Eisteddfod 1920: Faint sydd wedi newid mewn 100 mlynedd?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau British Pathé o seremoni agor yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Barri yn 1920 (dim sain)

Faint oedd yn wahanol 100 mlynedd yn ôl a beth fyddai eisteddfodwyr 1920 wedi ei feddwl o ddigwyddiadau 2020 a'r Brifwyl wedi ei chanslo oherwydd pandemig dros y byd?

Mae archif ffilm British Pathé yn dangos yr Archdderwydd Dyfed yn arwain seremoni agor Eisteddfod Genedlaethol 1920 oedd yn cael ei chynnal yn y Barri.

Ar wahân i rai o'r gwisgoedd traddodiadol a'r hetiau - ac ambell fwstash go nobl - does dim gymaint â hynny wedi newid o ran y seremoni ei hun.

Tu hwnt i faes yr Eisteddfod, yn 1920 roedd y genedl yn dal i ddod dros colli rhwng 35,000 a 40,000 o ddynion ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd na ddirwasgiad ar y gorwel.

Doedd bedd Tutenkamun heb ei ddarganfod eto, Iwerddon rydd heb ei sefydlu, mudiad yr Urdd ddim yn bodoli a doedd na ddim teledu na radio Cymraeg.

Beth arall oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd?

Prif ddigwyddiadau hanesyddol 1920

  • Dechrau'r syniad o'r Drydedd Reich yn Yr Almaen gyda Hitler yn ffurfio baner swastika i'w blaid newydd, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Natsïaidd.

  • Pob pwll ar gau wedi i'r glowyr bleidleisio dros streic.

  • Lloyd George yn cael problemau oherwydd y penderfyniad i rannu Iwerddon yn ddwy, ac yn ffurfio'r garfan Heddlu Prydeinig Black and Tans i geisio cadw trefn. 'Roedd rhai o'i gefnogwyr yng Nghymru wedi eu siomi ganddo.

  • Ffurfio Plaid Gomiwnyddol Prydain. Lenin yn ystyried mai glowyr De Cymru oedd byddin flaen y Chwyldro.

  • Sefydlu'r Eglwys yng Nghymru.

  • Sefydlu coleg y Brifysgol yn Abertawe.

  • Y Cyfrifiad yn dangos fod 56% o bobl Llanddeiniolen yn methu siarad Saesneg.

  • 'Doedd neb yn gallu siarad Saesneg ym Modferin, Llŷn.

  • Mwy am Eisteddfod 1920 ar ar wefan archif Canrif o Brifwyl

Yn ôl Alan Llwyd, awdur Canrif o Brifwyl, doedd beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol heb eto ymateb yn llawn i'r rhyfel cyn 1920.

"Bu'n rhaid aros hyd Eisteddfod 1921 yng Nghaernarfon i weld bardd yn cyfleu yr holl brofiad o erchylltra, newid byd, siom, colli ffydd a dadrithiad a ddaeth yn sgîl y Rhyfel pan enillodd y cyn-filwr Cynan y Goron gyda'i bryddest 'Mab y Bwthyn'," meddai ar wefan archif Canrif o Brifwyl BBC Cymru.

"Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth â'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr enillydd James Evans at y meirw aflonydd,"

"Ond erbyn diwedd y gerdd 'roedd y bardd yn cyfleu optimistiaeth. Ond heddwch anniddig a gafwyd wedi'r drin.

"Hyd yn oed ym 1919, 'roedd cytundeb heddwch Versailles a'i gosb drom ar Yr Almaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhyfel arall.

"'Roedd Rudderford wedi llwyddo i hollti'r atom, Mussolini wedi sefydlu'r Blaid Ffasgaidd yn Yr Eidal a gwrth-Semitiaeth yn dechrau lledaenu yn Yr Almaen.

"Erbyn Chwefror 1920 'roedd Adolf Hitler ac eraill wedi sefydlu plaid newydd gyda baner newydd, y swastika. Hon oedd y Blaid Natsïaidd.

"Yng Nghymru daeth Ymreolaeth yn bwnc llosg eto gyda phobl fel E.T. John ac W. Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol dros fwrdeistref Caerfyrddin a Chadeirydd yr Eisteddfod, yn hybu'r ymgyrch yn ei blaen.

"'Roedd ymdeimlad fod angen i Gymru ddechrau o'r dechrau, a rhoi trefn ar ei thŷ. Os oedd Cymru i oroesi mewn byd mor beryglus a mympwyol, byddai'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth ymerodraeth a phwerau mawrion. 'Roedd datgysylltu'r Eglwys yn un cam ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw."

Amser a ddengys lle bydd 2020 yn sefyll yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymru a'r byd.

Hefyd o ddiddordeb: