Ymestyn rhybudd tenantiaid i 'leihau digartrefedd'

  • Cyhoeddwyd
Tai rhent

Bydd rhaid i lawer o landlordiaid preifat roi chwe mis o rybudd cyn symud tenantiaid o'u heiddo, dan newid i'r gyfraith yn sgil y pandemig.

Cafodd y cyfnod rhybudd ei ymestyn o ddeufis i dri ar ddechrau'r pandemig, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n golygu bod llai o bobl yn ddigartref ar gyfnod pan nad yw cynghorau'n gallu ymateb mor gyflym.

Mae'r Gweinidog Tai Julie James bellach wedi ymestyn y cyfnod o dri mis arall.

Mewn datganiad dywedodd mai'r bwriad oedd rhoi "mwy o rybudd i denantiaid sy'n wynebu gorfod gadael tai rhent cyn i'r landlord allu dechrau camau i feddiannu'r eiddo".

Ychwanegodd y byddai hynny'n oedi troi pobl allan o'u cartrefi yn ystod y pandemig.

'Ergyd drom'

Bydd y newid yn effeithio tenantiaid sydd ar gytundebau sydd wedi eu diogelu (assured tenancy), ond ni fydd yn effeithio landlordiaid os oes rhesymau'n ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol i droi pobl allan.

Galwodd Cyngor ar Bopeth Cymru am ymestyn y cyfnod fis diwethaf, gan ddweud bod galwadau am gymorth gyda rhent wedi mwy na dyblu yn wythnosau cyntaf y cyfnod clo.

Ond mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi dweud bod y newid yn "ergyd drom" gan "nad yw'n debygol y bydd llysoedd yn clywed yr achosion yn syth, felly gallai landlordiaid fod yn edrych ar 18 mis heb arian yn dod i mewn".

Dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd bod y newid yn creu "risg go iawn" o dorri hawliau landlordiaid am gael mynediad at eu heiddo.