Y Bencampwriaeth: Brentford 3-1 Abertawe (3-2)

  • Cyhoeddwyd
Brentford v AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Watkins sgoriodd gôl gynta'r gêm ar Barc Griffin nos Fercher

Chwalwyd gobeithion Abertawe o sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli yn Brentford nos Fercher.

Roedd Abertawe wedi ennill o 1-0 yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty nos Sul.

Ond sicrhaodd goliau Ollie Watkins a Emiliano Marcondes yn y 15 munud agoriadol mai Brentford oedd bellach â'r fantais.

Cafodd y tîm cartref, oedd yn chwarae am y tro olaf ar Barc Griffin cyn symud i stadiwm newydd, y dechrau gorau posib i'r ail hanner wrth i Bryan Mbeumo ychwanegu trydedd gôl.

Sgoriodd Rhian Brewster gyda 12 munud yn weddill i gynnig gobaith i'r Elyrch ond er eu hymdrechion, Brentford fydd yn chwarae yn Wembley nos Fawrth nesaf.

Caerdydd neu Fulham fydd eu gwrthwynebwyr, gyda'r Adar Gleision ar ei hôl hi o 2-0 wedi'r cymal cyntaf.