Covid-19: Cyhoeddi strategaeth brofi newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog iechyd Cymru wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd ar gyfer coronafeirws.
Dywedodd Vaughan Gething bod y seilwaith profi cenedlaethol yn golygu y gall unrhyw un sydd angen prawf gael un.
Dywed y llywodraeth y gall unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 gael prawf "yn gyflym ac yn rhwydd".
Ar hyn o bryd, mae dwy ffordd wahanol o brofi yng Nghymru; prawf i ganfod a oes gan rywun y feirws ar y pryd, a'r prawf gwrthgyrff sy'n cael ei ddefnyddio i ganfod a yw person wedi'i heintio yn flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y strategaeth newydd, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, wedi'i seilio ar y "dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf".
Mae'r strategaeth newydd hefyd yn edrych ar rôl a diben profi pobl asymptomatig ac yn nodi y bydd hyn yn parhau lle ceir y risg fwyaf - er enghraifft, ymysg y boblogaeth hŷn a gweithwyr iechyd a gofal.
Cadarnhaodd y llywodraeth y bydd y rhaglen brofi wythnosol ar gyfer cartrefi gofal yn parhau am bedair wythnos arall.
Os nad oes cynnydd yn y cyfraddau mynychder y tu hwnt i'r lefelau presennol mewn cartrefi, yna bydd y cylch profi yn symud i bob pythefnos.
Paratoi at ail don bosib
Dywedodd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r strategaeth hon yn gosod y ffordd ymlaen ar gyfer profion wrth i'r cyfyngiadau lacio a nifer yr achosion o Covid-19 ostwng o'r brig a welsom ychydig wythnosau yn unig yn ôl.
"Mae hefyd yn gwneud paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ail don o'r coronafeirws yn yr hydref.
"Mae gennym nawr seilwaith profi cenedlaethol sy'n golygu y gall unrhyw un sydd angen prawf gael un.
"Yn ei dro, bydd hyn yn ein galluogi i olrhain cysylltiadau er mwyn rheoli trosglwyddiad y clefyd wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
"Mae ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn hollbwysig i'n helpu i ddod o hyd i ffordd o fyw gyda'r clefyd hyd nes y bydd brechlyn neu driniaeth ar gael."
Ond dywedodd y gweinidog iechyd yn ystod y gynhadledd i'r wasg ddyddiol na fydd holl weithwyr gofal sydd yn ymweld â chartrefi yn cael eu profi ar gyfer Covid-19.
Mae yna alwadau wedi bod i brofi'r holl ofalwyr sydd yn edrych ar ôl pobl yn eu tai eu hunain, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau, fel sydd yn digwydd i staff sydd yn gweithio mewn cartrefi gofal.
Dywedodd Mr Gething y byddai rhai yn derbyn profion gwrthgyrff, sydd yn dangos os ydyn nhw wedi cael y feirws.
"Dyw'r dystiolaeth sydd gyda ni ac rydyn ni wedi cyhoeddi heddiw ddim yn cefnogi profi'r sector gyfan fel y dull cywir."
"Er hynny mae yn dangos, fel dwi wedi dweud, bod pawb sydd ag symptomau angen cael prawf ac hunan-ynysu."
Cafodd y gweinidog iechyd hefyd ei holi yn y gynhadledd ynglŷn â chyflymder prosesu rhai profion yng Nghymru.
Roedd ffigyrau yn dangos fod llai o brofion wedi eu cynnal ac mai 66.3% o'r canlyniadau oedd wedi dod 'nôl o fewn 48 awr - y perfformiad gwaethaf yn ystod y pandemig.
Dywedodd Vaughan Gething fod yna "broblem benodol" wedi bod gyda labordy ym Manceinion a bod hyn wedi achosi oedi.
Ychwanegodd ei fod yn benderfynol y bydd pobl yn cael canlyniadau eu profion yn gyflym a bod Llywodraeth Cymru wedi "cymryd camau" i wella hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020