Cadeirydd Menter Iaith gyntaf Cymru, DH Davies, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw DH Davies, cadeirydd cyntaf y Fenter Iaith gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru yn 1991.
Fe wnaeth Mr Davies, neu DH fel oedd yn cael ei adnabod, ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed yn ystod y cyfnod clo.
Roedd hefyd yn gyn brif weithredwr ar yr hen gyngor sir Dyfed, awdurdod oedd yn cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.
Yn ogystal â bod yn gadeirydd ar Fenter Iaith Cwm Gwendraeth, ef oedd un o'r sylfaenwyr.
Yn ôl Deris Williams, cyn-brif weithredwr Menter Iaith Cwm Gwendraeth, fe ddaeth y weledigaeth am ei sefydlu yn dilyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd â'r ardal yn 1989.
Dywedodd bod ei gyfraniad wedi bod yn "aruthrol".
"Roedd DH yn gadeirydd ar bwyllgor gwaith yr Eisteddfod ac roedd e'n awyddus iawn fod y bwrlwm Cymraeg a'r egni gafodd ei greu yn yr ardal yn parhau," meddai.
"Roedd hi hefyd yn gyfnod anodd i'r ardal gyda'r pwll glo yn cau yn '91.
"Roedd e am roi allwedd i weithgareddau lleol trwy gyfrwng y Gymraeg."
Yn enedigol o Essex symudodd i fyw i'r gorllewin gan ddysgu Cymraeg ac roedd ganddo falchder mawr yn yr iaith.
Fe ymgartrefodd yn Llanddarog.
Roedd yn aelod o'r Orsedd ac yn gymrawd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i lywodraeth leol.
Mae'n gadael un ferch, Shân.