Deiseb yn galw am dalu costau angladd gweithwyr iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau angladd gweithwyr iechyd sydd wedi marw o coronafeirws yn cael ei thrafod yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae oddeutu 400 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb ac yn ôl un o'r rhai sydd wedi ei llunio, dyw peidio talu am gostau angladd ddim yn dangos gwerthfawrogiad llawn o'r risg y mae gweithwyr iechyd yn ei wynebu.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud y dylai'r cymorth ariannol o £60,000 a gyhoeddwyd ddiwedd Ebrill fod yn ddigonol.
Mae teuluoedd gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal sy'n marw o ganlyniad i Covid-19 tra'n gwasanaethu yn gallu elwa o'r cymhorthdal hwnnw.
'Lleddfu'r trawma'
Mae'r ddeiseb yn nodi bod angladd syml yn costi £4,000 ar gyfartaledd, ac mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru "sicrhau bod teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn cael mynediad at arian ar unwaith i dalu costau angladdau".
"Mae pawb yn wynebu amser anodd," medd yr Athro Jane Henderson, sydd wedi llunio'r ddeiseb gyda'i chydweithwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Karin Wahl-Jorgensen.
"Ond y mae'n amser ofnadwy i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid a oedd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd.
"Dwi'n teimlo y gellid yng Nghymru leddfu rhywfaint ar y trawma yna i deuluoedd."
Cafodd y ddeiseb ei thrafod gan bwyllgor deisebau'r Senedd ddydd Iau diwethaf.
Dywedodd yr Athro Henderson o adran Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd ei bod wedi helpu i lunio'r ddeiseb wedi i'w ffrind, a oedd yn nyrs, farw.
"Fe welon ni ei theulu yn gorfod dibynnu ar garedigrwydd ffrindiau a theulu i dalu am yr angladd.
"Roedd pob un ohonom yn fodlon helpu teulu mor arbennig ond mae'r costau a'r penderfyniadau sut i reoli hynny yn faich ychwanegol yn ystod cyfnod o alar."
Yn ôl ffigyrau swyddogol 28 Ebrill, mae dros 100 o staff y GIG wedi marw o haint coronafeirws ar draws y DU.
Dywedodd yr Athro Henderson y dylai'r arian sydd ar gael i helpu teuluoedd mewn profedigaeth fod ar gael o fewn diwrnod i farwolaeth yr ymadawedig, fel bod gwasanaethau'n gallu cwrdd â gofynion crefyddol a diwylliannol.
Mae cwmni cyfreithwyr o Gaerdydd, Cyfreithwyr Albany, hefyd yn cefnogi'r ddeiseb ac yn dweud y dylai teulu pob aelod o staff y GIG fod yn gymwys i daliad - nid y rhai sy'n ddinasyddion neu sy'n byw ym Mhrydain yn unig.
Maen nhw'n nodi nad yw'r "rhan fwyaf" o staff y GIG sydd ddim yn Brydeinwyr yn gallu hawlio arian cyhoeddus yn y DU am gyfnod o bump neu 10 mlynedd - a hynny'n ddibynnol ar eu fisa.
"Dinasyddion sydd ddim yn Brydeinwyr yw'r rhan helaeth o staff y GIG," meddai'r cwmni mewn datganiad yn cefnogi'r ddeiseb.
"Maent yn weithwyr rheng flaen yn ystod y cyfnod hwn - yn aml filoedd o filltiroedd o'u gwlad a'u teuluoedd."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Wrth ymateb i'r ddeiseb dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod yr arian a gyhoeddwyd ddiwedd Ebrill yn "rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl ac yn lleddfu caledi ariannol i ryw raddau".
Mewn datganiad ysgrifenedig, dolen allanol nododd Senedd Cymru: "Nid yw'r cyhoeddiad yn dweud yn benodol bod y cymorth ariannol i helpu teuluoedd i dalu costau angladd gweithwyr gofal iechyd a fu farw o ganlyniad i COVID-19, ond dyna'r hyn sy'n cael ei led-awgrymu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020