Dim bocsys bwyd am ddim os oes cyfnod cysgodi arall

  • Cyhoeddwyd
Bocs bwydFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na 163,000 o'r bocsys bwyd am ddim hyn wedi'u dosbarthu yn ystod y pandemig

Ni fydd cynllun bocs bwyd arall ar gyfer y bobol sydd fwyaf mewn perygl o'r coronafeirws yng Nghymru os bydd angen cyfnod cysgodi arall.

Mae mwy na 163,000 o focsys am ddim wedi'u dosbarthu i'r rhai oedd eu hangen, gyda 130,000 ar y rhestr gysgodi.

Dywedodd y Ceidwadwyr y dylid cynnal y gefnogaeth, a dywedodd Plaid Cymru fod y penderfyniad yn annerbyniol.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru yw'r rhan olaf o'r DU i ddod â chymorth bwyd a ariennir gan y wladwriaeth i ben.

Mae pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol wedi cael eu cynghori i aros y tu fewn ers dechrau'r pandemig i amddiffyn eu hunain, ond dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yr wythnos diwethaf y byddent yn gallu mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu y siopau ar ôl 16 Awst.

Ychwanegodd Dr Atherton y byddai'r mesurau'n cael eu hadolygu pe byddai lefelau trosglwyddo'r feirws yn codi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi "cytuno ar gynigion i roi terfyn ar y cynllun presennol o focsys bwyd ar gyfer pobl sy'n cael eu gwarchod ar 16 Awst, pan fydd y cyngor ar amddiffyn yn cael ei godi, ac na fydd cynllun bocsys bwyd newydd yn cael ei gaffael ar gyfer unrhyw gyfnod gwarchod dilynol."

Neilltuodd Llywodraeth Cymru £15m ar gyfer y cynllun yn y gwanwyn - er nad yw cyfanswm costau'r cynllun ar gael ar hyn o bryd.

Dywedon nhw fod pob bocs yn costio rhwng £31 a £35, er bod costau dosbarthu yn amrywio rhwng ardaloedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall pobl sy'n cysgodi "ailddechrau bywyd dydd i ddydd yn raddol" meddai prif swyddog meddygol Cymru

Galwodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ar Lywodraeth Cymru i egluro'r rhesymau dros adolygu'r polisi: "Mae'r bocsys bwyd a ddarparwyd i bobl yn cysgodi yn ystod y pandemig a chyfnod cloi Covid-19 wedi bod yn achubiaeth.

"Felly dylai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau bod mesurau cynorthwyol yn cael eu cynnal i gefnogi pobl sy'n agored i niwed - os oes angen ail gyfnod o gysgodi."

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Delyth Jewell: "Mae'r newyddion hyn yn gwbl annerbyniol, ac yn enghraifft arall eto o Lywodraeth Cymru yn esgeuluso'r bobl sy'n cysgodi.

"Yn gynnar yn yr argyfwng hwn, anfonwyd 13,000 o lythyrau cysgodi i'r cyfeiriadau anghywir, a phan newidiodd cyngor cysgodi ym mis Mehefin, roedd yn rhaid i'r rhai yr oedd y penderfyniad yn effeithio arnynt ddarganfod o ddatganiadau i'r wasg yn lle clywed gan y llywodraeth yn uniongyrchol."

Er gwaethaf y newidiadau, dywedodd Dr Atherton yr wythnos diwethaf y bydd archfarchnadoedd yn parhau i gynnig slotiau dosbarthu â blaenoriaeth i'r rhai yn y grŵp cysgodi.

Bydd y gwasanaeth dosbarthu presgripsiynau yn aros yn ei le tan 30 Medi.

Dywedodd James Taylor o'r elusen cydraddoldeb anabledd Scope na fydd bron i draean o bobl anabl yn gadael eu cartref pan ddaw'r cyfnod cloi i ben.

Mae'n hanfodol, meddai, eu bod yn dal i allu cael slotiau dosbarthu o archfarchnadoedd. "Efallai y bydd cysgodi yn dod i ben, ond nid felly yr angen i rai pobl anabl gael dull diogel ac effeithiol o dderbyn bwyd," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae slotiau blaenoriaeth wedi bod ar gael mewn archfarchnadoedd ar gyfer y rhai sydd eu hangen

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yw y bydd cysgodi yn oedi ar 16 Awst, a bydd y contract ar gyfer y cynllun bocs bwyd ar gyfer y grŵp cysgodi yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw."

Ychwanegodd: "Cyflwynwyd y cynllun bocsys bwyd i fynd i'r afael â materion logisteg ledled y wlad, ac i ddarparu mynediad at gyflenwadau bwyd hanfodol pan oedd y gadwyn gyflenwi dan gryn straen - mae'r siopa ar-lein, bocsys bwyd masnachol a siopa gyda chymorth gwirfoddolwyr, wedi gwella yn ystod yr amser hwn.

"Cymru yw'r rhan olaf o'r DU i ddod â'r cynllun cysgodi i ben, ac i ddod â chymorth bwyd a ariennir gan y wladwriaeth i ben.

"Mae cefnogaeth barhaus ar gael i'r rhai sy'n agored i niwed trwy awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol pe bai angen.

"Mae archfarchnadoedd hefyd wedi dweud wrthym y byddant yn parhau i sicrhau bod slotiau â blaenoriaeth ar gael i'r rhai sydd wedi cael eu cynghori i gysgodi."