Blas o'r Maes: Ryseitiau bwyd stryd Catrin Enid
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n teimlo ar goll eleni heb y cyfle i fwyta taten bob mewn bocs tra'n sefyll a chloncian, beth am ail-greu'r profiad adref gyda ryseitiau arbennig ar gyfer yr Eisteddfod AmGen?
Mae'r cogydd Catrin Enid yn byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu ac yn cofio ambell i bryd ar y maes: "Atgofion bwyd Steddfod i mi yw bwydydd hwylus a chyflym. Rhywbeth i lenwi twll rhwng gigs. Mae fy mhalet wedi datblygu peth dros y blynyddoedd, felly dyma fy 'spin' i o'r bwydydd hynny sy'n neud i fi wenu ac sy'n fy atgoffa am gornel y gorlan goffi am 3yb yn llowcio pot nwdl a brechdan 'cheese slice'!"
Mae Catrin wedi paratoi casgliad o ryseitiau bwyd stryd arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Amgen. Coginiwch a mwynhewch y bwyd gyda traed sych am unwaith!
Nwdls Pot Jam - Rysáit syml a chyflym
Hawdd ofnadwy i'w baratoi o flaen llaw, er mwyn gallu mwynhau holl gynnwys yr Eisteddfod AmGen a pheidio â cholli eiliad ohono...cinio yn yr amser mae'n cymryd i baratoi paned o de!
Yn gyntaf, rhaid paratoi'r pâst o flaen llaw. Mae digon yma ar gyfer 8-10 pryd o fwyd (yn dibynnu ar ba mor sbeislyd chi'n hoffi eich nwdls!)
Offer
Prosesydd bwyd a phadell ffrio
Cynhwysion
Ar gyfer y pâst :
3 winwnsyn gwyn canolig neu 2 winwnsyn fawr, wedi eu torri'n chwarteri
1 bylb cyfan o arlleg
Darn o sinsir ffres (maint bawd)
Bwnsh o shibwns (spring onions)
100ml saws pysgod (fish sauce)
100ml soy ysgafn
100ml finegr balsamic
2 lwy fwrdd o fêl
200g o bâst tsili
Ar gyfer y nwdls :
50g o nwdls parod
Eich dewis chi o gig neu bysgod, llysiau a pherlysiau
Dull
Piliwch yr winwns, garlleg a sinsir a thorrwch ben a gwaelod y shibwns i ffwrdd, a'i torri i dri darn. Taflwch popeth i'r prosesydd bwyd a'i gymysgu tan i'r cynhwysion ffurfio pâst llyfn.
Trosglwyddwch y gymysgedd i badell ffrio gydag olew a choginiwch ar dymheredd canolig, tan bod y winwns yn feddal ac yn frown.
Nawr mae'n amser ychwanegu'r cynhwysion eraill i'r badell, yna trowch y tymheredd i lawr yn isel, nes fod y pâst yn drwchus ac stici (tua 15-20 munud - ni ddylai fod unrhyw hylif ar ôl yn y badell).
Gadewch i'r pâst oeri, a'i roi mewn twb neu jâr er mwyn ei gadw. Mae modd cadw'r past yn yr oergell am hyd at 10 wythnos.
Er mwyn paratoi'r nwdls, rhowch lond llwy fwrdd o'r pâst (mwy os ydy chi'n hoffi bwyd sbeislyd) yng ngwaelod jar cadarn (jar sy'n gallu gwrthsefyll dŵr berw) yna torrwch eich nwdls i fewn i'r jar gyda 250ml o ddŵr berw.
Yna ewch ati i ychwanegu unrhyw gyfuniad o gig, llysiau (wedi rhewi, neu goginio) a pherlysiau ffres... (syniadau isod!)
Gweinwch y jariau gyda coriander ffres, tsili coch wedi sleisio, shibwns wedi sleisio'n denau ac ychydig o leim ffres.
*Mae modd ychwanegu'r cynhwysion i gyd i'r jar a'i gadw yn yr oergell, cyn ychwanegu'r dŵr. Pryd stryd cyflym a pharod!
Opsiynau ar gyfer y nwdls
Dyma hoff nwdls tŷ ni! Ychwanegwch y bwydydd canlynol i'r nwdls pot jam.
