eu dyfeisio ganrifoedd yn ôl. Sori ddynion - dydw i ddim yn chwerw - onest! Grrrr!
Fe driais i ddod o hyd i air Cymraeg call am y menopos. A sori Bruce [Bruce Griffiths, un o awduron Geiriadur yr Academi], mae gen i barch anferthol atoch, ond: 'Darfyddiad'?! 'DARFYDDIAD?! Ffor **** sêcs!
Ella mod i'n hen ast flin chwyslyd flinedig flewog efo tourettes, ond dydw i ddim wedi 'darfod' eto gobeithio.
Hefyd o ddiddordeb: