'Mae'n siom meddwl am y caeau gwag yn Nhregaron'
- Cyhoeddwyd
Pe na bai'r pandemig Covid-19 wedi digwydd fe fyddai cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi'i chynnal yn Nhregaron heno.
Ond fel cymaint o ddigwyddiadau mawr eraill roedd rhaid gohirio, ac mae hynny wedi bod yn ergyd i bobl Tregaron a busnesau'r dref.
Yn lle croesawu degau o filoedd o ymwelwyr, mae'r dref - fel cymaint o rai eraill ar hyn o bryd - yn dawel wrth iddi ddod allan yn raddol o'r cyfnod clo.
A bydd rhaid i Geredigion aros blwyddyn arall hyd nes bod modd croesawu'r Brifwyl yn ôl i'r sir am y tro cyntaf mewn bron i 30 o flynyddoedd.
Paratoi at 'flwyddyn fawr'
Eisteddfod Aberystwyth yn 1992 oedd y tro diwethaf iddi ymweld â Cheredigion.
I bobl fusnes Tregaron, ar ddechrau 2020 roedd yr Eisteddfod yn cynnig cyfleoedd mawr - roedd cyffro a llawer o edrych ymlaen.
Mae Anwen Evans yn berchen ar siop gigydd yng nghanol y dref.
"Ro'n i wedi bod yn siarad gyda Cywain er mwyn bod yn rhan o'r siop ar y maes, ac roedd llawer o baratoi yn digwydd a gweithio mas beth fyddwn ni'n gallu gwneud a sut oeddwn ni yn mynd i wneud e," meddai.
"Ro'n i'n meddwl 'it's gonna be a big year'. Ond i ni doedd e ddim jyst am un wythnos.
"Wi'n gweld e fel pobl yn dod i'r ardal dros yr haf i gyd. Dod i weld yr ardal cyn yr Eisteddfod a dod 'nôl ar ôl yr Eisteddfod."
Fe fentrodd Anwen ar brosiect newydd hefyd gyda'i golygon ar yr Eisteddfod - trawsnewid hen adeilad y banc yng nghanol y dref yn fwyty.
Y nod oedd agor cyn Awst - ond gyda Covid-19 daeth stop ar y gwaith.
"Baswn i wedi gadael e cwpl o flynydde ar wahân i'r ffaith bod yr Eisteddfod yn dod ac o'n i'n meddwl bod y siawns yna a'r exposure i'r dref yn huge.
"Oedd 'da ni bobl yn dod i'r dref o ddiwedd mis Ionawr i gael golwg ar y dref cyn i'r Eisteddfod ddod."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er bod gohirio eleni yn "anorfod" dan yr amgylchiadau, yn ôl Elin Jones - cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod - mae 'na dal rywfaint o siom wrth i'r wythnos ei hun gyrraedd.
"Mae'r siom yn fwy erbyn hyn o feddwl nawr ry'n ni nawr yn ystod yr wythnos hynny," meddai Ms Jones, sydd hefyd yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Cymru.
"Mae'r siom o feddwl am y caeau gwag yna yn Nhregaron ac am y diffyg yna o'r holl weithgaredd roedden ni i gyd wedi bod yn cynllunio yn ein meddyliau."
Ychwanegodd: "Ry'n ni i gyd yn edrych ar y tywydd o ddydd i ddydd a meddwl tybed sut fyddai 'Steddfod Tregaron wedi ei gael.
"Ond mae pawb yn deall y sefyllfa wrth gwrs, ac ry'n ni'n hollol gyffrous am ailgydio yn y gwaith i gyd pan gawn ni'r hawl i wneud hynny a bwrw ati yn y mawr obaith y byddwn ni'n cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn nesa' yn Nhregaron.
"Bydd hi'n dipyn o Eisteddfod erbyn hynny achos bydd y disgwyl amdani wedi bod yn hir ac yn llawn cyffro."
Mwy o amser i ymgysylltu
Roedd busnesau lleol yn paratoi, a'r sir gyfan hefyd gan godi dros £400,000. Mae'n debyg y daw rhagor mewn ond does dim pwysau i godi mwy o arian.
Er y siom o orfod gohirio eleni mae nifer yn y dref yn gweld cyfle nawr mewn cael blwyddyn arall cyn cynnal yr ŵyl.
Dywedodd y cynghorydd Catherine Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Tregaron: "Dim pawb sy'n gallu dweud eu bod nhw wedi cael yr Eisteddfod am ddwy flynedd.
"Mae'n gyfle arbennig - nid bod angen rhoi Tregaron ar y map - i ni hysbysebu'r ardal arbennig da ni'n byw ynddo."
Ac yn ôl Dewi Sion Evans - is-gadeirydd y Pwyllgor Profiad Ymwelwyr a Marchnata - bydd Eisteddfodwyr yn mwynhau ymweld ag atyniadau eraill ardal y brifwyl yn 2021.
"Dewch i'r dref farchnad hanesyddol, llwybr Abergwesyn, Soar y Mynydd, mae Cors Caron ar stepen y drws dim ond 10 munud o gerdded o'r Maes," meddai.
"Mae digonedd i weld a bydd croeso cynnes i bawb.
"Y llwyddiant i ni fan hyn yn lleol yw ein bod ni'n tynnu pobl di-Gymraeg mewn i deimlo'n rhan o ŵyl ddiwylliannol, Cymreig.
"Mae'r Eisteddfod gymaint yn fwy y dyddiau yma na dim ond y canu neu'r llefaru. Ac mae cael misoedd ychwanegol i ymgysylltu yn help mawr i ni gael y neges ar led ar draws y sir gyfan."
Y fainc i'r Brifwyl na fu
Dyw canslo neu ohirio Eisteddfod ddim yn digwydd yn aml.
Yn 1940 oedd y tro diwethaf, a hynny gan fod y Maes ym Mhen-y-bont yr Ogwr yn agos at ffatri gwneud bomiau, ac roedd cynnal y Brifwyl yno yn ystod y rhyfel yn ormod o risg.
Mewn gardd ar gyrion Tregaron mae 'na rywbeth i gofio Eisteddfod 2020, y Brifwyl gafodd ei gohirio oherwydd Covid-19.
Fe wnaeth y weldiwr Arwyn Rees fainc i nodi achlysur y Brifwyl gan roi'r dyddiad arni cyn y gohirio. Felly Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 sydd ar ei chefn.
"Mae'n unigryw am wn i," meddai. "Fydda i ddim yn gwneud un arall fel hyn, ddim gyda 2020 arni beth bynnag.
"Mae lot o bobl yn dod i'r clos yma a dweud 'Duw, Duw beth wyt ti'n mynd i wneud gyda honno nawr te?'
"A 'wi'n dweud 'does dim lot o wahaniaeth 'da fi, 'wi'n joio eistedd arni.' Mwy na thebyg fydden i ddim wedi'i chadw hi i fy hunan ond mae hi wedi cymryd ei lle yn dda fan hyn ar y clos ac mae'n gyfforddus."
Mainc er cof am Eisteddfod ddigwyddodd ddim. Ar ôl rhoi siom y gohirio i naill ochr, mae pobl Tregaron yn benderfynol o wneud Eisteddfod 2021 yn un i'w chofio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2020