Barnwr yn gwrthod cynllun ad-drefnu addysg Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol werth £37m i ad-drefnu ysgolion yn ardal Pontypridd wedi cael ei wrthod gan adolygiad barnwrol.
Dan gynlluniau Cyngor Rhondda Cynon Taf fe fyddai nifer o ysgolion wedi cau yn y dref, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton, er mwyn agor un newydd yn ei lle ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed.
Byddai pob chweched dosbarth hefyd wedi cau, gan ganoli popeth mewn un ysgol a choleg addysg bellach.
Ond daeth y barnwr Uchel Lys, Mr Ustus Fraser i'r casgliad fod y cyngor wedi methu ag ystyried effaith y newidiadau ar ddyfodol addysg Gymraeg yr ardal. Mae'r cyngor yn ystyried y dyfarniad cyn ymateb.
Dywedodd y barnwr: "Po leiaf y disgyblion sy'n mwynhau addysg gynradd Gymraeg, po leiaf sy'n debygol o gael addysg uwchradd Gymraeg... mae'r disgyblion hynny'n cael eu colli am byth."
Penderfynodd hefyd fod y cyngor hefyd wedi methu yn ei ddyletswydd i gyfeirio'r penderfyniad i gau chweched dosbarth at Lywodraeth Cymru.
Gwir gydraddoldeb, o'r diwedd
Roedd cyfreithwyr ar ran gwrthwynebwyr yn dadlau fod fersiwn Cymraeg y rheolau perthnasol yn fwy eglur na'r rhai Saesneg ynghylch gofynion a chyfrifoldebau'r cyngor.
Dywedodd y bargyfreithiwr Rhodri Williams QC: "Mae'r dyfarniad hwn yn wir yn garreg filltir o ran arwyddocâd deddfwriaeth Gymraeg yng Nghymru.
"Ni fydd fyth o hyn ymlaen yn ddigon i ddadlau fod fersiwn Saesneg statud yn gosod gorchymyn o ran beth yw ystyr y ddeddf.
"O hyn ymlaen, bydd gofyn i bawb sy'n ymwneud â gweithredu deddfwriaeth yng Nghymru gadw mewn golwg fersiynau'r ddwy iaith.
"O'r diwedd, mae gwir gydraddoleb... i ddwy iaith Cymru wedi ei sefydlu gan y Llysoedd."
'Mater pwysig i addysg Gymraeg'
Mae'r ymgyrchwyr nawr yn galw ar y cyngor i wella'r broses ymgynghori a chynnig ystod lawn o opsiynau, gan roi llais i blant, pobl ifanc, rheini ac arbenigwyr addysg o'r dechrau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr, Katie Hadley, eu bod am weld ymgynghoriad o'r newydd gyda "dewis o opsiynau".
"Dylai Addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig."
Roedd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, wedi ymyrryd yn yr achos oherwydd potensial yr ad-drefnu i gael effaith sylweddol ar ddyfodol addysg Gymraeg. Fe gyfrannodd tystiolaeth i'r adolygiad ynghylch gofynion Mesur y Gymraeg "gan ei fod yn fater pwysig i ddyfodol addysg Gymraeg".
Ychwanegodd: "Mae'r achos hwn yn dangos yn glir i gynghorau fod rhaid i ddisgyblion dderbyn addysg o leiaf o'r un safon a gyda'r un cyfleoedd yn yr iaith o'u dewis hwy. Nid yw hyn yn ddewis, ond yn orfodol yng Nghymru.
"Mae hefyd yn nodi yn hollol glir, gydag unrhyw gynigion sydd yn mynd i effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg, mae'n rhaid cynnal asesiad trylwyr ar yr effaith. Nid dewisol yw hyn chwaith."
Mae Mr Roberts eisoes yn cynnal dau ymchwiliad i ystyried os ydy Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi torri safonau'r Gymraeg wrth beidio ystyried effaith eu cynigion ar y Gymraeg.
Ymateb y cyngor
Roedd y cyngor wedi dadlau bod rhaid ad-drefnu ysgolion yr ardal am fod gormod o lefydd gwag, a'u bod wedi ymgynghori'r ddigonol gyda'r cyhoedd.
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan fod yr awdurdod "angen ystyried cynnwys y dyfarniad yma yn llawn, cyn penderfynu sut i ymateb i'r penderfyniad yma.
"Trwy'r broses, prif nod y cyngor yw trawsnewid darparu addysg yn gadarnhaol, boed yn Gymraeg neu Saesneg yn ardal Pontypridd, trwy sicrhau buddsoddiad sylweddol a fyddai'n gwella'r cyfleodd i bobl ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019