Gwahardd plastig untro: Llywodraeth yn gwahodd syniadau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynlluniau i wahardd plastig sy'n gallu cael eu defnyddio unwaith yn unig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn ei bod eisiau "clywed gan bobl Cymru sut y gall y wlad chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i'r afael â'r broblem o wastraff plastig".
Uchelgais Llywodraeth Cymru ydy i'r wlad beidio defnyddio unrhyw blastig sydd ddim yn gallu cael ei ailddefnyddio yn ddiangen.
Pe bai'r cynlluniau yn dod i rym byddai eitemau fel gwellt yfed a chyllyll a ffyrc plastig, a phecynnau bwyd a diod polystyren yn cael eu gwahardd.
Mae'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i leisio eu barn ar gynlluniau'r llywodraeth, a bydd yr ymgynghoriad ar agor nes 22 Hydref.
Dim gwastraff erbyn 2050?
Mae'r cynlluniau yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i fod yn wlad sy'n cynhyrchu dim gwastraff o gwbl erbyn 2050.
Dywedodd Ms Blythyn y byddai'r cynigion yn helpu ymdrechion cymunedau i ddefnyddio llai o blastig trwy dynnu'r rhai nad oes modd ailddefnyddio o'r gadwyn gyflenwi.
"Mae llygredd plastig a'r effaith y mae'n ei gael ar ein hamgylchedd yn aml yn cael sylw yn y cyfryngau, ar-lein ac mewn sgyrsiau rwy'n eu cael bob dydd â phobl ledled Cymru," meddai.
"Mae'n difetha ein cymunedau ac yn cael effaith ddinistriol ar ein bywyd gwyllt.
"Gobeithio y bydd pobl Cymru yn awr yn manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn a'n helpu i symud ymlaen ar ein taith tuag at Gymru ddi-sbwriel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018