Galw ar Betsi i ryddhau adroddiad uned iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw unwaith yn rhagor ar fwrdd iechyd i ryddhau holl fanylion adroddiad o 2013 wnaeth "nodi safonau gofal pryderus" mewn uned iechyd meddwl.
Roedd Adroddiad Holden i uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor wedi rhybuddio fod y ward mewn "trafferthion difrifol."
Cafodd copi o'r adroddiad a oedd wedi ei olygu ei ryddhau yn 2015. , dolen allanol
Ym mis Mehefin eleni, fe wnaeth swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddweud wrth Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ryddhau'r adroddiad yn llawn.
Fe wnaeth y Bwrdd apelio'r penderfyniad.
Maen nhw'n dadlau y byddai "rhyddhau'r adroddiad llawn yn torri ymddiriedaeth y rhai oedd wedi cyfrannu i'r adroddiad."
Cafodd arolwg o uned seiciatryddol Hergest ei gomisiynu yn dilyn cwynion gan staff.
Dywedodd awdur yr adroddiad, Robin Holden, fod y berthynas rhwng y staff wedi'i "chwalu i'r fath raddau fel bod cyfaddawdu yn digwydd wrth ofalu am gleifion".
Mewn datganiad ar y pryd dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod camau wedi eu cymryd i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys ailstrwythuro rheolaeth y bwrdd ar wasanaethau iechyd meddwl.
Yn ddiweddarach daeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan fwy o feirniadaeth yn dilyn ymchwiliad i ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd - a chafodd y bwrdd ei osod dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn 2015.
Mae'r mesurau arbennig yn parhau mewn grym.
Ar 8 Mai 2019, roedd yna gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am "gopi o adroddiad llawn Robin Holden, wedi'i olygu i'r graddau sydd eu hangen yn unig i amddiffyn cyfrinachedd cleifion a hunaniaeth y chwythwyr chwiban".
Gwrthodwyd y cais ac fe arweiniodd hynny y Comisiynydd Gwybodaeth i adolygu'r penderfyniad.
Mewn rhybudd a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2020, fe dderbyniodd Catherine Dickenson o swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y gŵyn, a galwodd ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dolen allanol i "ddatgelu copi llawn o'r adroddiad gyda dim ond enwau unigolion sy'n destun yr achwyniadau wedi'u golygu."
Ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd Simon Dean, prif weithredwr dros dro'r bwrdd, fod ganddynt ddyletswydd o ofal i'w staff ac y byddai cyhoeddi'r adroddiad llawn yn torri eu hymddiriedaeth.
"Ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn 2014, rydym wedi cymryd nifer o gamau i wella safonau a gofal yn Uned Hergest," meddai.
Ychwanegodd fod archwiliadau gan Arolygaeth Iechyd Cymru wedi dangos fod safonau wedi gwella.
Yr ymateb i benderfyniad y bwrdd iechyd
Dywedodd Darren Millar AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd fod gan bobl yr hawl i wybod a oedd modd osgoi sefyllfaoedd fel Tawel Fan.
"Mae ymdrechion bwriadol i rwystro cyhoeddiad llawn yn tanseilio'r ymddiriedaeth rhwng y bwrdd a'r bobl maent yn gwasanaethu," meddai.
Mae Rhun ap Iorwerth llefarydd Plaid Cymru ar iechyd wedi galw ar y gweinidog iechyd Vaughan Gething i ymyrryd.
"Mae teuluoedd wedi ymladd yn galed er mwyn rhyddhau'r adroddiad.
"Mae rheolwyr y bwrdd wedi ymladd i gadw'n gyfrinach pob cam o'r ffordd, ac mae hynny'n codi nifer o gwestiynau.
"Os nad oes dim byd o'i le, be sydd yna i guddio?"
Ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales dywedodd Lesley Griffiths gweinidog yr amgylchedd; "Rwy'n credu os ydych yn gallu cyhoeddi gwybodaeth, mae'n dda o beth i fod yn dryloyw ac mae'n rhywbeth y bydd y gweinidog iechyd yn trafod gyda'r bwrdd iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd12 Mai 2014