Y plant - Cyw iâr, pys ac india corn
½ llwy fwrdd o'r pâst
3 llwy fwrdd o bys o'r rhewgell
3 llwy fwrdd o india corn - wedi rhewi, neu o din
Llond llaw o gyw iâr parod (dros ben o ginio Dydd Sul fel arfer, neu o baced)
Perlysiau o'ch dewis - be' bynnag maen nhw'n hoffi. Mae fy merched i'n hoffi parsli wedi ei dorri'n fân
Yr oedolion - Eog du sbeislyd gyda hadau sesame a chreision kale
Filed o eog
2 lwy fwrdd yr un o soy ysgafn
2 lwy de o saws pysgod
2 lwy fwrdd o fêl clir
Naddion tsili (chilli flakes)
Pupur du
Hadau sesame
Pupur coch wedi sleisio'n denau
Dail kale
Halen môr
Dull
Cymysgwch y cynhwysion gwlyb a'r tsili mewn basin fas a marineddiwch yr eog ynddo am 20 munud.
Trosglwyddwch y pysgodyn i badell poeth - croen lawr i ddechrau a gwasgwch y ffiled i lawr fel bod pob darn yn cyffwrdd â'r padell. Trowch ar ôl rhyw 4 munud, mi ddylai'r croen fod yn dywyll ac yn crispi.
Ychwanegwch y marined i'r padell, a choginiwch ochr arall y ffiled am ryw 2-3 munud gan orchuddio'r pysgodyn yn y saws yn gyson. Mi fydd y saws yn tewhau ac yn gorchuddio'r pysgodyn. 30 eiliad cyn tynnu'r pysgodyn o'r badell, taflwch lond llaw o hadau sesame i'r badell, a digon o bupur du.
Ychwanegwch y pupur coch i'r jar, ac arllwys y dŵr i mewn. Mae modd gadael i'r pysgodyn oeri a'i roi yn y jar ar gyfer wedyn, neu ei weini'n gynnes ar y top. Gweinwch y creision kale ar frig y jar, er mwyn eu cadw'n crispi!
Creision kale
Golchwch y kale mewn rhidyll a sychwch y dail gyda lliain glân/papur gegin.
Mewn basin mawr, gorchuddiwch y dail gyda'ch dwylo mewn olew coginio, gan rwygo'r dail oddi ar unrhyw wythiennau mawr. Gosodwch y dail yn wastad ar hambwrdd, a choginiwch mewn ffwrn poeth (180º) am 15-20 munud. Cadwch lygad rhag iddynt losgi! Ychwanegwch halen môr am flas.
Nwdls: Fersiwn llysieuol
Ar gyfer fersiwn llysieuol o'r uchod, defnyddiwch gaws paneer yn lle'r eog a'i baratoi yn union yr un ffordd. Sicrhewch bod y paneer yn tywyllu'n dda yn y badell - peidiwch â bod ofn ei losgu neu doddi, mae'n gwrthsefyll gwres yn dda.
Toastie porc brau a ffa cartref
Y pethau symlaf sy' orau! Mae'r toastie yma yn fy atgoffa o faes yr Eisteddfod ar fore Iau glawog, lle dim ond toastie all neud y tro… beth bynnnag y pris! Mae'r ryseit yma mor hawdd, all unrhyw un ei baratoi.
Offer
Peiriant crasu brechdan
Cynhwysion
1 winwnsyn canolig
3 ewin o arlleg
500g porc baru (pulled pork).Mae modd ei brynu yn barod o'r archfarchnad neu ei baratoi eich hun
5 llwy fwrdd o saws barbeciw
2 ffa cymysg mewn tin. Rwy'n hoffi defnyddio rhai steil Mecsicanaidd, neu gallwch ddefnyddio ffa pob cyffredin
2 sleisen o fara da
20g caws Cymreig, wedi sleisio neu wedi gratio
Menyn Cymreig
Dull
Sleisiwch y winwns a malu'r garlleg yn fân. Coginiwch tan eu bod yn feddal.
Ychwanegwch y ffa a'r saws barbeciw, a chynheswch drwyddo. Gadewch i'r gymysgedd oeri, cyn ychwanegu'r porc (Mae'r porc wedi coginio unwaith, felly bydd modd ei gynhesu) Mae'r gymysgedd yn barod i'w ddefnyddio i lenwi'r brechdan nawr.
Mae modd ei gadw am hyd at 3 diwrnod yn yr oergell, neu ei rewi.
(Ar gyfer un brechdan)
Trowch y peiriant crasu ymlaen i'w gynhesu.
Cynheswch ddigon o'r llenwad ar gyfer un brechdan. Trochwch y bara ar un ochr yn y menyn, a'i osod (menyn i lawr) yn y peiriant.
Ychwanegwch y porc a'r caws - digonedd, fel ei fod yn arllwys dros yr ochr!
Craswch y brechdan tan ei fod yn byrlymu. Gweinwch gyda salad syml o ddail roced a saws siracha.
