Covid-19: Dros 1,000 wedi eu heintio mewn ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi manylion am gannoedd o bobl gafodd ei heintio gyda Covid-19 tra yn yr ysbyty.
Dyma'r tro cyntaf i'r ffigyrau ddod i'r amlwg, ac mae ICC yn dilyn cydweithwyr yn yr Alban wrth gyhoeddi'r ystadegau.
Maen nhw'n dweud bod bron 1,800 o gleifion lle mae'n "debygol" neu'n "bendant" eu bod wedi cael yr haint ar ôl mynd i ysbyty.
Ychwanegodd ICC bod 11% o'r holl achosion yn deillio o heintio mewn ysbyty, ond bod y niferoedd wedi gostwng yn "sylweddol" ers brig yr haint.
Dadansoddi'r data
Mae'n gallu bod yn fater cymhleth cael sicrwydd o ble cafodd pobl eu heintio, yn enwedig gan bod nifer ddim yn dangos unrhyw symptomau.
Gallai fod rhai cleifion wedi mynd i'r ysbyty heb fod yn ymwybodol fod Covid-19 arnyn nhw'n barod.
Y dull a ddefnyddiwyd i benderfynu pryd a ble cafodd pobl eu heintio oedd hyn:
Prawf positif o fewn deuddydd i fynd i'r ysbyty = heintio yn y gymuned
Prawf positif rhwng 3-7 diwrnod o fynd i'r ysbyty = 'Amhendant'
Prawf positif rhwng 8-14 diwrnod o fynd i'r ysbyty = 'Tebygol'
Prawf positif 15 diwrnod neu fwy ar ôl mynd i ysbyty = 'Pendant'
Mae ffigyrau ICC yn dangos 1,172 o gleifion yn y categori 'Pendant' a 616 arall yn y categori 'Tebygol'.
Mae oddeutu 500 arall yn y categori 'Amhendant'.
Dywedodd Dr Robin Howe, cyfarwyddwr digwyddiadau ICC, bod gwelliannau wedi eu gwneud, a bod cyfraddau heintio wedi dod i lawr o dros 90% ers brig yr haint.
"Mae'r data'n dangos bod ymlediad coronafeirws mewn lleoliadau gofal iechyd o dan reolaeth, a'i bod yn ddiogel i bobl fynd at wasanaethau iechyd yng Nghymru," meddai.
"Fel mewn rhannau eraill o'r byd, mae heintio mewn ysbytai wedi digwydd yng Nghymru, ac mae heintusrwydd y feirws wedi cyflwyno heriau i'r gwasanaetha iechyd.
"Roedd nifer sylweddol o heintiadau mewn ysbytai yn nyddiau cynnar y pandemig, gyda'r brig yn digwydd yn yr wythnos 5 Ebrill."
Sefyllfa'r Alban
Mae Cymru'n dilyn yr Alban wrth gyhoeddi'r ystadegau yma.
Dangosodd ffigyrau'r Alban fod bron 72% wedi cael eu heintio yn y gymuned, ond roedd dros 1,000 yn y categori 'Pendant' a 272 yn rhagor yn y categori 'Tebygol'.
Yn yr wythnos mwyaf diweddar o ddata, mae ffigyrau'r Alban yn dangos un achos 'Pendant' a dau achos 'Tebygol' o heintio Covid-19 yn yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020