Ton arall o'r coronafeirws yn yr hydref yn 'debygol'
- Cyhoeddwyd
Fe allai Cymru weld ton arall o'r coronafeirws yn yr hydref gyda'r "uchafbwynt yn y gaeaf", medd Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Dyma'r "senario mwyaf tebygol" meddai Frank Atherton, a'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn paratoi tuag ato.
Ond ychwanegodd ei bod hi'n anodd darogan ac y bydd rhaid "aros a gweld a gwylio yn ofalus iawn".
Dywedodd hefyd bod y mesurau i gadw golwg ar y feirws yn well nag yn gynharach yn y flwyddyn, ac y byddant yn rhoi "rhybuddion cynnar" drwy ddadansoddi nifer yr achosion a lledaeniad y feirws.
Wrth siarad ar rhaglen Breakfast ar Radio Wales, dywedodd mai'r hyn sy'n bwysig yw rheoli clystyrau fydd yn codi mewn ardaloedd o Gymru, fel yn Wrecsam yn ddiweddar, fel nad ydynt yn lledaenu i'r gymuned.
"Dyna beth rydyn ni yn ceisio osgoi," meddai.
'Amgylchiadau mwyaf cymhleth fy ngyrfa'
Ychwanegodd bod yna "her i'r gwasanaeth iechyd" wrth edrych ymlaen at y gaeaf.
"Dyma'r amgylchiadau mwyaf cymhleth i fi weld yn fy ngyrfa.
"I ddechrau mae yna lwyth o bobl sydd ddim wedi cael eu triniaethau clun neu lygaid ac mae'r gwasanaeth iechyd yn ceisio ailagor a chlirio'r triniaethau hyn.
"Ar yr un pryd rydyn ni yn gorfod paratoi'r GIG am don newydd posib.
"Rydyn ni yn gobeithio na fydd hynny yn digwydd, y bydd modd rheoli'r achosion ac na fydd y feirws yn lledaenu yn eang, ond allwn ni ddim gwarantu hynny ac mae'n rhaid i ni gynllunio ar ei gyfer."
Ychwanegodd bod Brexit hefyd ar y gorwel sy'n golygu y bydd hi yn "aeaf caled".
Mae rhai pobl ifanc wedi bod yn ymwneud gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ers i'r cyfyngiadau lacio gyda gorchymyn gwasgaru mewn grym ym Mae Caerdydd dros y penwythnos.
Ond dywedodd Frank Atherton bod hi'n bwysig peidio "gweld bai ar grŵp penodol mewn cymdeithas".
"Mae angen i ni feddwl am bobl ifanc a'r ffaith eu bod wedi cael haf anodd iawn.
"Mae nifer o'u pleserau a'u mwynhad wedi eu cymryd i ffwrdd ac fe allwn ni ddeall y math yma o ymddygiad," meddai.
Er hynny dywedodd bod hi'n bwysig i bawb ddeall bod gweithredoedd pobl yn gallu rhoi pawb mewn perygl a golygu y bydd yn rhaid tynhau'r rheolau unwaith eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2020