Dull - Paratoi'r porc brau cartref
Bydd angen darn o ysgwydd porc da, gyda croen arno ar gyfer crackling. Gofynnwch i'ch cigydd am y darn gorau, a sicrhewch bod y croen wedi ei baratoi, a'i sychu cyn coginio.
Trowch y ffwrn ymlaen ar dymheredd uchel - 180º. Gosodwch y cig ar din rhostio, ac ychwanegwch hyd at ei hanner mewn dŵr oer, a thaenu halen môr drosto. Gorchuddiwch mewn ffoil a'i osod yn y ffwrn. Trowch y tymheredd i lawr yn syth - 120-150º yn dibynnu ar eich ffwrn.
Coginiwch am ryw 2.5 awr. Tynnwch y ffoil, a pharhau i'w goginio am 45-60 munud arall tan fod y croen wedi creisioni! Mae'n anodd iawn gorgoginio'r cig fel hyn, ond cadwch olwg arno.
Ar ôl i'r cig goginio, tynnwch y croen oddi arno a'i roi i un ochr (trit i'r cogydd!)
Malwch y cig gyda tongs neu dwy fforc tan ei fod yn hollol frau, gyda'r saws naturiol sydd wedi dianc o'r cig. Nawr, rhaid ychwanegu'r seasoning. Mae modd prynu'r stwff hyn ar-lein neu mewn siop neu archfarchnad - mae cymysgedd o sbeisys tebyg ar gael i'w brynu o'r silff.
Ychwanegwch ddigon o'r seasoning i orchuddio'r cig i gyd - dim gormod, mae'n haws ychwanegu mwy na thynnu o 'na! Gadewch i'r cig oeri cyn fynd ati i ychwanegu'r ffa.
I baratoi'r cymysgedd/seasoning eich hun, cymysgwch y canlynol:
2 lwy fwrdd paprika wedi'i fygu
3 llwy fwrdd siwgr brown tywyll
1 llwy fwrdd halen môr
1 llwy fwrdd halen garlleg
1 llwy fwrdd pupur du
1 llwy fwrdd powdwr tsili
1 llwy fwrdd powdwr winwns
1 llwy fwrdd powdwr chipolte
1 llwy fwrdd cayenne
1 llwy fwrdd cumin
1 llwy fwrdd mwstard sych
Wyau pob sbeislyd
Offer
Padell trwm/haearn (addas i'w roi yn y ffwrn)
Cynhwysion
1 winwnsyn wedi sleisio
3 ewin garlleg wedi malu
1 pupur coch wedi sleisio
Tsili - dibynnu pa mor sbeislyd chi'n hoffi eich saws! Dwi'n dueddol o ddefnyddio 2 lwy o'r un poeth, neu 4 o'r canolig
½ llwy de powdwr tsili chipolte / naddion chipolte
1 llwy de paprika wedi'i fygu
½ llwy de hadau coriander
1 llwy fwrdd o fêl
Tin tomato
1 llwy de pâst tomato
4 ŵy
Halen a phupur
Bara fflat (paced o tortilla)
Iogwrt naturiol
Dull
Ychwanegwch y sbeisys i badell oer, gyda llwy fwrdd o olew. Ffriwch am 2 funud ar dymheredd canolig. Yna, ychwanegwch y winwns garlleg a'r pupur coch, a'u coginio am 5 munud tan eu bod yn feddal. Ychwanegwch mwy o olew os oes angen.
Ychwanegwch y tin tomato, a golchwch y tin allan gyda hanner tin o ddŵr cyn ei hychwanegu i'r badell.
Gwasgwch y pâst tomato i'r gymysgedd a thaflwch y tsili i fewn yn gyfan. Mae hyn yn ychwanegu blas i'r saws, heb ormod o wres, ond byddwch yn ofalus rhag cnoi mewn iddo!
Gadewch i'r gymysgedd ffrwtian am rai munudau cyn ychwanegu'r mêl. Blaswch y saws - oes angen halen, mwy o fêl, pupur? Ychwanegwch os oes.
Pan fyddwch yn hapus gyda blas y saws, gwnewch 4 'twll' i'r wyau a thorri'r wyau i'r gymysgedd. Byddwch yn ofalus rhag i'r melynwy dorri. Taflwch binsiad o bupur a halen dros yr wyau, a throsglwyddwch i'r ffwrn.
Pobwch mewn ffwrn canolig - 160º am 5 munud ar gyfer wy meddal.
Craswch eich bara ar fflam agored, neu mewn padell sych.
Gweinwch gyda llwy fwrdd o iogwrt naturiol ar yr ochr - ar gyfer mopio'r saws a'r ŵy!
Hefyd o ddiddordeb