Sinemâu a salonau harddwch yn cael ailagor o ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
EwineddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd salonau harddwch fel parlyrau ewinedd yn gallu ailagor ddydd Llun

Bydd sinemâu, amgueddfeydd, salonau harddwch a gwersi gyrru yn cael ailagor ac ailddechrau o ddydd Llun ymlaen, medd Llywodraeth Cymru.

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau mai dyma'r newidiadau diweddaraf i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.

Bydd y rheol ar wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dod i rym ar yr un diwrnod, sef 27 Gorffennaf.

Mae meysyddgwersylla a llety eraill ble mae cyfleusterau'n cael eu rhannu wedi cael caniatâd i ailagor o ddydd Sadwrn, ynghyd ag atyniadau tanddaearol.

'Cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni'

Dywedodd Mr Drakeford y bydd yn rhaid i bobl "arfer ag ambell i newid" er mwyn helpu amddiffyn eu hunain a gweithwyr wrth i fusnesau ailagor.

"Gallai hyn olygu gorfod cadw lle ymlaen llaw neu roi ein manylion i'r llefydd rydyn ni'n ymweld â nhw, er mwyn cefnogi ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, rhag ofn y daw achosion o'r coronafeirws i'r amlwg," meddai.

"Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i gadw at y rheolau newydd hyn fel y gallwn ni ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddydd Llun

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio mae Llywodraeth Cymru yn raddol wedi gosod dyddiadau ar gyfer pryd y bydd gwahanol ddiwydiannau yn cael ailddechrau.

Mae'r llywodraeth wastad wedi dweud bod hynny'n ddibynnol ar achosion Covid-19 yn parhau'n isel.

Ailagor y farchnad dai yn llawn

Bydd salonau harddwch, parlyrau ewinedd a pharlyrau tylino yn gallu ailagor ddydd Llun, ynghyd â siopau tatŵ a nodwyddo.

Ond ni fydd modd gwneud unrhyw driniaethau ar y wyneb.

Fe fydd gwersi gyrru hefyd yn cael ailddechrau.

Bydd y farchnad dai yn gallu ailagor yn llawn yn ogystal, gan gynnwys tywys pobl o amgylch tai sydd â phobl yn byw ynddynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae meysydd gwersylla wedi cael caniatâd i ailagor o ddydd Sadwrn

Er bod mwy o ddiwydiannau'n cael ailagor, penderfyniadau'r lleoliadau a'r busnesau eu hunain fydd a fyddan nhw'n gwneud hynny.

Mae'r diwydiant sinemâu wedi rhybuddio mai "ychydig, os o gwbl" fydd yn ailagor ar 27 Gorffennaf.

Nifer yn dal i ddisgwyl

Er y llacio ar y cyfyngiadau, mae nifer o fusnesau'n parhau i gael gwybod pryd fydd modd iddyn nhw ailagor.

Mae'r rheiny'n cynnwys theatrau, safleoedd sy'n chwarae cerddoriaeth fyw, campfeydd a chyfleusterau hamdden dan do fel pyllau nofio.

Bydd yr adolygiad ffurfiol nesaf o'r rheoliadau yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer agor tafarndai, bariau, caffis a bwytai dan do".