Bachgen 13 oed wedi marw ar ôl syrthio o feic modur

  • Cyhoeddwyd
Cory Hewer ar ei feic modurFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cory Hewer, a fu farw mewn damwain ar ei feic modur

Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl syrthio o feic modur ar drac ym Mlaenau Gwent.

Cafodd Cory Hewer, oedd yn byw yng Nglynebwy, ei anafu ar safle Aberbeeg Motocross ym mhentref Cwm ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y gwasanaeth ambiwlans wedi'u galw i'r safle tua 15:30 gan eu "hysbysu fod bachgen wedi dod oddi ar feic modur oedd yn cael ei yrru [yno]."

Ychwanegodd llefarydd yr heddlu fod y bachgen "wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol i'w ben" a'i fod wedi marw ddydd Mawrth.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ac mae swyddogion arbenigol yn eu cefnogi ar hyn o bryd," medd y llu.

Teyrnged

Mewn teyrnged iddo dywedodd ei rieni: "Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd yn ystod y cyfnod trasig hwn.

"Roedd Cory yn fachgen bach hapus oedd yn caru ei rygbi a Motocross. Roedd o'n fachgen direidus, doniol a chariadus ac fe fydd yn cael ei golli'n arw.

"Bu farw'n gwneud y gamp yr oedd o'n ei charu fwyaf, ac roedd mor ddewr yn rhoi ei organau. Fydd ein bywydau byth yr un fath hebddo fo."