Caerdydd i gael gwared â cherflun Syr Thomas Picton
- Cyhoeddwyd

Mae Syr Thomas Picton yn arwr rhyfel i nifer, ond roedd hefyd yn euog o gam-drin caethweision
Bydd cerflun o Syr Thomas Picton yn cael ei dynnu o Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd yn dilyn pleidlais gan gynghorwyr nos Iau.
Roedd Picton yn cael ei gofio fel y swyddog mwyaf blaenllaw i farw ym Mrwydr Waterloo.
Ond roedd yn euog hefyd o gam-drin caethweision tra'n llywodraethwr ar ynys Trinidad.
Fe wnaeth 57 cynghorydd bleidleisio o blaid cael gwared â'r cerflun, gyda phump yn erbyn a naw yn atal eu pleidlais.

Mae'r cerflun o Syr Thomas Picton i'w weld yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd
Bydd y cerflun, sydd wedi bod yn ei le ers dros ganrif, yn cael ei orchuddio am y tro tra bo'r cyngor yn ceisio cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru a Cadw i'w dynnu o'r adeilad.
Fe ddaeth y galwadau i dynnu'r cerflun wedi i brotestwyr Black Lives Matter dynnu cerflun o Edward Colston, oedd hefyd â chysylltiadau gyda chaethwasiaeth, ym Mryste.
Roedd y prif weinidog Mark Drakeford wedi cefnogi'r alwad i symud y cerflun o'i safle yn Neuadd y Ddinas.
Mae Cyngor Sir Gâr hefyd wedi dweud y byddan nhw'n trafod dyfodol obelisg i gofio am Picton yn nhref Caerfyrddin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2015