'Annhegwch' i fyfyrwyr sy'n gorfod talu costau angladd

  • Cyhoeddwyd
Cerys a Lyndon EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae myfyriwr o Gaerffili yn dweud ei bod wedi gorfod defnyddio cardiau credyd i dalu am angladd ei thad am nad oedd hi'n gymwys am gymorth ariannol.

Roedd tad Cerys Evans, Lyndon Evans, yn byw yn ardal Parc Lansbury ac roedd "pawb yn ei garu" a'i adnabod meddai ei ferch.

Ond bu farw o sepsis a niwmonia yn 51 oed.

Roedd Cerys wedi clywed am Gostau Taliadau Angladd sef cymorth mae Llywodraeth y DU yn rhoi tuag at gostau angladd.

Ond am ei bod hi'n astudio yn y brifysgol doedd hi ddim yn gallu hawlio'r arian.

Mae'n dweud bod y system yn "annheg".

Yn ôl Llywodraeth y DU mae'r arian yn cael ei dargedu ar gyfer y bobl sydd yn gymwys i dderbyn budd-daliadau "er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu cefnogi".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lyndon Evans wedi bod yn sâl yn y gorffennol ond wastad wedi dod trwyddi, meddai ei ferch Cerys

Aeth Lyndon Evans i Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Mai ac fe wnaeth farw wythnos a hanner wedyn. Roedd y newyddion yn "annisgwyl".

"Roedd Dad yn diabetig ac wedi bod yn sâl o'r blaen ond roedd e yn llwyddo i oroesi bob tro ac yn gallu goresgyn unrhywbeth," meddai Cerys, sydd yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gweithio rhan amser.

"Pan aeth mewn i'r ysbyty fe wnaethon nhw ddweud bod modd ei drin, y dylai oroesi ac fe wnaeth pethau waethygu yn gyflym ac yna fe fu farw."

Ar ôl iddo farw roedd yn rhaid i Cerys, sydd yn 20 oed, drefnu ei angladd am mai hi oedd y perthynas agosaf.

'Annhegwch' y system

Ond daeth hi'n amlwg na fyddai yn gallu hawlio am gymorth ariannol.

Yn ôl Cerys mae ei stori yn tanlinellu bod yna wendid annheg yn y system. Mae'r bobl sydd yn cael y taliad yn gorfod bod yn derbyn un math o fudd-dal.

Ond dyw myfyrwyr ddim yn gymwys i hawlio mwyafrif o fudd-daliadau.

"Fe wnaeth e'n llorio fi. O'n i yn meddwl bod gyda fi rhywfaint o arian o fy menthyciad myfyriwr wedi ei gynilo, dim llawer, ond oedd gyda fi rhywfaint i brynu offer ar gyfer flwyddyn nesaf.

"Dim ond tua £600, £700 o'n i wedi cynilo, os hynny, ac fe aeth popeth tuag at yr angladd.

"Odd gyda fi gerdyn credyd cynt. Odd rhaid i fi ddefnyddio hwnna ac un arall a chael benthyg arian gan aelodau'r teulu. Odd e'n hunllef, yn ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dod o hyd i'r arian ar gyfer yr angladd yn straen ar Cerys a'i chwiorydd, Lily a Chloe (uchod)

Mae Cerys, sydd â chwaer iau, Lily, 14 a chwaer arall, Chloe sydd yn 27 yn dweud bod dod o hyd i £4,000 wedi bod yn straen arni hi a'i chwiorydd.

Cafodd angladd Lyndon Evans ei gynnal ym mis Mehefin a hwnnw'r un "rhataf posib" ac mae'n teimlo na chafodd o'r angladd yr oedd yn haeddu.

Mae nawr wedi dechrau deiseb i geisio newid y system fel bod myfyrwyr yn medru gwneud cais i gael help tuag at gostau angladdau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys Evans eisiau i fyfyrwyr allu gwneud cais i gael arian tuag at gostau angladdau

"Dyw pobl ddim yn sylweddol faint ni'n gwneud. O'n i yn gofalu am dad cyn hyn. O'n i yn neud ei siopa iddo.

"Pan o'n i yn y brifysgol o'n i yno o ddydd Llun tan ddydd Iau ac yna yn gweithio dydd Gwener tan ddydd Sul. Doedd gyda fi ddim un diwrnod i fi fy hun a rhwng hynny i gyd o'n i yn helpu dad.

"Mae'r llywodraeth wastad yn annog ni- dylech chi fynd i'r brifysgol, dyma'r opsiwn gorau i chi. Rwy eisiau iddyn nhw sylweddoli ein bod ni yn haeddu'r nawdd yma cymaint ag unrhyw un arall."

Arian i'r rhai 'mwyaf bregus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae colli rhywun sydd yn annwyl i chi yn ofnadwy o drallodus ac rydyn ni yn anfon ein cariad at unrhyw un sydd yn profi profedigaeth.

"Mae'r cymorth ariannol rydyn ni yn cynnig yn cael ei dargedu ar gyfer y rhai sydd yn gymwys i dderbyn budd-daliadau er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu cefnogi gyda'r costau hyn."