Democratiaid Rhyddfrydol i gynnal hystings ar-lein
- Cyhoeddwyd
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal hystings arweinyddiaeth ar-lein ar gyfer aelodau'r blaid yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Yr Aelodau Seneddol Syr Ed Davey a Layla Moran yw'r ddau ymgeisydd sy'n cystadlu am y rôl.
Cyhoeddir y canlyniad ar 27 Awst.
Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hunig Aelod Seneddol o Gymru yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, a dim ond un sedd sydd gan y blaid yn Senedd Cymru.
Sedd yr aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed Kirsty Williams yw honno, a hi hefyd yw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Bydd hystings dydd Sadwrn yn cael eu cynnal dros y we ac ar gael i bawb eu gwylio.
Ond dim ond aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fydd yn cael gofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr.
Ar ôl bod yn ddirprwy arweinydd yn ystod cyfnod Jo Swinson wrth y llyw, mae Syr Ed Davey wedi bod yn un o arweinwyr dros-dro'r blaid ers i Ms Swinson ymddiswyddo ar ôl colli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Rhagfyr.
Yn siarad â BBC Cymru cyn yr hystings, dywedodd Syr Ed fod ei "weledigaeth yn seiliedig ar economi wyrddach, cymdeithas decach a gwlad fwy gofalgar".
Ychwanegodd y byddai etholiad Senedd Cymru fis Mai nesaf yn "brif flaenoriaeth" o dan ei arweinyddiaeth wrth iddo ragweld y bydd y blaid yn cipio seddi ar sail "record anhygoel" Kirsty Williams fel gweinidog.
"Mae hi wedi dangos yr hyn y gall Democratiaid Rhyddfrydol ei wneud… Rydyn ni wedi dangos bod modd ymddiried ynom ni i ofalu am ddyfodol ein plant ac yn wir ddyfodol Cymru."
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn poeni y gallai aelodau ei gysylltu â pherfformiad gwael y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Etholiad Cyffredinol o ystyried y rôl flaenllaw oedd ganddo o fewn y blaid ar y pryd, dywedodd AS Kingston a Surbiton ei fod yn gobeithio y bydd aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cydnabod ei fod wedi comisiynu adolygiad o strategaeth etholiadol y blaid oedd "yn ddi-flewyn ar dafod".
Roedd ymgyrch y blaid yn seiliedig ar atal Brexit a thra bod Syr Ed yn dweud y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i fod o blaid Ewrop gydag ef fel arweinydd, mae e hefyd yn gobeithio dangos bod gan y blaid bolisïau eraill hefyd.
"Mae gennym ni negeseuon cryf iawn hyn ar swyddi gwyrdd i bobl ifanc, adfywio economi Cymru ac economi'r DU trwy sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y dyfodol," meddai gan dynnu sylw at ei gefnogaeth i forlynnoedd llanw o amgylch Cymru a'r diwydiant awyrofod yng Nghymru.
Dywedodd Layla Moran, ar ôl 10 mlynedd mai ei neges hi yn yr hystings fydd bod "angen i ni newid fel plaid".
"Rhaid i ni gydnabod bod yna lawer o bleidleiswyr yng Nghymru yn benodol sy'n teimlo nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol ar eu hochr nhw mewn gwirionedd, nad ydyn ni wir yn siarad drostyn nhw."
Dywedodd fod y blaid yn canolbwyntio'n ormodol ar Lundain ac fe wnaeth hi gydnabod bod ymgyrchwyr yng Nghymru wedi eu "digalonni" gan yr Etholiad Cyffredinol diwethaf a'r penderfyniad i daro cytundeb gyda Phlaid Cymru a'r Gwyrddion dros adael i un o'r pleidiau'n unig sefyll mewn rhai etholaethau gyda'r nod o sicrhau Aelod Seneddol oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd gan AS Gorllewin Rhydychen ac Abingdon ganmoliaeth hefyd ar gyfer Kirsty Williams am ei "gwaith anhygoel" a dywedodd fod sicrhau ei bod yn cadw ei sedd fis Mai nesa'n "flaenoriaeth fawr".
Ac er yr hoffai weld mwy o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol i Fae Caerdydd, "mae unrhyw beth heblaw dirywiad ar y pwynt hwn yn dda".
"Rhaid i ni dderbyn ein bod yn cychwyn o fan isel ond bydd y llwybr o dan fy arweinyddiaeth i yn mynd am i fyny nid am i lawr."
Ar ôl Brexit dywedodd Ms Moran fod angen i'r blaid ganolbwyntio nawr ar "faterion bara menyn y mae pobl wir yn poeni amdanyn nhw fel addysg, yr amgylchedd a'r economi".
Mae Kirsty Williams ac arweinydd y blaid yng Nghymru Jane Dodds wedi dewis aros yn niwtral yn ystod y ras arweinyddiaeth.
Ms Dodds oedd unig Aelod Seneddol y blaid yng Nghymru ar ôl iddi gipio etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed mewn isetholiad fis Awst y llynedd.
Collodd y sedd bedwar mis yn ddiweddarach.
Ar drothwy'r hystings heno, dywedodd Ms Dodds: "Rwy'n wirioneddol falch bod gennym ddau ymgeisydd cryf iawn yn sefyll i arwain ein plaid.
"Mae gan Layla ac Ed yr egni a'r ysfa i fynd â ni ymlaen, i ailadeiladu ein plaid ar lawr gwlad ac o'r llawr gwlad a dod â llwyddiant i ni eto ar draws y DU."